Cricieth, Porthmadog a Dyffryn Ffestiniog

Cawn wybod pam ein bod yn adnabyddus fel Mynyddoedd ac Arfordir Eryri drwy gyfrwng yr ardal hon. Mae’n perthyn i’r ddwy garfan, yr arfordir a’r wlad, gyda thref harbwr bywiog Porthmadog rywle yn y canol. Ewch oddeutu milltir o Borthmadog i’r gorllewin a byddwch yn troedio ar fan cychwyn tywod Pen Llŷn. I’r cyfeiriad arall, ewch ar reilffordd fechan a dringwch ddyffryn coediog Ffestiniog i’r mynyddoedd fry. Mae gan y rhan hon o Gymru gyfoeth arbennig o hanes a threftadaeth, a adlewyrchir mewn dewis rhyfeddol o leoedd ac atyniadau diwylliannol y gellir ymweld â hwy.

Blaenau Ffestiniog

Cyn ‘Brifddinas y llechi’ gyda harddwch rhyfedd ac anorchfygol ag iddi dwristiaeth ddiwylliannol helaeth. Ymdreigla sgrïau o lechi toredig i lawr mynyddoedd serthochrog sy’n ymdoddi â mawredd naturiol Eryri. Cewch gip ar hanes unigryw Blaenau yn Llechwedd, un o’r atyniadau twristiaeth mwyaf llwyddiannus yng Nghymru. Yma hefyd, ceir Bounce Below, Zip World Caverns a Zip World Titan.

Yn yr un lleoliad ceir hefyd llwybrau beicio lawr mynydd Antur Stiniog.

Mae gwelliannau i ganol y dref wedi adfywio’r ardal siopa, ac mae geiriau, dywediadau, termau chwarelyddol a barddoniaeth leol wedi cael eu harysgrifio ar y drefwedd – mae llawlyfr dehongli rhagorol ar gael yn lleol neu ar-lein yn www.blaenauffestiniog.org/poetry (gallwch hefyd lawrlwytho ffeil sain i’ch smartphone). Gwnewch ddiwrnod iawn ohoni a dewch yma ar reilffordd lein gul Ffestiniog o Borthmadog. Dewch â’r beic gyda chi: mae llwybrau beicio Antur Stiniog – sy’n cynnwys llwybrau gwefreiddiol lawr y bryniau– nawr ar agor.

Borth-y-Gest

Pentref harbwr bach prydferth gyda glan y môr drws nesaf i Borthmadog. Golygfeydd bendigedig o’r aber a’r mynyddoedd.  Cyflwyniad hudolus i Lŷn. Mae Morfa Bychan a Thraeth y Graig Ddu gerllaw.

Cricieth

Mae yma gyfaredd Fictorianaidd ar y lan môr yma – heb sôn am y castell canoloesol ar ben hynny. Caiff dau draeth Cricieth eu gwahanu gyda thalar gadarn sydd â hanes rhyfeddol a chythryblus. Mae’r gyrchfan fechan yn llawn cymeriad Fictorianaidd – a blodau. Ceir sawl bwyty a gwesty o ansawdd, gyda nifer ohonynt â golygfeydd breuddwydiol dros Fae Ceredigion. Llecyn perffaith ar gyfer archwilio mynyddoedd Eryri a Phen Llŷn. Pysgota bras ardderchog yn llyn chwe-acr Bron Eifion gerllaw. 

Llanystumdwy

Pentref bychan ger Cricieth, cartref plentyndod David Lloyd George. Mae gan y pentref amgueddfa sydd wedi ymgysegru i un o wladweinwyr gorau’r ugeinfed ganrif – ef gyflwynodd y pensiwn, arwain y wlad fel Prif Weinidog yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf a galluogi merched i bleidleisio. Mae hefyd yn gartref i Dŷ Newydd, Canolfan Ysgrifennu Creadigol Genedlaethol Cymru a Fferm Gwningod/Parc Anifeiliaid Dwyfor.

Porthmadog

Tref harbwr brysur gydag ystod dda o siopau ac atyniadau, gan gynnwys Portmeirion gerllaw. Nid yw’r rhai sy’n frwdfrydig am reilffyrdd lein cul yn gallu cadw draw.  Mae Porthmadog yn brif ganolfan, gyda dim llai na thair lein – rheilffordd Ffestiniog (sy’n rhedeg i Flaenau Ffestinog), rheilffordd Dreftadaeth Ucheldir Cymru sy’n fyrrach (gyda’i hamgueddfa reilffordd ymarferol ragorol) a’r rheilffordd Ucheldir Cymru arall sydd ar wahân (sy’n rhedeg yr holl ffordd i Gaernarfon). Mewn gwirionedd, ceir pedair, oherwydd bod gan reilffordd Treftadaeth Ucheldir Cymru lein fechan ar raddfa fach hefyd sy’n defnyddio glo wedi’i dorri yn lympiau llai gan ei frawd mawr! Nid trenau oedd yr unig ddull o deithio yn hanes Porthmadog fel canolfan bwysig oedd yn gwasanaethu’r diwydiant llechi. Mae Amgueddfa Forol y dref yn adrodd yr hanes o sut y tyfodd y dref yn gyflym yn yr 19eg ganrif o fod yn gaeau agored i borthladd allforio llechi ac adeiladu llongau ar gyfer sgwneri tri mast hardd a enwir yn Western Ocean Yachts. Un o dirnodau mwyaf poblogaidd Porthmadog yw’r Cob, arglawdd sy’n filltir o hyd ar draws yr aber a ymffurfiodd dynged y dref. Mae Porthmadog yn le da i gerddwyr a beicwyr – dilynwch Lwybr Arfordir Cymru a llwybr beic Lôn Ardudwy. 

Trawsfynydd

Canolfan arall sydd mewn lleoliad da ar gyfer cerdded a beicio gan ei bod yn agos at y mynyddoedd a’r llwybrau ym Mharc Coedwig Coed y Brenin. Yn 2013 caiff adeilad a glanfa newydd ar gyfer defnyddwyr y llyn sef pysgotwyr, caiacwyr, beicwyr, cerddwyr a rhai sy’n adarydda. Ewch i ymweld â Hostel a Chanolfan Dreftadaeth Llys Ednowain sy’n rhoi cipolwg i chi o’r diwylliant lleol a Thrawsfynydd yn y dyddiau a fu a Yr Ysgwrn, cartref Hedd Wyn, Bardd y Gadair Ddu.

Tremadog

Pentref boddhaol o ran pensaernïaeth gyda sgwâr cain helaeth a grëwyd gan William Madocks, gŵr busnes o’r 19eg ganrif (a adeiladodd y Cob ym Mhorthmadog hefyd). Man geni TE Lawrence (Lawrence o Arabia).