A   A   A
Copa'r Eifl Summit

Mae’r Eifl yn codi'n serth o arfordir gogleddol Penrhyn Llŷn. Mae'r mynydd eiconig yn cynnwys tri chopa, Tre'r Ceiri (485m), Garn Ganol (564m) a Charn Fôr (444m). Ynghyd â phwysigrwydd diwylliannol cryf, mae’r Eifl yn cyffroi diddordeb arbennig oherwydd ei phlanhigion ac adar.

Ar y drydedd gopa saif yr hen fryngaer Tre'r Ceiri. Mae'n un o'r bryngaerau cadwedig orau ym Mhrydain ac yn un o'r rhai dwysaf ei phoblogaeth. Mewn rhai mannau, mae'r rhagfuriau cerrig bron mor uchel ag y buont erioed ac maent yn amgáu dros 150 o dai cerrig sy'n dal i'w gweld. Mae'r tu mewn yn llawn adeiladau gyda waliau cerrig ac olion y 150 o gytiau, gyda rhai waliau dros fetr o uchder. Mae nifer o dai crwn ac eraill yn hirsgwar a hirgrwn. Mae'r cytiau, sydd wedi eu grwpio gyda'i gilydd mewn pedwar neu bum band ar draws y gaer, yn amrywio o ran maint a siâp.

Ceir golygfeydd gwefreiddiol yn ymestyn o Cymbria i Wicklow ac ar draws Bae Ceredigion.  Mae cynefinoedd yn cwmpasu'r draethlin greigiog, chwareli, brigiadau naturiol, sgri, rhostir eang ac ardaloedd agored y copa. Mae Grug, Grug y Mêl ac Eithin Mân yn dominyddu'r rhostir sychach, tra bod Grug Croesddail, Clwbfrwynen y Mawn, Glaswellt y Gweunydd a Migwyn yn niferus yn yr ardaloedd gwlypach. Mae Tafod y Gors a'r Hesgen Felen Fawr i’w darganfod mewn llefydd gwlyb lle mae'r priddoedd yn llai asidig. Mae'r brig gogleddol sy'n wynebu’r môr yn llethr gylïog serth i lawr at lefel y môr. 

Mae'r boblogaeth o'r Frân Goesgoch, sy'n bridio ar y creigiau naturiol ac artiffisial ac yn bwydo ar y rhostiroedd, yn ennyn diddordeb penodol. Mae adar eraill yn cynnwys y Bwncath, Corhedydd y Waun, y Gigfran a Thinwen y Garn (ymwelydd yn yr haf). Mae gyr o eifr gwyllt hefyd yn drigolion yr ardal.

Parcio ar gael ym maes parcio uchaf Porth-Y-Nant, uwchben pentref Nant Gwrtheyrn.

Adran Economi a Chymuned, Cyngor Gwynedd, Caernarfon LL55 1SH | Hawlfraint © Cyngor Gwynedd 2017 | Telerau ac Amodau | Preifatrwydd  | twristiaeth@gwynedd.llyw.cymru | 01286 679686
GwyneddConwy