Ar hyd y glannau – Pum taith wych o amgylch llyn

Mae'n debyg bod llynnoedd Eryri wedi'u gwneud ar gyfer cylchdeithiau cofiadwy, gyda'r mynyddoedd yn gôr o'u hamgylch. Fe ddewch o hyd i ddyfroedd tlws i grwydro'u glannau drwy'r rhanbarth, pob un yn fyw gyda threftadaeth hynod, chwedlau dirgel, byd natur godidog a golygfeydd heb eu hail. Rydym wedi dewis rhai o'r goreuon i chi allu cychwyn ar eich anturiaethau ar lan y dŵr. 

Cwm Idwal 

Amffitheatr greigiog wedi'i siapio gan rew 

Fe gerfiwyd Cwm Idwal gan rewlifoedd anferth yn ystod yr Oes yr Iâ ddiwethaf, ac mae'n gartref i rai o'r golygfeydd mwyaf dramatig yn ardal Eryri Mynyddoedd a Môr. Fe ddewch o hyd i'r cwm rhwng Bethesda a Chapel Curig, ac mae'r daith 3 milltir/4.8km hon yn cychwyn o Fwthyn Ogwen (y man cychwyn i gerddwyr fel arfer) cyn mynd o amgylch glannau Llyn Idwal a thrwy'r Warchodfa Natur Genedlaethol hynaf yng Nghymru (sefydlwyd yn 1954).

Ynghyd â bod yn gynefin hollbwysig i blanhigion mynyddig prin megis Lili'r Wyddfa, mae'r cwm hefyd yn frith o ffurfiau anghyffredin yn y graig. Wrth i chi grwydro cadwch lygad allan am dirnodau fel Clogfeini Darwin – darnau anferth o graig a siapiwyd gan y rhewlifoedd, ac a enwyd ar ôl y naturiaethwr Charles Darwin. Fe'u dogfennodd gyntaf wrth ymweld â Chwm Idwal yn 1842.

Ceir mwy o hanes yn Slabiau Idwal, wyneb craig cwbl serth a wasanaethodd fel tir profi ar gyfer Syr Edmund Hillary a'i dîm cyn iddynt ddringo Everest.  

Llyn Ogwen 

Dyfroedd mynyddig yn llawn chwedloniaeth 

Hefyd yn cychwyn o'r gwaelod ym Mwthyn Ogwen, mae'r gylchdaith 2.9 milltir/4.6km hon yn dilyn glannau Llyn Ogwen. Yn ôl y chwedl, Ogwen yw'r man lle gorffwys cleddyf y Brenin Arthur, sef Caledfwlch, a daflwyd i'w ddyfroedd gloyw gan y marchog Syr Bedwyr, tra oedd Arthur yn gorwedd wedi'i glwyfo ar ôl ei frwydr olaf.  

Ynghyd â'r straeon, mae'r daith yn cynnig golygfeydd trawiadol o'r Carneddau a'r Glyderau – mynyddoedd cudd Eryri – sy'n esgyn tua'r awyr bob ochr i'r llyn.  

Wrth i chi gerdded, gwyliwch am yr hen gaer fach yn y ddaear. Fe'i hadeiladwyd yn ystod yr Ail Ryfel Byd i ddiogelu ffordd strategol yr A5 petai ymosodiad yn digwydd – mae'n un o nifer o amddiffynfeydd milwrol y gall ymwelwyr craff eu canfod ar hyn y cwm.

Llyn Ogwen

Llyn Trawsfynydd 

Taith rymus ger y dŵr

Er bod y daith hon yn 8.5 milltir/13.7km o hyd, mae'r llwybr yn un gwastad â phalmant da, sy'n golygu bod y daith o amgylch Llyn Trawsfynydd oddi ar gefnffordd yr A470, fymryn i'r de o Flaenau Ffestiniog, yn addas i gerddwyr o bob gallu. Cronfa ddŵr ydi'r llyn mewn gwirionedd, ac fe'i hadeiladwyd i ddarparu dŵr i orsaf bŵer hydro Maentwrog (ac yn ddiweddarach atomfa Trawsfynydd, sydd wedi'i digomisiynu bellach), ac mae fymryn yn fwy na Llyn Tegid y Bala, y llyn naturiol mwyaf yng Nghymru.  

Gan gychwyn ym maes parcio'r atomfa, mae'r daith yn mynd heibio'r hen atomfa niwclear a dros argae Maentwrog wrth iddi wneud ei ffordd ar hyd glannau Trawsfynydd. Er bod y rhan fwyaf o'r llwybr yn agos at y dŵr, mae weithiau'n esgyn i dir uwch, gan roi golygfeydd pellgyrhaeddol dros y llyn, copaon Eryri gerllaw, a'r Rhinogydd anhysbys – gwylltir olaf Gogledd Cymru.

