Bwytewch lond eich bol er mwyn cael blas o Eryri

Efallai y bwyd môr lleol. Neu'r pantri toreithiog o gynhwysion ffres o'r fferm. Neu angerdd a balchder cogyddion sy'n galw'r lle hwn yn gartref. Beth bynnag yw'r rheswm, gydag enw da cynyddol ar gyfer bwyta gwych, Eryri yw un o brif leoliadau’r wlad am fwyd da. Cewch lu o glasuron bwyd cysur cartref a chreadigaethau cywrain, blasus ar y fwydlen yma. Gorau oll, gallwch ddisgwyl i bob pryd fod yn llawn cynnyrch Cymreig blasus wedi dod yn uniongyrchol gan gyflenwyr lleol.

Rydym wedi dewis amryw o leoliadau bwyd sydd werth ymweld â nhw i dynnu dŵr o'ch dannedd. Rydym hefyd wedi rhoi ychydig o brydau enghreifftiol er mwyn rhoi syniad i chi o'r math o fwydlen sydd ar gael ymhob lle (ond noder efallai na fydd yr union opsiynau hyn ar gael pan fyddwch yno).

Y Banc, Abermaw

Ciniawa coeth sydd werth yr arian

Rhowch flas i mi
Mae bwyd yn cymryd lle cyllid yn y cyn-gangen NatWest hon yn nhref glan môr bywiog Abermaw, adeilad sydd wedi cael bywyd newydd fel bwyty croesawgar a ffasiynol. Unwaith yn ofod fasnachol, mae bellach wedi'i adnewyddu'n chwaethus i roi lleoliad cain a chyfoes ar gyfer prydau nos ardderchog.

Wedi'u creu gan gynhwysion lleol ffres – megis cimwch o ardal sydd ychydig yn uwch i fyny’r arfordir ym Mochras – mae prydau Y Banc wedi'u cyflwyno'n berffaith a llawn blasau a gweadau creadigol (mae'r amuse-bouche o wymon creisionllyd gyda saws aioli yn drît unigryw cyn swper).  

Mae bwydlen diodydd Y Banc yn torri syched yn yr un modd. Yn ogystal â rhestr win helaeth, mae amrediad gwych o goctels wedi'u gwneud â llaw a dewis ardderchog o gwrw a seidr gan fragwyr Cymreig lleol.

The Bank Asparagus Dish


Beth alla i ei ddisgwyl?
Ewch yn wyrdd gyda phrydau llysieuol fel lasagne asbaragws, pys a ricotta gyda courgette creisionllyd a salad berwr pupurog. Neu fwynhewch yr arogl daearol o gyw iâr gyda gnocchi garlleg gwyllt a saws madarch.

The Fanny Talbot, Abermaw 

Ciniawa coeth di-ffwdan 

Rhowch flas i mi 
Wedi'i leoli yng nghalon Abermaw, mae The Fanny Talbot yn cynnig bwyd gourmet mewn lleoliad gastropub hamddenol. Mae'r prif gogydd Owen Vaughan wedi gweithio yn rhai o geginau gorau gogledd Cymru (ac mae wedi cyrraedd rownd derfynol y sioe MasterChef: The Professionals), tra bo’r bwyty wedi derbyn dau rosglwm yr AA am ei ragoriaeth coginiol.

Mae yna fwydlen à la carte helaeth llawn prydau blasus gan gynnyrch lleol, yn ogystal â bwydlen cinio ar gyfer prydau mwy ysgafn yn ystod y dydd. Er mwyn cael y profiad mwyaf blasus, dewiswch y fwydlen blasu – gwledd dymhorol odidog sy'n dangos y cynhwysion gorau sydd ar gael ar hyn o bryd.  
 

The Fanny Talbot Beef Dish


Beth alla i ei ddisgwyl?
Blasau gwych o dir a môr, fel syrlwyn cig eidion Gwartheg Duon Cymreig gydag artisiog o Jerwsalem, tatws confit, cêl, saws boch ych a chig eidion, neu leden y môr gyda blodfresych wedi'i rhostio, ffa cannellini a pherlysiau arfordirol.  

