Cerdded yn Eryri

Mae Eryri yn le gwych i ddod i gerdded ac mae gennym rwydwaith o lwybrau ar gyfer pobl o bob gallu. Pru’n a’i esgyn i ucheldiroedd Yr Wyddfa yw eich uchelgais neu gerdded ar un o lwybrau hamddenol yr arfordir, rydych yn siwr o gael golygfeydd godidog a tirlun amrywiol. Mae’r tirlun ei hun yn amrywio o fynyddoedd garw, traethau tywynnog hir i lynoedd ac afonydd clir. Mae’r Parc Cenedlaethol yn parhau i ddatblygu rhwydwaith o lwybrau ar gyfer cerddwyr o bob gallu.

Llwybrau Anodd Llafurus

Os ydych eisiau cerdded un o’r chwe llwybr i gopa’r Wyddfa neu gerdded Cader Idris yn ne Eryri, mae’r llwybrau hyn yn gallu bod yn heriol mewn mannau. Gall y tirwedd mynyddig fod yn sialens gyda llethrau diffwys, llwybrau creigiog a’r angen am ddringo mewn rhai mannau. Rhaid cymryd gofal eithriadol wrth gerdded y llwybrau yma yn ystod tywydd gaeafol gan fod cyflwr y llwybr dan droed yn gallu bod yn beryglus iawn. Ni ddylai cerddwyr di-brofiad ymgeisio’r llwybrau yn ystod tywydd o’r fath. Dylai cerddwyr fod yn wyliadwrus o sgri rydd a llethrau. Cofiwch wisgo dillad ac esgidiau addas cyn mynd allan ar y mynydd gan edrych ar ragolygon y tywydd cyn cychwyn eich taith.

Llwybr Pilin Pwn, Tŷ Nant, Cader Idris

Pellter: 6 milltir - 10Km (yno ac yn ôl)
Esgyniad: 2,384 troed - 727 metr
Amser: Tua 5 awr (yno ac yn ôl)
Dechrau/Diwedd: Maes Parcio Tŷ Nant (SH 697 153)
Parcio: Maes Parcio APCE ym Mhont Dyffrydan
Côd Post: LL40 1TL
Map Perthnasol: Arolwg Ordnans Exp OL23 (Cader Idris a Llyn Tegid)

Llwybr Minffordd, Cader Idris

Pellter: 6 milltir - 10Km (yno ac yn ôl)
Esgyniad: 2,585 troed - 788 metr
Amser: Tua 5 awr (yno ac yn ôl)
Dechrau/Diwedd: Maes Parcio Dôl Idris (SH 732 116)
Parcio: Maes Parcio Dôl Idris wrth gyffordd A487 & B4405
Côd Post: LL36 9AJ
Map Perthnasol: Arolwg Ordnans Exp OL23 (Cader Idris a Llyn Tegid)

Llwybrau Cymhedrol

Mae nifer o’r teithiau hamdden yma yn rai cylchol ac yn amrywio o deithiau byr, ychydig o oriau i rai hirfaith. Maent yn gyfle gwych i weld Parc Cenedlaethol Eryri heb orfod mentro allan ar rai o’r llwybrau mwyaf heriol. Er bod y teithiau yma yn llai o sialens, gall y tirwedd amrywio â pob lleoliad. Wrth fentro allan byddwch yn barod ar gyfer tir fferm, llwybrau anwastad, ffyrdd tarmac, nentydd, corsydd a rhannau serth. Mae’r teithiau yma yn addas ar gyfer yr holl deulu. Mae esgidiau cerdded da a dillad addas yn cael ei argymell.

Llyn Tegid, Bala

Pellter: Tua 6 milltir (10Km)
Amser: Tua 4-5 awr
Dechrau: Maes Parcio APCE ar flaendraeth Llyn Tegid
Diwedd: Y Gilfach Goffa, Llanuwchllyn
Parcio: Maes parcio Talu & Arddangos Llyn Tegid
Cyfeirnod Grid: SH 923 357
Côd Post: LL23 7YE
Map: Arolwg Ordnans Explorer OL23 (Cadair Idris, Llyn Tegid)

Cwm Idwal, Dyffryn Ogwen

Pellter: 3 milltir - 5Km
Amser: Tua 2 awr
Dechrau/Diwedd: Canolfan Wardeiniaid Ogwen, Nant Ffrancon, Bethesda (SH 649603)
Parcio: Maes Parcio APCE yn Canolfan Wardeiniad Ogwen
Côd Post: LL57 3LZ
Map Perthnasol: Arolwg Ordnans Exp OL17 (Yr Wyddfa a Dyffryn Conwy)

Llwybrau Hamddenol

Yr hyn sy’n dda am y llwybrau hamdden yma yw eu bod i gyd yn gymharol wastad gyda ychydig neu ddim graddiant. Gallwch gerdded rhannau o’r llwybrau neu orffen y daith gyfan-mae fyny i chi. Ac eithrio Llwybr Mawddach, mae’n bosib cwblhau y llwybrau hawdd yma mewn ychydig oriau gan roi cyfle i chwi deithio o amgylch Eryri gyda gweddill eich amser. Cofiwch wisgo esgidiau cyfforddus.

