Crwydro Eryri a Phen Llŷn

O gopaon godidog a thraethau hirfelyn, i adeiladau hanesyddol a digwyddiadau bywiog, mae Pen Llŷn ac Eryri yn gyforiog o leoliadau ac atyniadau syfrdanol. Felly os ydych chi’n chwilio am wyliau, am ddigwyddiad neu ymweliad dydd, fan hyn yw’r lle i ddod. 

Mae’n ddigon posib mai hanesion yr ardal sy’n eich denu yma. Gyda chynifer o straeon a chwedlau wedi eu lleoli ar hyd a lled yr ardal, mae cyfleoedd di-rif yma i gerdded yn ôl troed cewri, neu ddilyn llwybr y tylwyth teg. Mae cestyll hynafol hefyd yn aros amdanoch yn Eryri, o Gastell Caernarfon i Gastell Conwy, Castell y Bere a Chastell Harlech, felly camwch dros y trothwy er mwyn profi’r oesoedd a fu.

Tra bod nifer o atyniadau adnabyddus yn denu gan gynnwys Yr Wyddfa wrth gwrs, mae Eryri hefyd yn llawn dop o lecynnau tawelach sydd yr un mor ddifyr. Beth am gerdded llwybr Craig y Fron yn y Bala gyda’r teulu? Fe gewch olygfeydd o’r Bala ei hun ac o hen chwarel, cyn cael cyfle i edmygu’r cadwyni o fynyddoedd o’ch cwmpas. Neu beth am ymweld â Bangor am y dydd? Gallwch grwydro ar hyd y pier cyn torri syched a gwledda yn lleol.

Sôn am fwyd a diod, mae’n ddigon posib mai cynnyrch eithriadol yr ardal sy’n apelio. Gyda chynifer o fwytai, caffis, siopau a chynhyrchwyr bwyd arobryn yn yr ardal, does dim esgus dros fynd adra’n llwglyd nac yn waglaw. Draw yn Harlech mae siop Y Groser yn hudo cwsmeriaid gydag arogl diguro eu bara ffres. Os am hufen iâ lleol mae digonedd o ddewis rhwng Glaslyn ym Meddgelert, Glasu ym Mhwllheli, neu’r enwog Cadwaladers yng Nghricieth, Porthmadog a Betws-y-Coed. A chithau ar eich gwyliau ger y môr, efallai mai bwyd môr sy’n dod a dŵr i’ch dannedd, felly Blas y Môr ym Mhorthmadog yw’r lle i chi. Mae digonedd o ddewis, felly estynnwch eich basged! 

Y cynhwysyn arall sy’n gwneud gwyliau yn arbennig a chofiadwy yw cael profi’r diwylliant lleol, ac heb os mae toreth o gyfleodd i wneud hyn yn Eryri a Phen Llŷn ar hyd y flwyddyn. O Ŵyl Fwyd a Chrefft Glynllifon, i gyngherddau a sioeau mewn canolfannau ar hyd yr ardal, a’r gwyliau dirifedi sy’n cael eu cynnal trwy’r haf. Gydag ychydig o ymchwil, gallwch ddarganfod diddannwch heb ei ail yma.

 

Graffeg cystadleuaeth Portmeirion

 

Logo Wedi ei ariannu gan Llywodraeth y DU 200