Mae Llyn Padarn yn Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig oherwydd pwysigrwydd y bywyd gwyllt a’r ddaeareg yno. Mae’n un o ddim ond tri chynefin naturiol yng Nghymru lle mae’r Torgoch yn byw. Edrychwch yn ôl dros y llyn i weld adfeilion Castell Dolbadarn a godwyd yn y drydedd ganrif ar ddeg.
Rydym yn awyddus i chi fwynhau’ch ymweliad â Pharc Gwledig Padarn ond cofiwch y gall rhai rhannau o’r Parc fod yn beryglus ac y dylid cadw llygad ar blant trwy’r amser.
● Cadwch at y llwybrau sydd ag arwyddion cyfeirio yn unig
● Peidiwch â mynd i mewn i adfeilion adeiladau
● Cadwch draw o hen adeiladweithiau’r chwarel
● Mae rhai o’r llwybrau’n anwastad a rhai ar ymyl dibyn serth
● Mae hen weithfeydd y chwarel, llwybrau serth trwy’r coed a
dyfroedd dwfn yn y Parc
Pellter: 8 km / 6 milltir
Amcan amser: 2.5 awr
Parcio: Parc Gwledig Padarn, LL55 4TY (https://what3words.com/trackers.sometimes.octopus)