A   A   A
Glannau'r Foryd Shores

Y Foryd

Llandwrog, Caernarfon, LL54 5UL (map)
Gwarchodfa Natur Leol Y Foryd

Y Foryd
Wedi ei lleoli i'r de-ddwyrain o Gaernarfon, mae'r Foryd yn fae rhynglanwol cysgodol, sy'n rhannol gaeedig i Afon Menai. Ffurfiwyd y gilfach arfordirol anarferol hon gan y prosesau rhyngweithio dilynol o gynnydd yn lefel y môr, erydu arfordirol a dyddodiad llanw.

Oherwydd ei natur gysgodol, mae’r bae yn cynnwys amrywiaeth o waddodion a swbstradau rhynglanwol sy'n cynnal cymunedau amrywiol o infertebratau dyfnforol.

Ynghyd â'r Afon Menai a Bae Colwyn mae’n rhan o Ardal Cadwraeth Arbennig Ewropeaidd i gydnabod pwysigrwydd y cynefin hwn.

Mae'r Corwellt y Gamlas brin yn bodoli mewn rhannau o'r aber rhynglanwol ac yn fwyd i adar gwyllt fel Gwyddau Du a Chwiwell. Ar yr ochr orllewinol, mae glastraeth helaeth yn creu llwyfan ar ddiwedd yr haf i Sêr y Morfa.  Mae llystyfiant Cordwellt yn darparu gorchudd da i'r adar gwyllt yn ardal ddyfnaf y bae.

Mae dros 200 o rywogaethau o adar wedi eu cofnodi o amgylch y Foryd. Fel arfer mae’r Alarch Ddof, Crëyr Bach, Hwyaden yr Eithin, Pioden y Môr a’r Gylfinir yn amlwg drwy gydol y flwyddyn. Mae’r Cwtiad Torchog, Cwtiad y Traeth (heb fod yn bridio), a Phibydd Coesgoch hefyd i'w gweld drwy gydol y flwyddyn. Mae’r RSPB yn rheoli porfeydd gwlyb ar Warchodfa Natur Morfa Dinlle gerllaw er mwyn annog Cornchwiglod i fridio. Fodd bynnag, mae'r aber yn fwyaf adnabyddus am yr adar gwyllt sydd yn gaeafu yno. Mae heidiau mawr o dros 5,000 o Chwiwell yn nodwedd arbennig yn y gaeaf, fel arfer gyda Hwyaden Lygad Aur a Hwyaden Frongoch, ac yn aml y Pibydd Coeswerdd a'r Rhostog Gynffonfrith.

Mae’r Foryd wedi bod o bwysigrwydd strategol oherwydd ei lleoliad ger y fynedfa i Afon Menai ac ar y pwynt croesi mwyaf cul. Yn yr Oes Haearn, 2,500 o flynyddoedd yn ôl, roedd rhagfuriau dwbl Dinas Dinlle yn meddiannu uchelfan ar arfordir Môr Iwerddon. Yn ôl y Mabinogi, yma y magwyd y rhyfelwr a’r dewin Lleu Llaw Gyffes.

Ar ddiwedd y 18fed ganrif adeiladwyd Caer Belan ar Benrhyn Dinlle i amddiffyn y Fenai yn ystod Rhyfel Annibyniaeth America ac yna yn ystod Rhyfeloedd Napoleon. Cafodd y gaer ei ddefnyddio eto yn ystod yr Ail Ryfel Byd pan roedd gan bob un o'r tri gwasanaeth arfog gorsafoedd yma. Dominyddodd y Llu Awyr Brenhinol y lleoliad a datblygwyd yr hyn a elwir bellach Maes Awyr Caernarfon. Hyd at heddiw mae’r gaer a'i doc yn parhau i raddau helaeth fel yr adeiladwyd yn wreiddiol, ac mae bellach yn lleoliad poblogaidd ar gyfer gwyliau.

Mae clai clogfaen a adneuwyd gan y rhewlifiant bellach yn ffurfio clogwyni isel o gwmpas Dinas Dinlle.
Adran Economi a Chymuned, Cyngor Gwynedd, Caernarfon LL55 1SH | Hawlfraint © Cyngor Gwynedd 2017 | Telerau ac Amodau | Preifatrwydd  | [email protected] | 01286 679686
GwyneddConwy