A   A   A
700 267 Ymweld a Beddgelert - Visiting Gelert's Grave in Beddgelert

Beddgelert

Mae pawb wrth eu bodd â Beddgelert – a’i leoliad i’w chwennych. Mae’r pentref prydferth hwn a’i adeiladau carreg yn ganolfan ddelfrydol i ymweld  â phrif fannau Eryri a'r mannau prydferth - Bwlch Aberglaslyn i'r de, Nant Gwynant i'r dwyrain a'r Wyddfa i'r gogledd. Erbyn hyn mae bwthyn hanesyddol Tŷ Isaf yn siop i’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol sy’n gwerthu crefftau a chynnyrch lleol.  Mae Rhyd Ddu sydd gerllaw wedi ei gysylltu gan lwybr cerdded/beicio yn fan da i gychwyn cerdded i fynd i gopa'r Wyddfa.  Gallwch hyd yn oed fynd dan ddaear yng ngwaith Copr Sygun, sydd hefyd gerllaw.   Mae hwn yn atyniad poblogaidd i’r teulu gyda chyfleusterau uwchben y ddaear hefyd, yn cynnwys man chwarae antur i blant a chastell gwynt newydd.  Mae Stad Craflwyn (canolfan gynadleddau, gweithgarwch a diddordeb arbennig) sydd ym mherchnogaeth yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol gyferbyn â Sygun ar y ffordd i Nant Gwynant. Mae gan Craflwyn a’r ganolfan groeso leol arddangosfeydd ar Dywysogion Gwynedd.   Mae’r pentref yn un o’r pwyntiau codi a gollwng ar Reilffordd Ucheldir Cymru sy’n ymestyn o Gaernarfon i Borthmadog.

Atyniadau ym Meddgelert a'r ardal gerllaw

Bedd Gelert
Mwynfa Copr Sygun

Cerdded a Beicio ym Meddgelert a'r ardal gerllaw

Lôn Gwyrfai
Llwybr y Pysgotwr a Chwm Bychan
Taith Gerdded Bedd Gelert

Nid yw Cyngor Gwynedd yn gyfrifol am unrhyw gynnwys allanol

GwyneddConwy