A   A   A
610 233 Sea Môr

Pen Llyn a'r Sarnau

Pe baech yn mynd am dro o dan y dyfroedd hyd Pen Llŷn a’r Sarnau, o fewn hanner awr byddech yn pasio heibio glannau creigiog wedi’u gorchuddio gyda llygaid maharen, crancod meudwy a gobïod, cyn nofio dros wely môr tywodlyd sy’n frith o ledod, pysgod bwyell a môr lygod. Gallech sbecian i mewn i’r ogofâu môr tywyll, gyda’u waliau wedi’u gorchuddio ag anemonïau a chwistrellau môr ffa pob. Efallai y caech gip ar lysywen fôr, neu weld morloi llwyd yn diogi!

700 536 Gwlithen fôr Coryphella-browni Sea slug © Paul Naylor
Gallech basio trwy’r dyfroedd dwfn agored nes dod ar draws heulforgwn deng metr o hyd yn rhidyllu plancton gyda’u cegau anferth, a dolffiniaid a llamhidyddion yn llamu uwchben y tonnau. Nes ymlaen, byddai riffiau byrlymol yn gwneud i’r dŵr sïo gyda swigod, cyn i chi gamu allan o’r dŵr ar un o riffiau creigiog y Sarnau neu ymlacio gyda draenogiaid y môr neu hyrddiaid ifanc yng nghilfachau neu gulforoedd yr aberoedd arfordirol.     

O ganlyniad i’r amrywiaeth, a pha mor anarferol yw’r holl dirwedd tanddwr, y mathau o wely’r môr (cynefin), a’r anifeiliaid a’r planhigion hynod sy’n byw yma, mae Pen Llŷn a’r Sarnau wedi’i hamddiffyn fel Ardal Cadwraeth Arbennig (ACA).  

Dewisir Ardaloedd Cadwraeth Arbennig gan fod ynddynt rai o’r enghreifftiau gorau yn Ewrop o ardaloedd bywyd gwyllt, creaduriaid a phlanhigion arbennig sydd angen gofalu amdanynt.
Pen Llŷn a'r Sarnau

Nodweddion Cadwraeth

Mae’r term nodwedd gadwraeth yn cyfeirio at gynefin neu rywogaeth benodol, a restrir yn y Gyfarwyddeb Cynefinoedd, y mae’r ACA wedi cael ei dewis ar eu cyfer. Mae gan ACA Pen Llŷn a’r Sarnau ddeuddeg nodwedd gadwraeth. Cynefinoedd yw naw o’r rhain, a rhywogaethau yw’r tair nodwedd arall. 

Aberoedd

Mae aberoedd wedi’u gwneud o nifer o wahanol fathau o gynefinoedd. Aber yw’r rhan o ddyffryn afon sy’n ymestyn i lawr yr afon o derfyn dŵr lled hallt ac mae’n ddibynnol ar y llanw. Mae gan aberoedd nodweddion yn cynnwys rhyw gymaint o halen o ddŵr croyw yn yr afon i amgylchiadau gynyddol forol tuag at y môr agored, rhyw gymaint o waddod o’r afon a dŵr y môr yn dod i mewn i’r aber. Mewn gwahanol rannau o’r aber ceir gwahanol raddau o gysgod rhag y tonnau a’r llanw gyda thraethellau gwaddod rhynglanwol a sianelau islanwol llawn gwaddod yn aml iawn yn datblygu lle mae’r llif yn isel.

Y tri phrif aber ym Mhen Llŷn a’r Sarnau yw Glaslyn Dwyryd, Mawddach a Dyfi. Mae’r tri hyn wedi’u dosbarthu fel aberoedd bariau sydd â bar gwaddod ar draws eu ceg a’r hyn ydynt yw dyffrynnoedd afonydd sydd wedi lled foddi ac sydd, yn sgil hynny, wedi’u gorlifo. Ym Mhen Llŷn a’r Sarnau y mae’r enghreifftiau gorau o’r math hwn o aber yn y DU.

Morloi Llwyd - Halichoerus grypus 

Mae’r morloi llwydion Halichoerus grypus ymhlith y morloi prinaf yn y byd – mae oddeutu 40% ohonynt yn byw yn y DU ac oddeutu 95% o rai’r UE hefyd yn byw yn y DU. Yn ACA Pen Llŷn a’r Sarnau mae nifer o safleoedd pwysig lle mae morloi llwydion yn ymlacio, er mwyn geni ac fel arall hefyd – safleoedd sy’n dibynnu ar y cynefinoedd eraill i’w cynnal.

700 536 Morlo_Seal © Crown copyright (2011) Visit Wales
Ni wyddys beth yn union yw gofynion y morlo llwyd o ran ei gynefin – yn aml iawn nid oes morloi mewn cynefinoedd sydd i’w gweld yn rhai addas. Yn yr ACA mae’r morlo yn gwneud ei gynefin mewn mannau creigiog rhynglanwol, ar draethau creigiog  a thraethau clogfeini / cerrig, mewn ogofâu sydd yn wyneb y llanw ac, o bryd i’w gilydd, ar draethau tywodlyd a thraethellau tywod sydd yn wyneb y llanw. Yng ngogledd Cymru ac yn yr ACA yn benodol, mae ogofâu môr yn gynefin pwysig o ran cynhaliaeth, gydag oddeutu 67% o forloi yn geni mewn ogofâu yn 2002 (Westcott, et al., 2003) a’r gweddill yn geni ar draethau. Mae’r rhan fwyaf o’r safleoedd ymlacio o amgylch gogledd-orllewin yr ACA, safle sy’n cynnwys Ynys Enlli.

