Bragdy Lleu
Bragdy crefft gwobrwyedig bro Dyffryn Nantlle yw Bragdy Lleu, yn creu cwrw o safon uchel gan ddefnyddio cynhwysion naturiol o’r safon uchaf. Wedi sefydlu yn 2013, mae Bragdy Lleu yn cefnogi'r economi leol ac yn frwd dros iaith, hanes a diwylliant ardal Dyffryn Nantlle - ardal y Mabinogi. Mae pob cwrw maent yn ei greu yn cael ei enwi ar ôl cymeriadau o’r chwedlau byd enwog, a nodweddion y cymeriadau hynny yn cael eu cyfleu yn nodweddion unigryw pob cwrw. Mae’r busnes yn ehangu yn gyson, a bellach maent yn cyflenwi casgenni i dafarndai ar draws Gogledd Cymru ac yn cyflenwi poteli i dafarndai, siopau a bwytai ar hyd a lled Cymru a thu hwnt. Yn ogystal, maent yn gwerthu'n uniongyrchol o’r bragdy ac yn mynychu sioeau amrywiol gyda’u bar symudol, ac yn darparu cwrw ar gyfer digwyddiadau gan gynnwys priodasau a dathliadau o bob math.
Cwrw’r Celtiaid… 800 mlynedd o etifeddiaeth ymhob diferyn.
Gwobrau
Mwynderau
- Parcio
- Siop
- Toiled
- Llwybr beicio gerllaw
- Llwybr beicio Ffordd Brailsford Way gerllaw
- Talebau rhodd ar gael
- Croeso i bartion bws
- Arhosfan bws gerllaw
- Derbynnir cardiau credyd
- Taliad Apple