Pethau plant
Adeiladwyd Hwylfan Caernarfon ar gyfer plant sydd â gormodedd o egni – dyma fan chwarae antur dan do mwyaf Cymru, sy’n llawn dop o raffau ac ysgolion, sleidiau a phyllau peli. Wrth ymyl Harlech mae Parc Fferm ac Ysgubor Chwarae Plant yn Llanfair. Gallwch gyfarfod yr anifeiliaid ym Mharc Coed Sipsi, Bontnewydd, ger Caernarfon sy’n atyniad dymunol i’r teulu ac hefyd yn cynnwys rheilffordd fechan a llwybr cerdded gyda thema arbennig ac ychydig o ffantasi.
Dilynwch y ffordd werdd
Y lle cyntaf i alw heibio yw Canolfan y Dechnoleg Amgen yn y coed ger Corris.
Dyma ‘bentref y dyfodol’ sy’n arloesol, canolfan-eco mwyaf blaengar Ewrop, ble mae pob dim yn ymwneud â byw'n gynaliadwy ac yn wyrdd. Mae’n eich ysbrydoli, eich adlonni ac yn procio'r meddwl - gall y ganolfan newid eich bywyd hyd yn oed. Gan natur mae’r llaw uchaf mewn nifer o rannau o Eryri. Mae ein Parc Cenedlaethol, Gwarchodfeydd Natur Cenedlaethol ac Arfordiroedd Treftadaeth yn gyforiog o harddwch naturiol a bywyd gwyllt. Ewch i ymweld â mannau megis Cwm Idwal, tirwedd elfennig wedi’i sgwrio gan rew a dyma ble y ceir y planhigion arctig-alpaidd mwyaf prin a mwyaf cain. Neu beth am Warchodfa Natur Gwaith Powdwr ar lan aber Dwyryd wrth y fynedfa i goetiroedd derw hynafol Dyffryn Ffestiniog wedi’u gorchuddio â mwsogl.
Mae ein gerddi'n brydferth. Nid gwyrdd yw’r unig balet o liwiau cyfoethog yng Ngerddi Bodnant, perl yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn Nyffryn Conwy, sy’n gyfuniad blasus o ardaloedd ffurfiol ac eang. Agwedd gelfyddydol tuag at bensaernïaeth oedd wrth graidd campwaith Portmeirion, y pentref Eidalaidd unigryw a grëwyd gan Syr Clough Williams-Ellis. Efallai mai’r pentref sy’n cael y clod i gyd am ddenu’r llygad, ond a oeddech chi’n gwybod fod yma hefyd y gerddi mwyaf anhygoel, sy’n gyfuniad o ramant moroedd y de a ffrwythlondeb y Goedwig Law?
Porthodd Sir Clough ei ddychymyg di-ben-draw hefyd wrth lunio gerddi Plas Brondanw. Ceir Baneri Gwyrdd, y wobr uchaf i barciau a mannau agored, yn cyhwfan uwchben ein parciau gwledig yng Nglynllifon (ger Caernarfon) a Phadarn (Llanberis). Mae Parc Glynllifon yn ardd restredig Gradd I gyda 70 acer o goed a phlanhigion egsotig, hen ffoleddau a choed cochion mawr (ac ar ben hyn oll, celf a chrefft). Mae gan warchodfa natur 800 acr ar lan llyn ym Mharc Gwledig Padarn ddau Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig, ac fe allwch fentro fod yno rai o olygfeydd godidocaf gogledd Cymru.