Un o’r ystyriaethau allweddol ar gyfer gwarchod y morlo llwyd yn yr ACA yn benodol, ac fel rhan o nifer estynedig yng ngogledd Cymru a thu draw iddo, yw pobl yn tarfu ar safleoedd magu ac ymlacio. Ac eithrio nifer fechan, mae morloi yn yr ACA yn dewis ymlacio ar draethau creigiog neu mewn ogofâu môr nad oes modd i bobl gael atynt ar hyn o bryd.

Cilfachau a baeau mawr bas

Fel arfer caiff cilfachau a baeau mawr bas eu diffinio fel bylchau mawr o’r arfordir lle cyfyngir fel arfer ar ddylanwad dŵr croyw. Fel arfer ceir mwy o gysgod yno rhag tonnau nac ar yr arfordir agored ac maent yn eithaf bas, fel arfer yn llai na 30m o ddyfnder ar gyfartaledd.

196 150 Machlud Sunset
Y gilfach a adwaenir fel Bae Tremadog ym mhen gogleddol Bae Aberteifi yw cilfach a bae mawr bas Pen Llŷn a’r Sarnau. Cilfach eithaf bas yw Bae Tremadog gyda dyfnder o lai nag 20m ar gyfartaledd. Mae’n gilfach anarferol hefyd oherwydd natur ac amrywiaeth gwely’r môr yno, y cynefinoedd arfordirol a’r bywyd gwyllt yn ogystal ag oherwydd rhyw gymaint o’i nodweddion ffisegol.

Dyfrgwn - Lutra lutra

Ni wyddys faint o ddyfrgwn sydd yn yr ACA ond ceir tystiolaeth sy’n dangos fod dyfrgwn yn defnyddio llecynnau o’r arfordir ar draws y cyfan o’r safle.Dengys gwybodaeth o arolygon bod dyfrgwn yng nghyffiniau aberoedd yr ACA gydag arwyddion eu bod yn defnyddio aberoedd Glaslyn/Dwyryd a Dyfi yn ogystal ag arwyddion ohonynt (e.e. eu baw) wrth ymyl aber Mawddach ac mewn ceuffyrdd mwyngloddiau ar hyd yr aber.

Yn sgil gwybodaeth o arolygon, achosion o weld y dyfrgwn yn fyw a gweld eu cyrff ar y ffyrdd, awgrymir bod afon Soch, Rhydhir, Erch, Dwyfor, Artro a Dysynni bellach yn cael eu defnyddio gan ddyfrgwn.

Ceir tystiolaeth hefyd bod dyfrgwn yn defnyddio amrediad y llanw, er enghraifft gwelir arwyddion o’r dyfrgwn yn aml yn Broadwater ar afon Dysynni. Er y gellid credu eu bod i’w gweld fwyaf  mewn aberoedd ac yn eu cyffiniau, yn ôl astudiaeth o Ben Llŷn yn 2002, gwelwyd arwyddion o ddyfrgwn o fewn 1 cilomedr i’r traeth mewn wyth allan o’r deg safle a arolygwyd.

Yn yr ACA mae yna fannau bwydo posib pwysig i ddyfrgwn. Gall dyfrgwn arfordirol hela cyn belled â 100m o’r traeth mewn dŵr dros 10m o ddyfnder ond bwydir gan amlaf yn llawer nes at y lan mewn dŵr sy’n llai na 3m o ddyfnder.Hoff gynefin yr ysglyfaeth sy’n penderfynu lle bydd y prif fannau hela gan mwyaf.Mae’n debygol bod y dyfrgwn yn medru cymryd mantais o’r toreth o fwyd sydd ar gael bob tymor. Mae hefyd yn debygol nad yw dyfrgwn yn llwyr ddibynnol ar yr arfordir am fwyd a’u bod hefyd yn bwydo mewn afonydd cyfagos.

Riffiau

Mae riffiau Pen Llŷn a’r Sarnau yn hynod amrywiol ac yn cynnal amrywiaeth eang iawn o anifeiliaid a phlanhigion y môr gan adlewyrchu’r ystod eang o ffactorau ffisiograffeg o amgylch y safle megis tonnau, ffrydiau llanw, amrywiaeth ym math gwely’r môr, sgwriad y llanw, pa mor glir yw’r dŵr ac amrywiaeth yn nyfnder y dŵr.

Mae modd defnyddio’r term riff ar gyfer gwahanol fathau o strwythurau sy’n cynnwys riffiau sydd wedi’u ffurfio o greigiau a cherrig i riffiau biogenig a grëwyd o greaduriaid byw. Mae pob math o riff yn cynnal gwahanol gymuned o anifeiliaid. 

Ardal Cadwraeth Arbennig
facebook.com/pen-llŷn-ar-sarnau
@ACA_PLAS_SAC

Cymryd Rhan 
A fyddech chi’n hoffi cymryd rhan mewn helpu i warchod eich amgylchedd morol lleol? Gallwch wneud hyn mewn nifer o ffyrdd gwahanol, o newidiadau bychain yn eich bywyd dyddiol all gael effaith gadarnhaol iawn ar ein hamgylchedd i gymryd rhan fwy gweithgar drwy ymuno â digwyddiadau a phrosiectau ynghylch ein bywyd gwyllt morol. Cysylltwch â ni.

Nid yw Cyngor Gwynedd yn gyfrifol am unrhyw gynnwys allanol

Adran Economi a Chymuned, Cyngor Gwynedd, Caernarfon LL55 1SH | Hawlfraint © Cyngor Gwynedd 2019 | Telerau ac Amodau | Preifatrwydd  | [email protected] | 01286 679686
GwyneddConwy