Aber Cottage
- 1 Stars
- 2 Stars
- 3 Stars
Bwthyn carreg traddodiadol ac adeilad rhestredig yw Aber Cottage, sy'n cynnig llety gwely a brecwast o safon yn Nolgellau, mewn lleoliad delfrydol yn y dref ac o fewn pellter cerdded hawdd i fwytai, tafarndai a siopau lleol rhagorol. Mae wedi'i leoli'n wych yn agos at Cader Idris, Llwybr Mawddach, a llawer o deithiau cerdded eraill, gan gynnwys Coed-y-Brenin, gyda'i lwybrau coedwig poblogaidd ac un o'r prif ganolfannau beicio mynydd yn Ewrop. Dim ond ychydig filltiroedd i ffwrdd mae traethau tywodlyd hyfryd Bae Ceredigion yn Fairbourne ac Abermaw. Mae cyfleusterau en-suite modern i bob ystafell, gyda theledu, wi-fi am ddim a the a choffi cyfarch. Mae parcio ceir, un i bob ystafell, ym maes parcio preifat Aber Cottage ei hun gyda mynediad diogel.