Aberdyfi

Mae sawl rheswm pam fod yn rhaid ymweld. Yn ddiau, dyma un o’r cyrchfannau glan môr tlysaf ym Mhrydain. Lleolir y pentref ble mae afon Dyfi yn cwrdd â dyfroedd Bae Ceredigion, mae hefyd yn boblogaidd i hwylio ac fel lleoliad i gampau dŵr (The Sunday Times y traeth fel un o’r rhai gorau ym Mhrydain ‘i hwylfyrddio a barcudfyrddio’). Mae yma derasau lliw pastel o flaen y traeth tywodlyd mawr a’r hen harbwr hen ffasiwn. Mae Golff hefyd yn boblogaidd yma: Mae cwrs golff enwog Aberdyfi yn un o’r rhai gorau yn y Deyrnas Unedig. Mae’r amgueddfa leol yn canolbwyntio ar orffennol adeiladu llongau’r porthladd.

Gallwch hefyd ddarganfod mwy am Biosffer Dyfi drwy gerdded cylchdaith pedwar milltir a hanner o gwmpas Aberdyfi. Os ydych yn teithio ar drafnidiaeth gyhoeddus yna mae'r llwybr hwn yn ddelfrydol gan y gallwch ddod o hyd i'r man cychwyn hwnnw yn hawdd o'r orsaf drên neu'r arhosfan bysiau.

Os yn chwilio am lety a pethau i'w wneud o gwmpas Aberdyfi yna cliciwch y linciau isod.

Llety: Rhestr I Map
Atyniadau/Gweithgareddau: Rhestr I Map
Llefydd i fwyta: Rhestr I Map