Corris

Cyn bentref chwarel ag iddo harddwch hen ffasiwn ac anghonfensiynol wedi’i leoli yng Nghoedwig Dyfi. Ceir yma gyfoeth syfrdanol o atyniadau lleol, sy’n cynnwys Labrinth y Brenin Arthur, Y Ddrysfa Chwedlau Cymreig a Chanolfan Grefftau Corris, ynghyd ag amgueddfa a Rheilffordd trên stêm lein gul Corris. Teithiau tanddaearol gyda’r Corris Mine Explorers, beicio mynydd gwefreiddiol yn y goedwig, pysgota penigamp yn Llyn Myngul a theithiau cerdded heriol ar Gader Idris.