Tomen y Mur, Trawsfynydd

Pellter: 4 milltir - 6.5 km
Amser: Tua 3 awr
Dechrau/Diwedd: Maes parcio ger Gorsaf Ynni Niwclear Trawsfynydd (SH 697 384)
Parcio: Maes parcio ger Gorsaf Ynni Niwclear Trawsfynydd
Côd Post: LL41 4DS
Map Perthnasol: Arolwg Ordnans Exp OL18 (Harlech, Porthmadog a Bala)

Lôn Gwyrfai, Rhyd Ddu

Pellter: 4½ milltir - 7 km
Amser: Tua 3 awr
Dechrau/Diwedd: Maes Parcio APCE yn Rhyd Ddu neu Feddgelert
Parcio: Maes Parcio APCE yn Rhyd Ddu neu Feddgelert (mae’r ddau yn rhai ‘Talu ac Arddangos’) (SH 571 526 Rhyd Ddu) (SH 588 482 Beddgelert)
Côd Post: Rhyd Ddu LL54 6TN / Beddgelert LL55 4YJ
Map Perthnasol: Arolwg Ordnans Exp OL17 (Yr Wyddfa a Dyffryn Conwy)

Llwybr Rhaeadr Cynfal

Pellter: 3 milltir / 5 Km
Amser: Tua 2-3 awr
Dechrau/Diwedd: Maes parcio yng nghanol Llan Ffestiniog
Cyfeirnod Grid: SH 701 420 / LL41 4PB
Côd Post: LL41 4LR
Map: Arolwg Ordnans Explorer OL18 (Harlech, Porthmadog & Bala)

Teithiau Cerdded Hygyrch

Os ydych chi'n chwilio am deithiau cerdded lle mae hygyrchedd yn ffactor allweddol ac efallai pellter hefyd yn ystyriaeth bwysig, yna dylai'r teithiau cerdded hygyrch hyn fynd i'r afael â'r ddau. Mae'r teithiau hyn yn gymharol fyr ac mae gan y rhan fwyaf ohonynt adrannau sy'n hygyrch i ddefnyddwyr cadair olwyn. Maent hefyd yn addas ar gyfer y rheiny sydd am ddefnyddio cadeiriau gwthio ac yn deithiau hamdden gwych. Mae gan y rhan fwyaf o'r teithiau cerdded hygyrch hyn gyfleusterau gerllaw, gan gynnwys parcio, byrddau picnic a thoiledau.

Llwybr Mawddach

Pellter: 9 milltir - 15km (un ffordd)
Dechrau/Diwedd: Dolgellau (SH 725 175) neu Abermaw (SH 615 155) (Mae modd i chi ymuno â Llwybr Mawddach ar sawl man rhwng Dolgellau ac Abermaw)
Parcio: Caiff meysydd parcio Dolgellau a Bermo eu rhedeg gan Gyngor Gwynedd. Mae taliadau yn newid o Dymor yr Haf (Mawrth i'r Hydref) i Dymor y Gaeaf (Tachwedd i Chwefror)
Côd Post: Dolgellau LL40 1UU - Bermo LL42 1NF
Map Perthnasol: Arolwg Ordnans Exp OL23 (Cader Idris a Llyn Tegid)

Llwybr Pren Traeth Benar, Harlech

Pellter: Tua 200 metr
Dechrau/Diwedd: Maes parcio Morfa Dyffryn (SH 572 224)
Parcio: Maes parcio Morfa Dyffryn
Côd Post: LL44 2RX
Map Perthnasol: Arolwg Ordnans Exp OL18 (Harlech, Porthmadog a Bala)

Bala - Taith Llyn, Afon a Thref

Pellter: 2 milltir - 3.25 km
Amser: 1.5 awr
Tirwedd: Llwybr hamdden sydd yn hygyrch mewn aml fan
Dechrau/Diwedd: Maes parcio talu ac arddangos blaendraeth Llyn Tegid
Parcio: Maes parcio hygyrch
Côd Post: LL23 7SR
Map Perthnasol: OL23 Cader Idris a Llyn Tegid

Am fwy o wybodaeth am y llwybrau uchod ewch i wefan Parc Cenedlaethol Eryri.