Awn am dro - Cylchdeithiau ar Lwybr Arfordir Cymru

Yn ymestyn am 870 milltir (1,400km) o amgylch traethlin gyfan y wlad, mae'n debyg bod Llwybr Arfordir Cymru yn fwyaf adnabyddus am ei lwybrau glan môr unionlin, o'r naill bwynt i'r llall. Ond dim ond rhan o'r stori yw hynny. Trwy gysylltu â llwybrau troed lleol a hawliau tramwy, gallwch droi taith gerdded unffordd yn gylchdaith sy'n cynnwys yr arfordir a chefn gwlad. Gallwch ddod o hyd i restr lawn a map ar ein tudalen cylchdeithiau, ond dyma ychydig i'ch rhoi ar ben ffordd.

Aberdyfi

Yn 4.6 milltir/7km rhwydd, mae'r ddolen hon yn cychwyn ac yn gorffen yn Aberdyfi, y dref arfordirol brydferth sy'n eistedd wrth geg afon Dyfi. Ar un adeg yn harbwr ac iard longau brysur, mae bellach yn gyrchfan glan môr chwaethus sy'n boblogaidd gyda phobl sy'n hoff o'r traeth (sy'n enfawr) a selogion chwaraeon dŵr (mae'r hwylfyrddio yn arbennig o dda yma). Mae yna rwydwaith o strydoedd cul i'w harchwilio, ynghyd ag atyniadau fel Clwb Hwylio Dyfi, sy'n trefnu digwyddiadau rheolaidd ar y dŵr, a Chlwb Golff Aberdyfi, clasur o gwrs glan môr a sefydlwyd yn 1892 yng nghanol y twyni tywod sydd ar hyd y lan, a gerfiwyd gan y gwynt.

Tra'ch bod chi'n agos at y môr, gwrandewch yn astud am sŵn clychau yn canu yn y pellter.  Yn ôl y chwedl, maent yn perthyn i deyrnas golledig Cantre'r Gwaelod a suddodd islaw'r tonnau yn y canoloesoedd cynnar.  Fel cyfeiriad at y chwedl hon, mae cloch lanw wedi'i chrogi o dan lanfa'r cei.

Mae'r daith gerdded yn mynd â chi ar hyd glan y môr cyn dringo heibio i frigiad creigiog y credir ei fod yn hen safle castell canoloesol (mae'r wylfa sydd bellach yn y fan uchel hon yn rhoi golygfeydd gwych ar hyd yr arfordir). Gan droi tua'r tir, byddwch yn teithio trwy glytwaith o dir amaethyddol ir, cyn ailymuno â Llwybr Arfordir Cymru a dychwelyd i'ch man cychwyn yn Aberdyfi. 

Am fwy o wybodaeth, lawrlwythwch daflen cylchdaith Aberdyfi.

Botwnnog

Mae'r daith hon yn cynnwys arfordir a chefn gwlad ar Benrhyn Llŷn, Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol. Nid dyna'r unig glod mae'r lle arbennig hwn wedi'i dderbyn - mae hefyd wedi'i ddynodi ar gyfer cadwraeth natur ac fel tirwedd o ddiddordeb hanesyddol eithriadol. Am y darlun cyflawn, ewch yma.

Gan gychwyn a gorffen ym mhentref bach Botwnnog, heb fod ymhell o Abersoch ar benrhyn Llŷn, mae'r daith hon yn ymestyn am 9.3 milltir/15km o gefn gwlad ac arfordir ysblennydd. Er bod y tir yn wastad i raddau helaeth, fe welwch ddigon o nodweddion ar hyd y ffordd. Mae cymal cyntaf y daith yn eich arwain ar hyd lonydd tawel a llwybrau trwy dirwedd sy'n frith o eglwysi hanesyddol. 

Ar eich taith, byddwch yn mynd heibio i Eglwys Llandygwnning, gyda'i thŵr crwn unigryw, ac Eglwys Llangïan, lle gwelwch garreg arysgrifedig sy'n dyddio'n ôl i'r 5ed neu'r 6ed ganrif. Hefyd, gwelir eglwys hardd Llanengan, sy'n gartref i glychau eglwys hynafol a sgrin dderw y dywedir iddi fod yn rhan o'r abaty sydd bellach wedi'i ddymchwel ar Ynys Enlli.

