Abermaw
Canolfan boblogaidd ar y fynedfa i aber hardd afon Mawddach. Harbwr tlws sy’n gefndir i bentir Dinas Oleu, man geni’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol. Digon i’w weld a’i wneud – hwyl glan môr traddodiadol ar y promenâd ac yn y ffair fechan, dwy filltir o draeth tywodlyd ardderchog, dewis da o lety. Ewch am dro ar y bryniau i gael golygfeydd panoramig o fôr a mynydd, neu dilynwch Drywydd Mawddach ar hyd yr hen lwybr rheilffordd hyfryd i Ddolgellau. Mae llawer mwy i’w weld yn y dref ei hun, yn cynnwys Sefydliad y Llongwyr a leolir ger yr harbwr ynghyd ag ‘amgueddfa llongddrylliad’ Tŷ Gwyn a’r Tŷ Crwn. Ceir hefyd Amgueddfa’r Bad Achub. Darganfyddwch y cyfan ar lwybr treftadaeth y dref (taflen ar gael o’r Ganolfan Groeso neu ewch i www.barmouthheritagetrail.org).
Os yn chwilio am lety a pethau i'w wneud o gwmpas Abermaw yna cliciwch y linciau isod.
Llety: Rhestr I Map
Atyniadau/Gweithgareddau: Rhestr I Map
Llefydd i fwyta: Rhestr I Map