A   A   A
610 233 Tywyn

Naws am Le - Tywyn

Tref lan môr yw Tywyn ar lannau gogledd Bae Ceredigion. Mae'r enw Tywyn yn gallu golygu 'traeth' neu 'dwyni tywod'. Roedd y sillafiad Seisnig Towyn yn arfer cael ei ddefnyddio ond, erbyn hyn, defnyddir 'Tywyn' yn y Gymraeg a'r Saesneg. Adeg cyfrifiad 2001, roedd 40.5% o drigolion y dref yn siarad Cymraeg.

Roedd yma dref cyn y goresgyniad Normanaidd ac adeiladwyd un o adeiladau hynaf Tywyn, Eglwys bresennol Sant Cadfan, yn ystod cyfnod y goresgyniad er bod yno adeilad ymhell cyn hynny, yn ôl pob tebyg. Yn yr eglwys, ceir carreg ac arni arysgrif o'r wythfed neu'r nawfed ganrif o'r enw Carreg Cadfan. Yr arysgrif ar y garreg hon yw'r ysgrifen Gymraeg hynaf y gwyddom amdani.

I ddarllen mwy am Dywyn cewch lawrlwytho: Naws am Le - Tywyn

Cadfan

Mae Tywyn yn llawn hanes sydd yn dyddio yn ôl i’r 7fed ganrif, cafodd Eglwys Sant Cadfan ei adeiladu ar ddaear cyn clas Celtaidd - man dysgu crefyddol.


196 150 Tywyn

Enghraifft Hynaf

Yma fe ddewch ar draws yr enghraifft hynaf o garreg gyda Chymraeg arno. Coffa i Gadfan yw’r garreg, ac er ei fod yn hen Gymraeg, y mae’n ddealladwy.

Nant Gwernol

Atyniad gwych arall sydd i'w chael yn Nhywyn yw'r llwybrau cerdded coedwigoedd ac afonydd Nant Gwernol.

Rheilffordd Talyllyn

Mae Rheilffordd Talyllyn yn rheilffordd gul hanesyddol, sydd wedi ei leoli yng nghefn gwlad brydferth Canoldir Cymru. Y mae’n rhedeg oddi wrth Tywyn i Abergynolwyn a Nant Gwernol ac yna'n pasio Rhaeadr Dolgoch.


Naws am Le - Pobl Tywyn

Mari Jones (Rhagfyr 16 1784 – Rhagfyr 29, 1864)
Yn y flwyddyn 1800, roedd merch ifanc 16 oed o'r enw Mari Jacob Jones yn byw yn Llanfihangel-y-Pennant, Meirionnydd. Roedd wedi dysgu darllen yn un o'r ysgolion cylchynol a drefnwyd gan Thomas Charles yn yr ardal. Daeth yn enwog am iddi gerdded yn droednoeth o'i chartref i'r Bala – taith o dros 50 milltir yn ôl a blaen – i brynu copi o'r Beibl Cymraeg. Bu'n cynilo'i harian ers dros chwe blynedd i gael digon o arian i brynu copi a'r Bala oedd y lle agosaf y gallai brynu copi.

I ddarllen mwy cewch lawrlwytho: Pobl - Tywyn

Nid yw Cyngor Gwynedd yn gyfrifol am unrhyw gynnwys allanol

Website Sitemap

open site map
cyfeiriad a manylion cyswllt
Adran Economi a Chymuned, Cyngor Gwynedd, Caernarfon LL55 1SH | twristiaeth@gwynedd.gov.uk | 01286 679217
Hawlfraint © Cyngor Gwynedd 2010 | Telerau ac Amodau | Preifatrwydd  | Canolfannau Croeso
GwyneddConwyWales/Cymru
Tysca CMS