Bangor, Caernarfon, Llanberis a Phentrefi Eryri

Pa mor uchel ydych chi eisiau bod? Yr Wyddfa sy’n cyrraedd y brig, y mynydd uchaf yng Nghymru a Lloegr. Nid yw’n sefyll ar ei phen ei hun ychwaith. Yr Wyddfa yw canolbwynt ein Mynyddoedd Creigiog (Rocky Mountains) ni, sy'n cynnwys 14 o gopaon sydd dros 3000 troedfedd, y’u gelwir yn 'Uwch fynyddoedd Cymru'. Peidiwch â phoeni os nad ydych yn un am uchder. Mae yna ddyffrynnoedd coediog, afonydd brysiog a llynnoedd mynydd hefyd, gydag arfordir deniadol ar hyd y Fenai a’r fynedfa ogleddol i Ben Llŷn.

Abergwyngregyn

Fe’i hadwaenir hefyd fel 'Aber'. Pentref hardd, ger Bangor, wrth fynedfa dyffryn coediog prydferth a Rhaeadr Fawr, y rhaeadr naturiol uchaf yng Nghymru. Mae Gwarchodfa Natur Arfordirol Traeth Lafan gerllaw.

Bangor

Dinas fechan ond bywiog a thref phrifysgol. Mae gan Gadeirlan Bangor wreiddiau hynafol – gellir olrhain y safle crefyddol hwn yn ôl i’r chweched ganrif. Caiff gwaith celf a chreiriau lleol eu harddangos yn Storiel. Mae yma nifer o gyfleusterau hamdden, gan gynnwys pwll, Canolfan Chwarae a phier, ble y gallwch fwynhau blasu un o'r danteithion lleol, te a sgonsen ffres. Mae yma siopau da hefyd (i lawr Stryd Fawr hiraf Cymru yn ôl y sôn), wedi’u hatgyfnerthu gan Ganolfan Menai. Peidiwch â methu Castell Penrhyn,  plasty dramatig yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol mewn gerddi prydferth y tu allan i'r ddinas.

Beddgelert

Mae pawb wrth eu bodd â Beddgelert – a’i leoliad i’w chwennych. Mae’r pentref hardd hwn a’i adeiladau carreg yn ganolfan ddelfrydol ar gyfer ymweld â phrif fannau Eryri a'r mannau prydferth - Bwlch Aberglaslyn i'r de, Nant Gwynant i'r dwyrain a'r Wyddfa i'r gogledd. Gerllaw mae Rhyd Ddu, sy’n fan cychwyn da ar gyfer cerdded i gopa'r Wyddfa. Gallwch hyd yn oed fynd dan ddaear yng ngwaith Copr Sygun, sydd hefyd gerllaw.   Mae Stad Craflwyn (canolfan cynadleddau, gweithgarwch a diddordeb arbennig) sydd ym mherchnogaeth yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol gyferbyn â Sygun ar y ffordd i Nant Gwynant. Mae’r pentref yn un o’r pwyntiau codi a gollwng ar Reilffordd Ucheldir Cymru sy’n ymestyn o Gaernarfon i Borthmadog.

Bethesda

Pentref chwarel ar stepen drws Bwlch dramatig Nant Ffrancon, Rhaeadrau Ogwen a rhai o olygfeydd mwyaf gwyllt gogledd Cymru. Ar Lôn Las Ogwen - llwybr beicio a cherdded, mae Caban ger Gerlan, sy’n hostel ar gyfer pobl sy’n mwynhau gweithgareddau awyr agored. Yma hefyd y dewch o hyd i Zip World, yn Chwarel Penrhyn. Y zip cyflymaf yn y byd a'r hiraf yn Ewrop.

Caernarfon

Tref sirol Gwynedd, cartref castell mwyaf enwog Cymru, Safle Treftadaeth y Byd UNESCO.  Castell godidog Caernarfon sy’n mynd a’r rhan fwyaf o’r sylw ond mae’n werth ymweld â strydoedd cul y dref a'r datblygiadau chwaethus ar lan y dŵr. Roedd y castell, a adeiladwyd yn y drydedd ganrif ar ddeg gan Edward y Cyntaf fel palas brenhinol a chaer filwrol, yn ganolbwynt i dref gaerog ganoloesol. Gadawodd y Rhufeiniaid eu hôl yma hefyd – 1,000 o flynyddoedd ynghynt adeiladont Gaer Segontium ar y bryn uwchlaw (mae'r sylfaeni yno hyd heddiw). Mae atyniadau eraill yn cynnwys, Rheilffordd Ucheldir Cymru sy’n rhedeg am 25 milltir i Borthmadog, Canolfan Hwylfan, Gelli Gyffwrdd a Gypsy Wood gerllaw. Mae Doc Fictoria ar lan y Fenai yn gartref i Galeri (canolfan celfyddyd gyfoes gyda theatr a sinema) a Celtica (canolfan celf a chrefftau). 

Dinas Dinlle

Pentref glan môr gyda thraeth eang, tywodlyd sydd wedi ennill gwobrau a chanddo olygfeydd diddiwedd. Mae yma bromenâd deniadol a meysydd chwarae. Dyma hefyd gartref Airworld a Maes Awyr Caernarfon. Mae Parc Gwledig mawr a phrydferth Glynllifon gerllaw.

Llanberis

Ble i ddechrau?  Mae Llanberis yn llawn ddigon o atyniadau i gadw ymwelwyr yn brysur am wythnosau. Yn gyntaf, mae'n rhaid sôn am leoliad gwych y dref ar lan llyn ac wrth droed yr Wyddfa. Pan fyddwch chi wedi blino cerdded ar lan y dŵr – ‘does dim peryg o hynny ychwaith - ewch am daith ar ddwy reilffordd - Rheilffordd Llyn Llanberis a Rheilffordd yr Wyddfa. Mae’r ail un yn dringo bron at stepen drws Canolfan Ymwelwyr syfrdanol Hafod Eryri ar gopa’r Wyddfa.  Mae yna ddigon i’w weld a digon i’w wneud ym Mharc Gwledig Padarn ar fin y llyn. Mae’r Amgueddfa Lechi Genedlaethol yn dwyn atgofion o dreftadaeth ddiwydiannol gyfoethog Eryri tra bo Castell Dolbadarn yn mynd â chi’n ôl filoedd o flynyddoedd i oes tywysogion Cymru. Os nad yw hynny’n ddigon i chi, mae yma hefyd siopau crefft a chwaraeon dŵr, er bod y rhan fwyaf o’r bobl awyr agored yn dod yma i gerdded. Dilynwch y Llwybrau Treftadaeth hunan dywys yn Llanberis sy’n mynd â chi i lefydd gwefreiddiol o amgylch y pentref.