A   A   A
Blwyddyn y Môr 2018, Pont Abermaw

Blwyddyn y Môr – Gwthiwch y gwch allan ar ein Glannau EPIG

2018 yw Blwyddyn y Môr Croeso Cymru, a pha ffordd well o ddathlu ein harfordir eithriadol na thrwy ymweld â Glannau EPIG Eryri Mynyddoedd a Môr. Dyma'r lleoliad delfrydol gyda thraethau bendigedig ar gyfer plant o bob oed, Cylchdeithiau Cerdded Arfordirol, trysorau cudd, a digon o gyfleoedd i brofi ein diwylliant, ein treftadaeth a'n tirlun cyfoethog.

610 233 Lleuad Porthdinllaen Moon (Turtle Photography)

Llwybr yr Arfordir a Chylchdeithiau Arfordirol

Ffordd gwych o archwilio ein harfordir godidog ydi trwy gerdded ar Lwybr Arfordir Cymru yn ardal Eryri Mynyddoedd a Môr, a rhyfeddu at olygfeydd rhai o dirweddau a chynefinoedd mwyaf gwarchodedig Cymru. O'r llwybr ym Mhen Llŷn, mae siawns ardderchog y gallech chi weld Pâl, Brân Goesgoch neu Aderyn Drycin Manaw, neu os ydych chi'n wir lwcus, Gwalch y Môr yn dychwelyd i'w nyth ar Aber Glaslyn, ger Porthmadog, gyda phryd parod o bysgodyn newydd ei ddal yn ei chrafangau, i fwydo ei chywion newynog! Mae’n werth ymweld â Chanolfan Bywyd Gwyllt Glaslyn i weld y Gweilch a’r cywion. Datblygwyd 18 o Deithiau Cerdded Cylchlythyr Arfordirol yn ddiweddar yn yr ardal, yn seiliedig ar Lwybr Arfordir Cymru, gan fynd â chi trwy dirluniau ysblennydd amrywiol, megis Porth Neigwl ym Mhen Llŷn, lle achosodd y tonnau anferth sawl llongddrylliad yn y 19eg ganrif, bellach mae’r tonnau yma yn fendigedig ar gyfer syrffwyr. Ar Gylchdaith Aberdyfi, mae yna olygfeydd syfrdanol i'w gweld i lawr aber yr Afon Dyfi mawreddog, rhan o Biosffer Dyfi, sydd â Statws Biosffer UNESCO.

Os ydych ar frys, gallwch ymweld â llawer o'r hyn y mae Llwybr Arfordir Cymru yn ei gynnig, trwy deithio mewn car neu fws ar Y Ffordd Arfordirol, rhan o ddynodiad Croeso Cymru, Ffordd Cymru.

Aber y Ddyfi Carn March Arthur Dyfi Estuary

Traethau EPIG

Mae ymweliad â'r traeth yn allweddol i wyliau gwych. Rydym yn gartref i 200 milltir o arfordir a mwy na 35 o draethau. Mae Porth Oer, Porthdinllaen, Abersoch ac Ynys Mochras wedi'u cynnwys yn rhestr y 'Traethau Prydeinig Gorau' gan The Sunday Times. Mae gennym hefyd ddigon o draethau Baner Las, Gwobr Arfordir Gwyrdd a thraethau cyfeillgar i'r teulu. Pa ffordd well o orffen diwrnod caled yn cerdded yn mynyddoedd Eryri, neu gymryd rhan yn y llu o weithgareddau dŵr sydd ar gael, na chael gwydraid o win o winllan leol, ac ymlacio ar draeth Baner Las wrth i'r haul fachlud dros Fae Ceredigion, y diwedd perffaith i ddiwrnod perffaith.

610 233 Golygfa o Draeth Abersoch Beach and Views

Llynnoedd ac Afonydd

Mae gennym hefyd Lannau EPIG ar ein llynnoedd ac afonydd, gan gynnig cyfleoedd gwych ar gyfer pysgota, nid yn unig ar lynnoedd Trawsfynydd a Tegid yn y Bala, ond hefyd ar y llynnoedd a'r afonydd llai adnabyddus ar draws yr ardal, gellir dod o hyd i’r wybodaeth hyn i gyd yn Pysgota Eryri Mynyddoedd a Môr. Ar Llyn Trawsfynydd, adeiladwyd argae yn 1922, i gyflenwi dŵr i Orsaf Bŵer Trydan Hydro Maentwrog, sef yr orsaf bŵer fwyaf o'i fath yn y DU pan agorwyd hi ym 1928. Heddiw gallwch chi dreulio llawer o oriau yn pysgota yno, naill ai o'r lan, neu llogi cwch a physgota ar y llyn ei hun! Mae Llyn Tegid yn y Bala yn gyrchfan ardderchog ar gyfer hwylio a chanŵio, a dyma'r corff mwyaf o ddŵr naturiol yn Cymru. Os nad ydi chwaraeon dŵr neu bysgota yn cymryd eich bryd, yna ewch ar daith ar hyd glan y llyn ar Reilffordd Llyn Tegid, sydd wedi'i adfer i'w gogoniant gwreiddiol gan wirfoddolwyr brwdfrydig.

