Abersoch

Lleoliad glan y môr a chanolfan hwylio/chwaraeon dŵr hynod boblogaidd – a ffasiynol – gyda thraethau a harbwr cysgodol. Rhaglen brysur o ddigwyddiadau hwylio yn ogystal â Wakestock, gŵyl gerddoriaeth a wakeboard fwyaf Ewrop (a gynhelir ym mis Gorffennaf). Bywyd bistro prysur hefyd ynghyd â dewis da o lety ac atyniadau, sy’n cynnwys merlota, tripiau cwch a chanolfan grefftau. Mae Abersoch hefyd yn ganolfan ar gyfer chwe thaith gerdded sy’n amrywio o rai llai na milltir i dros naw milltir. I gael rhagor o wybodaeth ewch i’r Ganolfan Gwybodaeth Twristiaeth leol gaiff ei rhedeg gan wirfoddolwyr.

Canolfan Gwybodaeth Twristiaeth

The Vestry, Stryd Fawr, Abersoch LL53 7DS
facebook.com/calonabersochheart