The Jackdaw, Conwy

Bwyta arloesol ym muriau tref Conwy 

Rhowch flas i mi 
Syniad y cogydd Nick Rudge o Landudno – a hyfforddodd tra'n gweithio ym mwyty tair seren Michelin Heston Blumenthal sef The Fat Duck – The Jackdaw yw un o'r llefydd bwyta diweddaraf mwyaf cyffrous i'r sîn fwyd yng Nghymru. Does dim syndod felly ei fod wedi'i restru yn y Good Food Guide a'r Michelin Guide.

⁠Drwy The Jackdaw – blasenw am bobl a anwyd o fewn muriau canoloesol Conwy – mae Nick wedi dod â sgiliau a gafodd yn un o geginau mwyaf arloesol y byd yn ôl i'w famwlad yng ngogledd Cymru. Wedi'i ysbrydoli gan dir, diwylliant a hanes yr ardal, mae The Jackdaw yn gweini bwydlen flasus naw-cwrs anhygoel sy’n llawn creadigaethau coginiol dyfeisgar.

Ceir bwydlen newydd ar gyfer pob tymor, sy'n galluogi i Nick a'i dîm weithio gyda'r cynhwysion lleol mwyaf ffres a blasus yn unig. Mae hyn oll yn arwain at brofiad bwyta bythgofiadwy mewn harmoni perffaith â'r dirwedd unigryw sydd o'i amgylch.

Menai Musscles at the The Jackdaw


Ceir bwydlen newydd ar gyfer pob tymor, sy'n galluogi i Nick a'i dîm weithio gyda'r cynhwysion lleol mwyaf ffres a blasus yn unig. Mae hyn oll yn arwain at brofiad bwyta bythgofiadwy mewn harmoni perffaith â'r dirwedd unigryw sydd o'i amgylch.

Beth alla i ei ddisgwyl?
Bwyd nad ydych wedi'i weld o'r blaen, yn amrywio o greadigaethau wedi'u hysbrydoli gan Heston fel jeli cyw iâr ifanc wedi'i rostio gyda hufen langoustine i saws velouté cnau cyll gyda hufen cregyn gleision y Fenai. 

Neuadd Penmaenuchaf, Llyn Penmaen 

Bwyd chwaethus mewn lleoliad trawiadol 

Rhowch flas i mi 
Wedi'i leoli ar lethr coediog ynghanol ystâd 21 o aceri/8.5ha, mae Neuadd Penmaenuchaf yn rhoi argraff ar unwaith. Mae'r plasty Fictoraidd urddasol hwn yn ffigwr trawiadol, tra bo'r gerddi godidog (sydd ar gofrestr Cadw am eu harwyddocâd hanesyddol) yn rhoi golygfeydd arbennig dros y mynyddoedd ac aber hyfryd y Fawddach.

Dan arweiniad y prif gogydd Tom Hine – rhywun sydd wedi cael digon o brofiad mewn ceginau seren Michelin ar draws y wlad – mae bwyd Penmaenuchaf yr un mor drawiadol. Cewch lawer o flasau mewn cyfuniad anarferol sy'n cyd-fynd â'i gilydd, pob un ohonynt wedi'u creu â chynhwysion gan y cyflenwyr lleol gorau. ⁠Hyd yn oed yn nes at adref, mae gerddi cegin Penmaenuchaf sy'n parhau i dyfu hefyd yn darparu cynnyrch – tra bo gofodau agored Eryri yn cynnig cynhwysion ffres fel madarch a garlleg gwyllt.
 

Penmaenuchaf Hall Fish Dish


Ochr yn ochr â'r bwyty, ceir bwydlen lolfa hamddenol sy'n cynnwys prydau ysgafn a brechdanau – yn ogystal â the prynhawn blasus. 

Beth alla i ei ddisgwyl?
Cadwch lygad allan am gymysgedd trawiadol fel mŵs cregyn bylchog gyda chranc, grawnffrwyth a chafiâr avruga, yn ogystal â cheirw o Goed y Brenin mewn saws mwyar duon a gwin coch.  

Yn syth o'r gegin – Tom Hine, Neuadd Penmaenuchaf 

Cyn iddo ddod yn brif gogydd yn Neuadd Penmaenuchaf, roedd Tom wedi gweithio gydag enwau mawr yn y byd coginio fel Rick Stein, Paul Ainsworth a Michael Caines.