Hwylio Llyn Tegid Bala Lake Sailing

Treftadaeth Arfordirol ar raddfa EPIG

Mae pob modfedd dros y 200 milltir o draethau tywodlyd ysblennydd, clogwyni garw ac aberoedd mawreddog wedi’w trwytho mewn hanes, ac mae yna straeon i'w dweud; morwyr dewr yn hwylio i bob rhan o'r byd gyda'u cargo, smyglwyr y 18fed Ganrif yn defnyddio adnoddau naturiol yr ardal i guddio eu casgenni a hanesion am diroedd chwedlonol fel Cantre'r Gwaelod, a gollwyd o dan y tonnau ger Aberdyfi. Ar lannau Afon Menai, Bae Ceredigion a’r Afon Chonwy, mae Caernarfon, Harlech a Chonwy yn gartref i gestyll godidog sy'n ffurfio rhan o safle Treftadaeth y Byd Cestyll Edward 1af, ac yn sefyll fel atgof o orffennol treisgar ar ein glannau ysblennydd. Fodd bynnag, hanes modern yw hyn o'i gymharu â rhai o'r safleoedd hynafol sydd ar ein glannau, o Ddinas Oleu yn Abermaw, y parsel cyntaf o dir a roddwyd i'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn 1895, i Dre Ceiri, caer ysblennydd o'r Oes Haearn, 450 metr uwchben lefel y môr ger Nefyn. Mae safleoedd Neolithig megis Siambrau Claddu Dyffryn Ardudwy, a safleoedd Rhufeinig fel Segontium yng Nghaernarfon, yn ychwanegu at y tapestri cyfoethog hwn o hanes a threftadaeth sy'n agos at ein glannau EPIC.

Castell Caernarfon Castle

Trefi Harbwr Hanesyddol

Mae ein trefi harbwr prysur yn ferw o dreftadaeth ddiwydiannol yr ardal, a buont yn gyswllt pwysig gyda gweddill y byd wrth i dunelli o lechi a cherrig gael eu hallforio yn y 19eg ganrif a'r 20fed ganrif cynnar. Mae'r llinellau trên oedd yn cario'r llwythi mawr hyn wedi cael eu hadfer yn chwaethus i ddarparu atyniadau ymwelwyr o'r radd flaenaf ar draws yr ardal, megis Rheilffyrdd Ffestiniog a Talyllyn. Ond, a wyddoch chi, yn ôl y chwedl, hwyliodd y Tywysog Cymreig, Madog ab Owain Gwynedd, gafodd Porthmadog ei enwi ar ei ôl, o'r porthladd i America yn 1170, dros 300 o flynyddoedd cyn i Christopher Columbus gyrraedd y cyfandir yn 1492. Heddiw, mae'r trefi arfordirol hyn wedi cael eu trawsnewid, gan gynnig llety moethus, bwytai a siopau sy'n rhoi blaenoriaeth i’r cynnyrch gorau lleol, ac atyniadau a gweithgareddau addas i bawb. Fel bonws ychwanegol, efallai y byddwch chi'n dysgu gair neu ddwy o'r iaith fyw hynaf yn Ewrop, y Gymraeg, gan y bobl lleol, cyfeillgar!

Harbwr Porthmadog Harbour

Antur Bwyd Môr EPIG

Yn naturiol, mae bod mor agos at gymaint o ddŵr yn golygu amrywiaeth enfawr o fwyd môr, pysgod a physgod cregyn ffres, o'r môr a'r afonydd a'r llynnoedd. Edrychwch ar ein tudalennau digwyddiadau am wybodaeth am y gwyliau bwyd poblogaidd yn yr ardal.

Bwyd Môr Seafood

LLETY

Cliciwch yma i chwilio am lety neu ewch i CroesoCymru/Eryri

LAWRLWYTHO


Llyfryn Eryri Mynyddoedd a Môr (PDF, 3.15MB)
Edrychwch neu lawr lwythwch gopi o'r llyfryn.

Adran Economi a Chymuned, Cyngor Gwynedd, Caernarfon LL55 1SH | Hawlfraint © Cyngor Gwynedd 2018 | Telerau ac Amodau | Preifatrwydd  | [email protected] | 01286 679686
GwyneddConwy