Addewid Ymwelwyr Gwynedd ac Eryri
Croeso i Wynedd a Pharc Cenedlaethol Eryri.
Gyda’n partneriaid yng Nghyngor Gwynedd, rydyn ni’n gwahodd ymwelwyr i ddangos eu cariad at y rhan arbennig yma o’r byd – drwy wneud addewid i fod yn ymwelydd cyfrifol a dilyn y saith cam a restrir isod..
Cefnogi’n lleol
Cyfrannu at yr economi leol drwy ddefnyddio gwasanaethau lleol a phrynu cynnyrch lleol.
Ewch i wefan Eryri Mynyddoedd a Môr am fwy o wybodaeth
Dathlu diwylliant a thraddodiadau lleol
Dysgwch am arferion a threftadaeth ddiwylliannol gyfoethog Gwynedd ac Eryri - o archwilio ein chwedloniaeth a'n llên gwerin lleol i roi cynnig ar siarad Cymraeg.
5 taith gerdded yn Eryri sy'n llawn chwedloniaeth
Teithio’n ddoeth ac yn gynaliadwy
Helpwch i leihau niferoedd ymwelwyr drwy gynllunio ymlaen llaw ac ymchwilio i’r adegau gorau i ymweld â llefydd poblogaidd. A thra rydych hi wrthi, beth am leihau eich ôl troed carbon drwy ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus? Mae Sherpa’r Wyddfa yn cynnig gwasanaeth bws cyson a dibynadwy i bob cwr o’r Parc.
Gwybodaeth ac amserlenni Sherpa'r Wyddfa
Gadael dim byd ar ôl
Cyfrannwch at warchod ein hadnoddau naturiol drwy osgoi gweithgareddau a allai niweidio’r amgylchedd a byd natur e.e. drwy fynd â’ch sbwriel adref gyda chi.
Byddwch yn ymwelydd sy’n dangos parch
Ystyriwch bobl leol ac ymwelwyr eraill drwy gydol eich trip – gan barchu hawliau ac eiddo pobl eraill bob amser, e.e. drwy adael giatiau fel rydych yn eu cael; gwneud cyn lleied â phosib o lygredd sŵn; a gwersylla mewn meysydd gwersylla swyddogol yn unig.
Rhowch flaenoriaeth i ddiogelwch ar y mynydd ac wrth y môr
Helpwch i leddfu’r straen ar y gwasanaethau brys ac osgoi damweiniau drwy ddilyn canllawiau Adventure Smart UK a phob canllaw yn y Côd Cefn Gwlad a’r Côd Morol.
Gadewch ôl troed digidol positif
Mae’n bwysig eich bod yn rhannu’ch cariad at Eryri a Gwynedd yn gyfrifol ar gyfryngau cymdeithasol. Wedi’r cyfan, fe allai tagio eich lleoliad mewn ardaloedd sy’n orlawn o bobl neu ddangos ymddygiad peryglus ddylanwadu ar eraill i wneud yr un peth. Yn lle hynny, gallwch gefnogi’r achos drwy ddweud wrth ffrindiau a theulu am y cod yma a/neu bostio negeseuon am eich ymweliadau diogel a chyfrifol gyda’r hashnod #Eryri, #Gwynedd a/neu #GwyneddAcEryriNi.
Gwybodaeth am economi ymweld Gwynedd & Eryri