Beth yw ethos bwyd Penmaenuchaf? 
Mae'n fwyd Prydeinig gwirioneddol gyda chynhwysion gwych Cymreig. Mae'n berthnasol. Rydym yn coginio ar gyfer gwesteion yn hytrach na chwilio am wobrau, felly rydym yn ceisio rhoi tro ar brydau traddodiadol a chyfarwydd. Yn ogystal â'r fwydlen blasu ac à la carte, rydym yn cynnig bwydlen bar gyda bwyd cartrefol clasurol fel sosej a stwnsh. ⁠ ⁠  

Pa mor bwysig yw cynnyrch lleol i'ch gwaith? 
Rydym yn defnyddio cynhwysion lleol Cymreig ble bynnag y gallwn. Mae'r cig oen rydym yn ei ddefnyddio yn dod o'r Bala ac mae'n wych. Mae'r porfeydd a'r gwair yno yn berffaith i fagu defaid – mae'n blasu'n hollol wahanol i gig oen o lefydd eraill. Rydym hefyd yn defnyddio cig eidion Gwartheg Duon Cymreig a phorc o Gorwen. Mae'r cig carw rydym yn ei ddefnyddio yn dod o'r coetiroedd sydd ychydig o filltiroedd i ffwrdd o'r gwesty. Nid oes posib bod yn fwy lleol na hynny. 

Beth yw eich hoff brydau ar y fwydlen bresennol?
I ddechrau, cwstard caws Black Bomber Eryri, gyda betys cartref a chracyr lliniad. Mae wedi bod ar y fwydlen ers y diwrnod cyntaf ac mae'n sicr yn un o hoff brydau ein gwesteion rheolaidd. Ar gyfer y prif gwrs, cig oen Cymreig ifanc o'r tymor newydd. Rydym yn gweini hwnnw gyda courgette, ffeuen lydan a cholfran defaid. Fy newis ar gyfer pwdin fyddai bwrdd o gaws Cymreig artisan, gyda siytni afal cartref, cracyrs menyn brown a jeli quince. 
 

Tŷ Gwledig Plas Dinas, ger Caernarfon

Ceinder hen-ffasiwn yn cwrdd â bwyd arloesol

Rhowch flas i mi
O ystyried ei gysylltiadau Brenhinol dwfn – roedd y cyn-berchennog Antony Armstrong-Jones wedi priodi HRH y Dywysoges Margaret – nid yw'n syndod bod y tŷ gwledig rhestredig Gradd II hwn yn cynhyrchu bwyd sy'n addas ar gyfer brenin (neu frenhines).  

Dan arweiniad y prif gogydd gwobrwyedig Daniel ap Geraint, mae bwyty Gunroom y gwesty wedi cael gwobr dau rosglwm gan yr AA ac wedi'i gynnwys yn y Michelin Guide. Mae'r fwydlen fisol yn newid gyda'r tymhorau, gan fod Daniel a'i dîm yn defnyddio'r cynhwysion lleol mwyaf ffres i greu prydau cyfoes, mentrus ac arloesol, sydd wedi'u hysbrydoli'n glasurol.
 

Plas Dinas Menu Option Example


Lleoliad tŷ gwledig coeth y Gunroom yw'r elfen terfynol, sy'n creu awyrgylch wedi'i fireinio, sy'n hamddenol ac yn rhamantus. 

Beth alla i ei ddisgwyl? 
Cewch ddewis o brydau dychmygus fel cimwch bychain rhuddedig gyda risoto cregyn pysgod ac inc sgwidiaid, neu lwyn cig oen â chrwst perlysiau gyda llyrlys ac ansiofi wedi'i gochi. Mae hefyd werth trio te prynhawn Plas Dinas. 

Gwesty Porth Tocyn, ger Abersoch

Prydau blasus ynghyd â golygfeydd trawiadol o'r môr 

Rhowch flas i mi 
Wedi'i leoli uwchben y môr ar arfordir deheuol Penrhyn Llŷn ysblennydd, mae'r tŷ gwledig chwaethus hwn wedi cael ei redeg gan genedlaethau olynol o'r un teulu am dros 70 mlynedd. Mae ganddo hefyd hanes hir o gynhyrchu bwyd gwych, gyda bwyty'n dal dau rosglwm yr AA ac mae wedi cael ei gynnwys yn y Good Food Guide ers 1957.

