Dathlu Diwylliant Eryri a Phen Llŷn

Y mynyddoedd a’r môr, y llynnoedd a’r afonydd, y trefi a’r pentrefi tlws... Dyna Eryri’r cerdyn post. Ond be’ chewch chi ddim ar gerdyn post ydy’r bwrlwm diwylliannol a chelfyddydol sydd i’w ganfod ym mhob cwr o’r ardal hon, ddeuddeg mis y flwyddyn. Yn ganolog i’r bwrlwm hwnnw, mae gwyliau a digwyddiadau o bob lliw a llun. Codwch eich pac. Mae’n hen bryd mynd am dro o’u cwmpas nhw!

 mwyafrif gwyliau’r haf wedi bod, awn â chi yn syth at y digwyddiadau nesaf sydd ar y gweill, cyn rhoi blas o’r myrdd o wyliau y gallwch gynlluio i ymweld â nhw y flwyddyn nesaf. Reit, barod i gychwyn? 

Parc Glynllifon ydy’r stop cyntaf. Ganol Tachwedd, bydd yr Ŵyl Grefft a Bwyd yn ei hôl. Wrth i’r Nadolig ddynesu, dyma ŵyl boblogaidd sy’n llawn dop o grefftau ac anrhegion penigamp, heb sôn am fwydydd a diodydd lleol. Ewch i ddweud helô wrth Siôn Corn yn ei groto, cyn crwydro rhai o’r llwybrau coediog godidog. Neu ddawnsio, hyd yn oed, i sŵn y gerddoriaeth fyw a fydd yn gyfeiliant i’r cyfan.

Mae gŵyl go debyg ei naws, sef y Ffair Fwyd a Chrefft, yn cael ei chynnal ym mhentref Portmeirion ddechrau Rhagfyr. Fuodd erioed leoliad mwy gwefreiddiol i wneud eich siopa Nadolig na’r pentref Eidalaidd ysblennydd hwn? Uwchben trai a llanw aber afon Dwyryd, mae yma wledd i’r llygad rownd pob cornel. Hynny, ynghyd â gwledd o grefftau Cymreig, gwledd o fwydydd a diodydd lleol, a gwledd o adloniant a fydd at ddant pawb.

O Bortmeirion, dilynwch yr arfordir i’r gorllewin. Ac wrth gyrraedd Pwllheli, prifddinas gwlad Llŷn, cofiwch daro i mewn i Neuadd Dwyfor. Dyma ganolfan gelfyddydol sydd hefyd yn theatr, yn sinema ac yn llyfrgell, ac mae’n lle heb ei ail i gael blas ar ddiwylliant Cymreig yr ardal. Mae yma ddigwyddiadau byw rheolaidd, gan gynnwys dwy Noson Lawen arbennig ym mis Medi. A chofiwch fod gan Bwllheli orsaf reilffordd a chysylltiadau bysus hwylus; does dim rhaid mynd yno mewn car.

Mae Bangor yn lle arall hawdd i’w gyrraedd ar fws ac ar drên. Dinas y Coleg ar y Bryn, a dinas Cadeirlan enwog Deiniol Sant. Ond hefyd, dinas Pontio – canolfan gelfyddydol brysur a bywiog sy’n cynnig adloniant di-ben-draw. Mae gigs, cerddoriaeth, comedi, ffilmiau, arlwy’r National Theatre Live a chant a mil o bethau eraill i’w gweld a’u profi yma o dan un to. Ym mis Hydref a mis Tachwedd, ymgollwch yn hud a lledrith y grŵp gwerin Calan ac yn sioeau cyffrous Cwmni Dawns Cenedlaethol Cymru.

Pontio Bangor


I berfeddion Meirionnydd nesaf, a hynny i un o wyliau mwyaf eiconig Cymru: Sesiwn Fawr Dolgellau. Bydd yn rhaid aros tan ganol Gorffennaf cyn mynd, ond bydd hi’n werth aros. Dros benwythnos cyfan, bydd cerddoriaeth Gymraeg a gwerinol yn llenwi pob twll a chornel o’r dref fach dlws hon. Mae’r awyrgylch yn drydanol: ar y strydoedd, yn y tafarndai a’r caffis, yn y siopau, ac ar y llwyfannau perfformio (roedd un ar ddeg o’r rheini eleni). Mae hi’n ŵyl hollgynhwysol mewn sawl ystyr, gan fod y gymuned a busnesau lleol yn cyfrannu’n sylweddol at ei llwyddiant. Ac mae yma rywbeth i’r teulu i gyd.   

Does dim angen teithio’n bell i gyrraedd ein lleoliad nesaf: Blaenau Ffestiniog. Tref ydy hon sy’n rhan amlwg o Dirwedd Llechi Gogledd Orllewin Cymru, sy’n safle Treftadaeth y Byd UNESCO. Ewch ar y trên ar bob cyfrif: mae lein brydferth Dyffryn Conwy yn terfynu fan hyn. Ond nid llechi a rheilffordd yn unig gewch chi yma. Ddechrau mis Gorffennaf, mae Gŵyl Car Gwyllt yn ddathliad o ddiwylliant cerddorol y dref, diwylliant sydd wedi esgor ar sawl grŵp poblogaidd dros y blynyddoedd. Dyma ŵyl sy’n reiat o hwyl, a’r croeso’n wresog. Yr enw ‘car gwyllt’ wedyn... dyfais oedd hon i gludo’r chwarelwyr i lawr y llechweddau ar ddiwedd diwrnod gwaith, nid yn annhebyg i drên bach gwib. Profiad cyffrous, mae’n siŵr, yn union fel Gŵyl Car Gwyllt ei hun.