Mae mwy o hanes eto ar hyd y llwybr ym Mhen-y-gaer. I gyrraedd y fryngaer Geltaidd hon, mae gofyn dargyfeirio ychydig oddi ar y prif lwybr, ond mae'n werth yr ymdrech i weld y golygfeydd o'r copa. Byddwch hefyd yn gallu gweld simnai awyru hen fwynglawdd plwm Tanrallt ar gyrion Llanengan.

Porth Neigwl (Hell's Mouth)
Porth Neigwl - Croeso Cymru © Hawlfraint y Goron (2021)


Ar y cymal olaf o'r daith, byddwch yn ymuno â Llwybr Arfordir Cymru ac yn olrhain ehangder dramatig Porth Neigwl. Yn lleoliad i longddrylliadau niferus dros y canrifoedd, y dyddiau hyn mae ei donnau ewynnog yn denu syrffwyr profiadol. 

Am fwy o wybodaeth, lawrlwythwch daflen cylchdaith Botwnnog.

Llangwnnadl

Yn dolennu o amgylch pentref bach Llangwnnadl ar ochr ogleddol Penrhyn Llŷn, mae'r daith gryno 4 milltir/6.4km hon yn llawn nodweddion. Gan gychwyn o'r maes parcio tua hanner milltir i'r gogledd o'r pentref, mewn dim byddwch yn ymuno â Llwybr Arfordir Cymru ar Draeth Penllech cyn cyrraedd Porth Colmon, harbwr bach sy'n swatio yn yr arfordir creigiog. Mae’n llecyn tawel heddiw, ond ar un adeg roedd yn borthladd prysur lle daethpwyd â chalch, glo a blawd esgyrn i’r lan (ynghyd â chargo anghyfreithlon smyglwyr).

Traeth Penllech Beach
Traeth Penllech 

 

Ymhellach ar hyd yr arfordir mae Porth Tŷ Mawr, lleoliad llongddrylliad enwog yn 1901. Yn fuan wedi cychwyn ar ei thaith o Lerpwl i Seland Newydd, aeth llong o'r enw'r Stuart i drafferthion a tharo'r creigiau. Er i'r criw i gyd ddianc yn ddiogel, drylliwyd y llong gan y tonnau, gan ryddhau cargo a oedd yn cynnwys pob math o bethau, o lestri a phianos i gyflenwad mawr o wisgi. Roedd y bobl leol yn barod iawn i gasglu cymaint o'r cargo ag y gallent - mae'r lle yn cael ei adnabod wrth yr enw arall Porth Wisgi hyd heddiw. Ar lanw isel iawn, mae rhai o olion y Stuart i'w gweld o hyd. 

O'r arfordir, mae'r llwybr yn mynd trwy gaeau a thir amaethyddol cyn cyrraedd Eglwys Llangwnnadl. Wedi’i chyrraedd trwy giât ag arni'r geiriau Tŷ Dduw, mae’n un o rwydwaith o eglwysi sydd wedi’u lleoli ar hyd Llwybr y Pererinion, y llwybr sanctaidd a oedd yn ymestyn o Abaty Dinas Basing yn Nhreffynnon i ynys sanctaidd Enlli, ynys yr 20,000 o seintiau, i'r gorllewin o benrhyn Llŷn.  

Am fwy o wybodaeth, lawrlwythwch daflen cylchdaith Llangwnnadl. Gweler hefyd y dolenni ar Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol Llŷn a dynodiadau eraill sy'n tynnu sylw at gadwraeth natur a thirwedd o ddiddordeb hanesyddol eithriadol y penrhyn.

Gwnewch yn siŵr eich bod yn dilyn y Cod Cefn Gwlad i gael awgrymiadau ar sut i fwynhau'r awyr agored yn ystyriol ac yn barchus.