Mae'r fwydlen nos à la carte yn cynnwys cig, pysgod ac opsiynau llysieuol ar gyfer pob cwrs, pob un ohonynt wedi'u creu o amgylch cynnyrch tymhorol sydd wedi'u magu, eu dal a'u tyfu'n lleol. Mae pob pryd wedi'i gyflwyno'n berffaith a'i lenwi â chyffyrddiadau dychmygus. Mae cefndir y bwyty, sef dyfroedd Bae Ceredigion yn ychwanegu at y profiad hefyd. Os hoffech fynd am dro ar ôl eich pryd (neu fagu chwant bwyd), mae Llwybr Arfordir Cymru yng ngwaelod yr ardd. 
 

Porth Tocyn Hotel Salmon Dish


Ynghyd â’r fwydlen nos, ceir opsiwn am ginio ysgafn i’w fwyta yn ystod y dydd (rydym yn argymell i chi fwynhau'r bwyd yn al fresco ar y teras i werthfawrogi golygfeydd y môr).  

Beth alla i ei ddisgwyl? 
Ceir cymysgedd fentrus sy'n cynnwys caws gafr poeth ac oer gyda gweadau o fetys a phinafal rhuddedig, a blasau ffres o'r môr fel linguine morgwn wedi'i grilio gyda chowder cregyn gleision a hadog wedi'i gochi. 

Seabreeze, Aberdyfi

Bwyd arfordirol ar ei orau 

Rhowch flas i mi 
Mae'r awgrym yn yr enw. ⁠Wedi'i leoli ym mhentref arfordirol ffasiynol Aberdyfi, mae Seabreeze yn arbenigo mewn pysgod a bwyd môr o'r dyfroedd glas ar garreg ei ddrws (yn ogystal â dewis helaeth o gig ac opsiynau llysieuol).  

⁠Mae'r fwydlen yn amrywio gyda'r tymhorau, gan roi'r cynnyrch lleol gorau wrth wraidd popeth. Y canlyniad yw dewis atyniadol o brydau trawiadol, llawn blas sydd wedi rhoi Seabreeze yn y Good Food Guide. 
 

Seabreeze Aberdyfi


Mae Seabreeze hefyd yn gweini fel pysgoty a deli yn ystod y gwanwyn a'r haf, sy'n rhoi cyfle i gogyddion addawol gael eu dwylo ar fwyd môr sydd wedi'u dal yn ffres ar gyfer eu ceginau eu hunain. 

Beth alla i ei ddisgwyl? 
Rhowch gynnig ar brydau pysgod fel macrell wedi'i olosgi gyda salad ffenigl a hufen wasabi neu wrachod du wedi'i rhostio gyda llyrlys a chaprys. Neu arhoswch ar dir sych gyda chonfit bol mochyn wedi'i goginio'n araf gydag afal wedi'i garameleiddio neu gyri pupur coch a blodfresychen gyda darnau bychain o flodfresych creisionllyd. 

Y Sgwâr, Tremadog

Prydau cynhwysol at ddant pawb

Rhowch flas i mi 
Wedi'i guddio tu ôl i waliau adeilad cerrig traddodiadol ar brif sgwâr Tremadog, mae Y Sgwâr yn ofod cyfoes a chain. Caiff ei redeg gan ŵr a gwraig o'r enw David a Lorraine Lloyd-Roberts, cafodd ei enwi'n 'Bwyty'r Flwyddyn' yng Ngwobrau Lletygarwch Cymru ac mae wedi ennill nifer o wobrau ‘Good Food’. 

Y Sgwar Tremadog Dish


Ochr yn ochr â detholiad o brydau cig a physgod i'ch temtio, ceir ystod eang o opsiynau llysieuol, fegan ac opsiynau heb glwten. Mae'r cynhwysion yn lleol ac yn cael eu paratoi gan David, y prif gogydd a'i dîm, gyda'r fwydlen à la carte yn amrywio i ddarparu ar gyfer y cynnyrch tymhorol gorau. Maent hefyd yn gwneud cinio dydd Sul gwych sy'n cynnwys cig eidion, cig oen a phorc Cymreig – yn ogystal â physgod ffres wedi'u dal yn lleol. 