 

Os Blaenau Ffestiniog oedd prifddinas y llechi, Caernarfon oedd prifddinas yr inc. Ond mae’n bosibl y byddai ‘prifddinas y bwyd’ yn enw mwy addas erbyn hyn, gan mai tre’r Cofis ydy cartref un o wyliau bwyd mwyaf llwyddiannus Cymru. Bob mis Mai, bydd degau o filoedd yn tyrru i Ŵyl Fwyd Caernarfon, a’r hen strydoedd yn llawn i’r ymylon o ddanteithion a difyrrwch. Fis Gorffennaf, prysurwch yn ôl am ail lenwad – ar ffurf adloniant os nad bwyd – wrth fwynhau arlwy artistig Gŵyl Arall. Mae comedi, cerddoriaeth, sgyrsiau llenyddol, teithiau hanes a llawer mwy yn rhan o’r rhaglen bob blwyddyn. Ac os nad ydy hynny’n ddigon, tua’r un adeg bydd Gŵyl y Felinheli hefyd yn difyrru’r torfeydd gwta dair milltir i fyny’r Fenai. Mae hon yn para wythnos gyfan, ac yn llawn stondinau, adloniant, bwyd a diod. Fel cynifer o’r gwyliau eraill ar y rhestr yma, gwirfoddolwyr sy’n trefnu’r cyfan, pobl sy’n ymfalchïo mewn creu cymunedau bywiog ar garreg eu drws.  

Ganol mis Gorffennaf, bydd Gŵyl Criccieth yn glanio yn y dref lan môr brydferth yn Eifionydd. Wythnos gyfan o gomedi, teithiau cerdded, arddangosfeydd, gigs, darlithoedd, cyngherddau a chiniawau – heb anghofio am y twmpath dawns i’r teulu oll. Tref fach ydy Cricieth ond mae hon yn ŵyl hynod o eang ei hapêl. Trefnwch eich ymweliad i gyd-daro â hi!

Dilynwch lannau Bae Ceredigion tua’r de a dyma gyrraedd y Bermo (neu Abermaw). Lle poblogaidd ymhlith ymwelwyr drwy’r flwyddyn gron, ond mae penwythnos cyntaf mis Gorffennaf yn adeg dda iawn i alw draw. Dyma pryd cynhelir Gŵyl Fwyd Abermaw yn harbwr y dref. Dros ddeuddydd, bydd yma gerddoriaeth fyw, stondinau, gweithgareddau i’r plant, cystadleuaeth pysgota crancod, a helfa drysor. Cyngor y Dref sy’n trefnu’r cyfan. Cofiwch fod modd cyrraedd y Bermo ar drên hefyd. Yn wir, byddai rhai’n dadlau mai dyma’r unig ffordd i deithio yma, gan mai Lein Arfordir y Cambrian a’i golygfeydd anhygoel ydy un o lwybrau trenau gorau Prydain.

Mae natur wahanol i Ŵyl Hinsawdd Dyffryn Ogwen ym Methesda, sy’n cael ei chynnal ddechrau mis Mai. Ac efallai fod ‘natur’ yn air addas yn hyn o beth – dyma ŵyl sy’n helpu’r gymuned i ddysgu am argyfwng y newid yn yr hinsawdd, ac yn ceisio ysbrydoli pobl o bob oed i weithredu. Mae yma weithgareddau i blant, siaradwyr gwadd, stondinau, gemau a lluniaeth. Digon o hwyl, felly, ond dipyn o addysg a thipyn i gnoi cil yn ei gylch hefyd. A’r cyfan yn amlygu’r potensial i newid pethau pan ddaw cymdeithas at ei gilydd.

Ddiwedd mis Mehefin y bydd Nefyn yn cynnal ei gŵyl hi. Ac efallai mai dyma’r ŵyl sydd â’r enw gorau o holl wyliau gwych y wlad: Penwythnos Porthi’r Penwaig. Enw wrth gwrs sy’n deillio o hanes morwrol y dref a’i diwydiant pysgota prysur gynt. Mewn ffordd, mae hon yn sawl gŵyl mewn un, gan ei bod hi’n cynnwys parêd ar y bore Sadwrn, gŵyl fwyd yn y prynhawn, ac yna adloniant cerddorol ar y nos Sadwrn a’r dydd Sul. Ewch yno’r flwyddyn nesaf i weld sut brofiad ydy ‘porthi’r penwaig’ eich hun! 

Ar ben hyn i gyd, mae gan y gogledd-orllewin leoliadau eraill rif y gwlith lle gallwch chi gael dos di-ben-draw o gelfyddyd a diwylliant. Yn eu plith nhw mae Theatr y Ddraig yn y Abermaw, theatr glyd a chanolfan gymunedol groesawgar mewn hen gapel; Oriel Plas Glyn-y-Weddw yn Llanbedrog, sy’n adeilad Fictoraidd Gothig trawiadol dafliad carreg o lan môr; Yr Hen Lys yng Nghaernarfon, sy’n cynnal cyngherddau a gigs mewn awditoriwm rhyfeddol a arferai fod yn llys barn; canolfan gelfyddydau Galeri yng Nghaernarfon, sydd â caffi, galeri, theatr a dwy sgrin sinema; Theatr Derek Williams ar safle Ysgol Godre’r Berwyn yn y Bala; a Storiel, yr amgueddfa a’r oriel gelf ragorol ym Mangor. Cofiwch hefyd am wefan Gwynedd Greadigol sy’n cynnwys rhestr anhepgor o’r holl ddigwyddiadau diwylliannol sydd i ddod.