Dwylo Diwyd dros Eryri

Elusen sy’n seiliedig ar aelodaeth yw Cymdeithas Eryri, a sefydlwyd yn 1967 i warchod a gwella harddwch a rhinweddau arbennig Eryri a hyrwyddo eu mwynhad er budd pawb sy’n byw yn Eryri, sy’n gweithio yma neu sy’n ymweld â’r ardal nawr ac yn y dyfodol. Mae tair cangen i’n gwaith i warchod Eryri: cadwraeth ymarferol, ymgyrchu ac addysg.

Ein gwaith, mewn lluniau:

GWEITHIO MEWN PARTNERIAETH

MAD Weekend campsite, Craflwyn Estate

Mae hi’n orchwyl enfawr cadw Eryri’n arbennig ac mae angen cydweithio â chyrff tebyg. Digwyddiad gwirfoddoli dros un penwythnos yw ein Penwythnos Gwneud Gwahaniaeth sy’n dod â grwpiau cadwraeth lleol a chenedlaethol ac unigolion at ei gilydd i wneud gwir wahaniaeth yn Eryri.

DIFA RHYWOGAETHAU YMLEDOL

Snowdonia Society volunteer removing Rhododendron saplings

Gwirfoddolwr y Gymdeithas yn difa eginblanhigion Rhodendron ponticum o lethrau coediog Nant Gwynant, Eryri. Ymysg rhywogaethau ymledol eraill yn Eryri mae clymog Siapan a jac-y-neidiwr.

CYNNAL A CHADW LLWYBRAU

Snowdonia Society volunteer

Mae gwirfoddolwyr Cymdeithas Eryri’n helpu i reoli llwybrau Eryri drwy wella draeniad a mynd i’r afael ag erydiad.

YMGYRCHOEDD

The Fairy Glen, Snowdonia National Park

Mae angen cymorth ychwanegol ambell dro ar fannau arbennig i bobl a byd natur. Wrth ymgyrchu yn 2024-16 gwarchodwyd Ffos Noddyn a Rhaeadr y Graig Lwyd rhag datblygiad amhriodol.

ADDYSG

Meadow flower walk with the Snowdonia Society

Yn 2017 lansiodd Cymdeithas Eryri ei Huned Medrau Ymarferol i helpu gwirfoddolwyr i ennill achrediad am eu gwaith gwirfoddol ac i gymryd cam tuag at yrfa mewn cadwraeth natur.

YMWNEUD Â’R CYHOEDD

Snowdonia plant sale at the Honey Pot tearoom, Tŷ Hyll

Cymdeithas Eryri yw perchennog Tŷ Hyll, yr adeilad rhestredig Gradd II lle lleolir ystafell de ac arddangosfa’r wenynen fêl ger Betws-y-coed. Defnyddir y pedair erw o goedlan a gardd fywyd gwyllt trawiadol gan y Gymdeithas i arddangos garddio sy’n gyfeillgar i fywyd gwyllt ac i gynnal digwyddiadau ledled y flwyddyn.

GWNEWCH EICH RHAN DROS ERYRI!

Snowdonia Society volunteer

YMAELODWCH â Chymdeithas Eryri heddiw
CYFRANNWCH i Gymdeithas Eryri
GWIRFODDOLWCH gyda ni
DIGWYDDIADAU – byddem yn iawn o’ch gweld