Beth alla i ei ddisgwyl? 
Prydau llysieuol blasus megis linguine gyda thomatos gwinwydd wedi'u rhostio, sbigoglys a phesto, neu arancini cennin ac india corn gyda saws tomato a basil. Yn ogystal ag opsiwn cig fel cig oen lleol Cymreig gyda chrwst o berlysiau a mwstard Dijon. 

Sheeps and Leeks, Caernarfon  

Perl bwyd 

Rhowch flas i mi 
Maent yn canolbwyntio ar dymhorau a bod yn lleol ofnadwy. Cewch weld llysiau a ffrwythau o ‘Hooton's Home Grown’ yn Ynys Môn, caws wedi'i wneud yng ngodrau Eryri gan Cosyn Cymru a chig rhydd o Gigydd Wavell's ger Llanrug. Ceir hyd yn oed win lleol o winwydd Gwynfyd Môn yn Ynys Môn. 

 

Sheeps and Leeks Lamb Dish


Mae bwydlenni blasu serennog Sheeps and Leeks yn deithiau bwyd. Mae pob cwrs yn cynnig syrpreis ffres a blasau annisgwyl a chyffrous. Ar gyfer y profiad blasu pennaf, mae hefyd opsiwn i fwynhau pob pryd gyda gwin wedi'i guradu'n ofalus. 

Beth alla i ei ddisgwyl? 
Casgliad cyfnewidiol o brydau wedi'u paratoi'n gywrain gan gynnwys morlas wedi'i ddal â gwialen gydag eog wedi'i gochi ac asbaragws, cig oen gydag iogwrt o ddafad a harisa, artisiog o Jerwsalem gyda bergamot a chneuen Ffrengig. 
 

Bwyty Signatures, Conwy

Cŵl, cyfoes ac arfordirol 

Rhowch flas i mi 
Mae Signatures yn gweini bwyd cyfoes Cymreig mewn ystafell fwyta hamddenol a ffasiynol, yn agos at Draeth Morfa ar gyrion Conwy. Dan arweiniad y prif gogydd Jimmy Williams, mae wedi cael enw da fel un o'r prif lefydd i fwyta yn yr ardal (ac wedi cael ei enwi y Bwyty Gorau Cymreig ddwywaith yng Ngwobrau Cogyddol y Byd). 
 

Signatures Conwy Dish


Ceir awyrgylch o geinder cynnil, gyda lliwiau unlliw golau a goleuadau modernaidd sgleiniog. Mae'r gegin agored yn eich galluogi i weld Jimmy a'i dîm yn gweithio, sy'n rhoi elfen ychwanegol o fod yn rhan o'r profiad bwyta. Mae'r fwydlen yn llawn cynnyrch lleol, sy'n cynnig troad dyfeisgar ar brydau a chynhwysion cyfarwydd – pob un wedi'u creu â llygad artist.  

Beth alla i ei ddisgwyl? 
Dehongliadau ffres o ryseitiau clasurol fel bwyd o dir a dŵr dynameit (corgimwch mawr sbeislyd a chlun cyw iâr gyda mayo masala) a Wellington cig eidion Wagyu gyda madarch gwyllt wedi'i ffrio'n ysgafn a saws Périgueux. 

Neuadd Tremfan, Llanbedrog

Bwyd mewn man chwaethus glan y môr

Rhowch flas i mi
Wedi'i leoli ar ymyl deheuol Penrhyn Llŷn yn edrych ar ddyfroedd glas Bae Ceredigion a chopaon uchel Eryri, mae bwyty'r tŷ gwledig chwaethus hwn yn cynnig golygfeydd arbennig a bwyd gwych. Mae'r prif gogydd Nigel Skinner a'i dîm yn cynhyrchu prydau cyfoes Prydeinig gydag ysbrydoliaeth o fwyd Ffrengig a rhyngwladol.

Lleolir y bwyty yng nghyn-gartref mawreddog John Gwenogfryn Evans, un o sylfaenwyr Llyfrgell Genedlaethol Cymru. Mae'r plasty Fictoraidd wedi cael ei ddylunio a'i adfer yn sympathetig, gan ymgorffori cyffyrddiadau modern ffasiynol sy'n plethu'n berffaith gyda nodweddion gwreiddiol fel paneli derw a llefydd tân wedi'u cerfio'n addurnol. 

