2 Tŷ Isa

  • 1 Star Rating Star icon rating the accommodation 1 Stars
  • 2 Star Rating Star icon rating the accommodation 2 Stars
  • 3 Star Rating Star icon rating the accommodation 3 Stars
  • 4 Star Rating Star icon rating the accommodation 4 Stars

2 Tŷ Isa, Llanuwchllyn, Bala, Gwynedd, LL23 7UB

Retail Phone Number Phone Number icon for Snowdonia retail page 01785 824306 Retail Mobile Number Mobile Number icon for Snowdonia retail page 07948 304850

Retail Email Email icon for Snowdonia retail page tyisacottage@btinternet.com

Retail Screen Screen icon for Snowdonia retail page https://www.homeaway.co.uk/p8171280

Cysgu 4+ mewn dwy ystafell wely. Mae 2 Tŷ Isa yn fwthyn Cymreig nodweddiadol gydag ystafell fyw, cegin ac ystafell ymolchi ar y llawr gwaelod gyda gwely dwbl uwchben y grisiau ac ail ystafell wely gyda dwy sengl. Mae ganddo reiddiaduron trydan modern, stôf llosgi coed ac ystafell sychu ddefnyddiol iawn gan ei gwneud yn addas ar gyfer gwyliau clyd trwy'r flwyddyn. Mae ganddo barcio ar gyfer dau gar gyda gardd amgaeedig, yn berffaith i blant ac anifeiliaid anwes. Wedi'i ddodrefnu'n ddeniadol drwyddo, gyda nenfydau trawiadol, waliau cerrig a hefyd cyfarpar modern. Gall Ty Isa fod yn guddfan rhamantus hyfryd neu ganolfan deulu gyda chot teithio a chadair uchel ar gael. Mae ei leoliad yn wych ar gyfer pob math o weithgareddau awyr agored o fwynhau'r amgylchedd naturiol godidog - mae glan y môr yn y Bermo oddeutu hanner awr i ffwrdd - i gerdded, hwylio, canŵio, pysgota, golff, 4x4 a ralio, yn ogystal â rheilffordd stêm Llyn Tegid sydd â'i brif orsaf yn y pentref. Yn yr haf, peidiwch â cholli sioe bentref Llanuwchllyn! Mae tafarn ardderchog yr Eryrod drws nesaf ac yn cynnig prydau traddodiadol Cymreig wedi'w paratoi  gyda chig o fferm eu hunain. Yn ystod y dydd mae'n siop bapur newyddion y pentref yn gyfleus. Mae golygfeydd mewn car neu feic yn wych gyda ffyrdd tawel, agored dros y bryniau ym mhob cyfeiriad, gan gynnwys y bwlch uchaf yng Nghymru, Bwlch y Groes. Edrychwch ar wefan goBala am wybodaeth lleol.

Mwynderau

  • Peiriant golchi ar y safle
  • Croesewir teuluoedd
  • Telerau arbennig i fwrw’r Sul, ganol wythnos neu wyliau byrion ar gael
  • Cadair uchel ar gael
  • Arhosfan bws gerllaw
  • Gweithgareddau awyr agored gerllaw
  • Dillad gwely ar gael
  • Gardd
  • Te/Coffi
  • Cot ar gael
  • Caniateir anifeiliaid anwes drwy drefniant
  • WiFi ar gael
  • Adeilad hanesyddol/heneb gerllaw
  • Golff ar gael (ar y safle neu gerllaw)
  • Derbynnir cardiau credyd
  • Parcio
  • WiFi am ddim
  • Beicio mynydd gerllaw
  • Llwybr beicio gerllaw
  • Llwybr cerdded gerllaw

Gwobrau