Adventure Parc Snowdonia
Noder bod Adventure Parc Snowdonia wedi cau am weddill 2020.
Adventure Parc Snowdonia ydi'r morlyn syrffio mewndirol cyntaf yn y byd, a'r unig leoliad syrffio di-ffael yn y DU. Mae wedi'w leoli yn erbyn cefndir o goedwigoedd a mynyddoedd Eryri, ac mae'r dechnoleg wych yn darparu amrywiaeth o broffiliau tonnau, felly gall dechreuwyr absoliwt syrffio'n ddiogel ochr yn ochr â'r syrffwyr proffesiynol. Mae'r hyfforddiant syrffio arbenigol sydd ar gael, ynghyd â'r tonnau dibynadwy yn ei wneud yn fan delfrydol ar gyfer y teulu i gyd.