Tremfan Hall Food Dish


Mae'r bwyd yr un mor dda â'r hyn sydd o'i gwmpas. Caiff pob pryd ei baratoi gyda'r cynhwysion tymhorol a lleol gorau sydd ar gael ac maent yn llawn lliwiau a blasau mentrus. Ynghyd â'r fwydlen nos, ceir cyfres o brydau amser cinio lle mae'n bosib eu mwynhau y tu allan gyda golygfeydd arbennig o'r môr. 

Beth alla i ei ddisgwyl? 
Bwydydd blasus fel cig carw Cymreig wedi'i olosgi gyda thatws dauphinoise, ravioli tryffl du a phwmpen cnau menyn a bisque cranc heglog gyda bwyd môr lleol. 

Tŷ Gwledig Ty'n Rhos, ger Caernarfon

Bwyd chwaethus yng nghalon cefn gwlad 

Rhowch flas i mi 
Mae gan Tŷ'n Rhos enw da hir-sefydlog am ei fwyd. Mae'r bwyty yn y tŷ gwledig ffasiynol hwn (mae'n anodd credu mai fferm fach laeth oedd yn arfer bod yma) yn edrych ar erddi godidog ac Ynys Môn. Dyma fwydlen wedi'i greu o’r cynnyrch lleol mwyaf ffres o dir a môr sy'n cynnig dewisiadau wedi'u mireinio at ddant pawb (ceir hyd yn oed awgrym gwin ar gyfer pob pryd).  

Ty'n Rhos Pork Starter


Cadwch lygad allan am brydau arbennig bob dydd yn ystod misoedd yr haf, sy'n gallu cynnwys danteithion ffres, wedi'u dal yn lleol fel cimwch, cranc heglog a chregyn gleision blasus o'r Fenai. 

Caiff Tŷ'n Rhos hefyd ei adnabod am ei de prynhawn traddodiadol, sy'n cynnwys brechdanau bychain a chyfres o de dail rhydd i'ch temtio. Gallwch fynd am opsiynau mwy moethus wrth ychwanegu potel o brosecco, gwin rhosliw pefriog Gouguenheim Malbec neu champagne Joseph Perrier. 

Beth alla i ei ddisgwyl? 
Bydd cigysyddion wrth eu boddau gyda'r cig bol mochyn croyw gyda stwnsh radis, moron seithliw a chardamom, tra bo draenog môr wedi'i rostio mewn padell gyda thortellini corgimwch a madarch gwyllt yn rhoi blas ffres o'r môr.  

Y Bistro yn Yr Hebog, Beddgelert

Rhowch flas i mi

Wedi’i leoli dros y lôn o brysurdeb Afon Colwyn ym Mhentref hardd, Fictoriaidd Beddgelert, mae Bistro Yn Yr Hebog yn cyfuno gosodiad clud gyda coginio cyfoes, dychmygus. Mae’r ystafell fwyta, gyda’i waliau phanel pren yn gefnlen cynnes a chroesawgar ar gyfer prydau hudolus – i gyd wedi’i gwneud gyda chynnyrch tymhorol gan gyflenwyr lleol.

Y Bistro Yn Yr Hebog Dishes

Ynghyd a bwydlen cinio sy’n llawn opsiynau ysgafnach i’r dydd, gwelwch ddetholiad helaeth ar gyfer y nos i fwytawyr cig, pysgod neu lysieuwyr. Mae gan pob gwrs cyntaf a phrif gwrs bariad gwin ei hun, sydd wedi’i dewis yn ofalus ac yn cymryd y straen oddi ar y broses o ddewis y llymaid orau i gyd fynd a’r bwyd. Mae tê prynhawn ffafriol Hebog yn cynnwys scons cartref, cacenni a bara brith – gwerth ymweld yn wir. 

Beth alla i ei ddisgwyl? 

Triwch brydau bwyd mor ffres, fel lleden, sgalop crin â chorgimychiaid gyda gnoci theim a phersli. Am fwyd â chig, ewch am y ddeuawd o hwyaden gyda piwre celeriac a madarch shimeji.