Llyn Trawsfynydd

Mae croesi'r bompren gul, sy'n ymestyn am chwarter milltir ar draws rhan ddeheuol y llyn, yn uchafbwynt go iawn. Cafodd ei hadeiladu'n wreiddiol i warchod hen hawliau tramwy pan grëwyd yr argae, ac mae'n cysylltu pentref Trawsfynydd efo safle hen gapel lleol. 

Llyn Dinas 

Cerdded yn uchel ac isel 

Cewch eich amgylchynu gan brydferthwch syfrdanol dyffryn Nant Gwynant ar y daith hon. Gan gychwyn o faes parcio Craflwyn ger Beddgelert (maes parcio'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol), mae'r llwybr 6.6 milltir/10.4km yn cyfuno glannau'r llyn gydag ychydig o dir uwch ar lethrau godre'r Wyddfa.  

Ar hyd rhan gyntaf y daith byddwch yn dringo drwy dirlun o raeadrau a choetir, lle cewch grwydro drwy garpedi o glychau'r gog ar ddechrau'r haf. Cadwch lygad allan am Gadair y Brenin, sy'n lle gwych i stopio am hoe ac i edmygu'r golygfeydd o Foel Hebog, Mwynglawdd Copr Sygun a bryncyn Dinas Emrys, sef lleoliad chwedlonol y frwydr rhwng dwy ddraig ffyrnig.  

Ar ôl croesi drwy weundir garw islaw’r Aran ger godre'r Wyddfa, bydd y llwybr yn mynd â chi i lawr drwy goed derw Parc Hafod y Llan a heibio'r rhaeadrau sy'n tasgu yn afon Cwm Llan. Unwaith y byddwch wedi cyrraedd yn ôl i waelod y dyffryn, gwnewch eich ffordd yn ôl i'r man cychwyn ar hyd glannau hardd rhewlyn Llyn Dinas. 

Llyn Dinas

Llyn Mair 

Hanes a natur yn un

Yn hytrach nag un llwybr yn unig, mae'r wlad o amgylch Llyn Mair a Dyffryn Maentwrog (rhwng Porthmadog a Blaenau Ffestiniog) yn cynnig dros 19 milltir/30km o lwybrau troed i'w harchwilio, pob un yn gysylltiedig â'i gilydd.  

O lannau Llyn Mair, a grëwyd yn 1889 i ddarparu dŵr i blasty Plas Tan y Bwlch gerllaw, mae'r llwybrau hyn yn arwain drwy dirwedd sy'n llawn treftadaeth. Fe ddewch ar draws ffyrdd coedwigaeth a adeiladwyd i gludo coed i iardiau cychod Porthmadog a chwareli Blaenau Ffestiniog yn ystod y 18fed a'r 19eg ganrif, adfeilion waliau cerrig ac adeiladau sy'n gysylltiedig â gorffennol amaethyddol yr ardal, a rhan o ffordd Rufeinig Sarn Helen sy'n cysylltu Gogledd a De Cymru.

Llyn Mair

Efallai hefyd y cewch gipolwg ar Reilffordd Ffestiniog, rheilffordd lein-gul hanesyddol, yn pwffian heibio ar ei hynt rhwng Porthmadog a Blaenau Ffestiniog, a mwynhau'r olygfa o afon Dwyryd yn llifo rhwng y cloddiau sy'n dolennu ar draws Dyffryn Maentwrog.  

Mae digonedd i'w weld i'r rheini sy'n hoff o natur hefyd, gyda phoblogaeth adar brysur sy'n cynnwys telor y coed, tin-gochiaid a gwydd-weilch, ynghyd â mamaliaid megis llwynogod, ystlumod, moch daear a bele'r coed.

Cofiwch ddilyn y Cod Cefn Gwlad am awgrymiadau am sut i fwynhau'r awyr agored gan ymddwyn yn ystyrlon a pharchus. 

Crwydro o amgylch  

Os hoffech gwblhau'r gylchdaith o amgylch llyn heb ddefnyddio car o gwbl, mae digon o ddewis o gludiant cyhoeddus. Defnyddiwch y gwasanaeth bws TrawsCymru T10 os ydych yn cerdded yng Nghwm Idwal neu Lyn Ogwen, y T2 ar gyfer Trawsfynydd a Llyn Mair a'r gwasanaeth Sherpa S4 ar gyfer Llyn Dinas. Mae'r gwasanaethau'n cyd-gysylltu â'i gilydd ac yn darparu cysylltiadau i drenau a llwybrau bws eraill. I gael gwybodaeth ac amserlenni ewch i wefannau TrawsCymru a Sherpa'r Wyddfa

Llety

Edrychwch ar ein tudalennau llety i bori drwy ddewis o westai, llety Gwely a Brecwast ac eiddo hunan-arlwyo.