A   A   A
Mawddach Estuary

Bae Ceredigion

Mae’n syndod i rai bod Eryri yn fwy na dim ond mynyddoedd. Mae ein ffiniau yn cynnwys rhai o’r rhannau arfordirol mwyaf tywodlyd a’r mwyaf ysblennydd ym Mhrydain. Mae cromlin ogleddol Bae Ceredigion – gyda llawer ohono yn y Parc Cenedlaethol – yn un ag iddo harddwch eithriadol. Ysguba’r mynyddoedd i’r môr drwy gyfres o aberoedd trawiadol a thraethau mawr. Yn y bryniau, fe ddewch o hyd i fannau prydferth anghysbell, llynnoedd mynydd a theithiau cerdded i’ch sirioli. Neu gallwch eistedd yn ôl a gadael i’r trên ryddhau’r straen ar sawl rheilffordd lein gul ac ar brif reilffordd Arfordir y Cambrian.

Aberdyfi

Ceir o leiaf dau reswm i’ch cymell i ymweld. Yn ddiau, dyma un o’r cyrchfannau glan môr tlysaf ym Mhrydain. Fe’i lleolir ble mae’r Afon Dyfi yn cwrdd â dyfroedd Bae Ceredigion ac mae hefyd yn lleoliad hwylio a chwaraeon dŵr poblogaidd. Mae yma derasau lliw pastel o flaen y traeth tywodlyd mawr a’r hen harbwr hen ffasiwn. Mae golff hefyd yn boblogaidd ar gwrs enwog Aberdyfi, un o’r cyrsiau cyswllt gorau yng Nghymru. Mae’r amgueddfa leol yn canolbwyntio ar orffennol adeiladu llongau’r porthladd ac yn Stryd Newydd ceir oriel luniau, The Gallery. 

Abergynolwyn

Pentref chwarel blaenorol sy’n dlws ac wedi swatio yn y mynydd ar un pegwn o reilffordd lein gul odidog Talyllyn. Bro ysblennydd ar gyfer teithiau cerdded – mae Cader Idris yn ymyl, ynghyd â phentrefan Llanfihangel-y-pennant a ddaeth i amlygrwydd yn sgil Mari Jones a gerddodd yn droednoeth oddi yma i’r Bala ym 1800 i nôl Beibl Cymraeg. Yn ogystal, gellir mynd ar deithiau cerdded ysgafn ar lan Llyn Myngul gerllaw. Ewch i ymweld â Chanolfan Dreftadaeth Capel Ystradgwyn tu draw i’r llyn (mae ar agor ddwywaith yr wythnos yn yr haf). Gall beicwyr ddilyn llwybr beicio Lôn Dysynni. Archwiliwch Graig y Deryn ac adfeilion prudd Castell-y-Bere yn y mynyddoedd.

Abermaw

Canolfan boblogaidd ar y fynedfa i Aber hardd yr afon Mawddach. Harbwr tlws sy’n gefndir i bentir Dinas Oleu, man geni’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol. Digon i’w weld a’i wneud – hwyl glan môr traddodiadol ar y promenâd ac yn y ffair fechan, dwy filltir o draeth tywodlyd ardderchog, dewis da o lety. Ewch am dro ar y bryniau i gael golygfeydd panoramig o fôr a mynydd, neu dilynwch Drywydd Mawddach ar hyd yr hen lwybr rheilffordd hyfryd i Ddolgellau. Darganfyddwch hanes y dref yn Sefydliad y Llongwyr a leolir o gwmpas yr harbwr ynghyd ag ‘amgueddfa llongddrylliad’ Tŷ Gwyn a’r Tŷ Crwn. Ceir hefyd Amgueddfa’r Bad Achub.

700 536 Golygfa Traeth Aberemaw - View Barmouth Beach 

Dyffryn Ardudwy

Pentref traddodiadol mewn lleoliad da i gael blas o’r arfordir a’r wlad. Mae siambr gladdu gynhanesyddol yn safle lleol pwysig. Ar y tir, ewch i ymweld â Llyn Cwm Bychan a’r Grisiau Rhufeinig dirgel sy’n esgyn i fynyddoedd anghysbell Rhinogydd.

Fairbourne

Pentref glan môr ar yr ochr draw i Aber Mawddach ac Abermaw. Traeth tywodlyd mawr. Ewch ar daith ar Reilffordd Fairbourne, y rheilffordd lein gul leiaf yng Nghymru (gyda chyswllt fferi ar draws yr aber).

Harlech

Tref fechan gwerth chweil, nid yn unig oherwydd y golygfeydd ar draws y twyni tywod ond hefyd oherwydd ei chastell canoloesol ar gopa’r graig sy’n Safle Treftadaeth y Byd UNESCO. Mae cwrs golff brenhinol Dewi Sant ymhlith y goreuon yng Nghymru. Mae atyniadau yn cynnwys Theatr Harlech, siopau crefftau a chanolfan hamdden ragorol gyda phwll nofio dan do, caffi a wal ddringo dros 30 troedfedd o uchder, yr un fwyaf cyffrous yn ne Eryri. Cewch flasu hufen ia blasus Hufenfa Castell. Ewch i ymweld â’r Lasynys Fawr (oddi ar y B4573 i’r gogledd o Harlech), tŷ hanesyddol yn dyddio yn ôl i’r 16eg ganrif a chartref i Ellis Wynne, yr awdur o’r 17eg/18fed ganrif (cysylltwch â 01766 781395 am fanylion ymweld o flaen llaw).

Llanbedr

Pentref hen ffasiwn ar droed Mochras neu ‘Shell Island’ (gelwir ef yn hynny oherwydd yr amrywiaeth o gregyn yno). Ar y tir, archwiliwch y Rhinogydd, y diffeithwch mynyddig olaf sydd ar ôl yng Nghymru. Mae cwmni gweithgareddau awyr agored The Wild Side yn cynnig arwain tripiau gwersylla yn y gwyllt a thywys teithiau cerdded i’r Rhinogydd. Ewch i ymweld â Cheudyllau Llechi Chwarel Hen Llanfair gerllaw.

Llwyngwril

Mae golygfeydd a hanes yn dod ynghyd yma – gellir gweld meini hir hynafol ac olion bryngaer o Oes yr Haearn ar y llethrau uwchlaw, ac mae gan y pentref orffennol rhyfeddol o ran y Crynwyr, gyda dau safle ar Daith y Crynwyr Dolgellau. Ceir mwy o dreftadaeth grefyddol yn Llangelynnin gerllaw yn Eglwys ganoloesol Sant Celynnin sy’n edrych dros y môr. Mae yma fwynderau lleol da sy’n cynnwys traeth cysgodol, siop, tafarn gyda bwyty a gorsaf reilffordd. Fe’i lleolir yn agos at ddyffryn prydferth Dysynni, Craig y Deryn a’r ‘Llyn Glas’ rhyfeddol. Llecyn gwych ar gyfer cerdded, beicio, marchogaeth, pysgota, syrffio, ymlacio ac ymweld â sawl atyniad gerllaw.

Tywyn

Lleoliad ar lan y môr a llecyn i fynd am dro. Mae atyniadau yn cynnwys traeth tywodlyd mawr a rheilffordd lein gul Talyllyn sy’n treiddio ymhell i’r bryniau. Ceir sawl llecyn prydferth lleol – Parc Ynysmaengwyn, Rhaeadrau Dolgoch, Craig y Deryn, Llyn Myngul a Chastell-y-Bere, cadarnle’r tywysogion Cymreig sy’n llawn awyrgylch.


DOLENNI PERTHNASOL AR Y WE

Aberdyfi
Abermaw - Barmouth
Harlech
Llwyngwril
Tywyn

Nid yw Cyngor Gwynedd yn gyfrifol am unrhyw gynnwys allanol

Adran Economi a Chymuned, Cyngor Gwynedd, Caernarfon LL55 1SH | Hawlfraint © Cyngor Gwynedd 2019 | Telerau ac Amodau | Preifatrwydd  | [email protected] | 01286 679686
GwyneddConwy