A   A   A
700 267 (610x233) Castell Dolbadarn Haul - Dolbadarn Castle Sun

Treftadaeth

Dyma beth sydd yn ein gwneud ni’n wahanol.  Mae cymysgedd arbennig o safleoedd hanesyddol wedi’u dotio ar hyd y wlad a’r arfordir – caerau a chwareli llechi Treftadaeth y Byd, cysegrfeydd Celtaidd a chanolfannau diwylliannol.  Mae yma dirweddau ysbrydoledig hefyd, a iaith Gymraeg fyw y gallwch ei chlywed a’i gweld ym mhob man. Mae’r holl bethau hyn wedi cyfrannu at greu Gogledd Cymru fel y mae heddiw – rhan unigryw o’r Deyrnas Unedig. Mae hon yn hunaniaeth yr hoffem ei rhannu â phawb, drwy gyfrwng geiriau, cerddoriaeth a mentrau newydd fel Ein Treftadaeth, sy’n dod â’r gorffennol yn fyw mewn amryw o ffyrdd gwahanol.

Llechi Cymru

Mae llechi gafodd eu rhwygo o fynyddoedd Eryri nid yn unig wedi toi adeiladau ym mhedwar ban byd ond hefyd wedi ffurfio y tirlun unigryw sydd i’w weld hyd heddiw ar hyd a lled gogledd orllewin Cymru. Crewyd cymunedau oedd yn fwrlwm o fywyd diwyllianol a gwleidyddol gan helpu i sicrhau parhad yr iaith Gymraeg. Mae’n dreftadaeth gyfoethog a dyma paham mae cais yn cael ei baratoi i ennill statws Safle Treftadaeth y Byd UNESCO i’r diwydiant fel cydnabyddiaeth o gyfraniad llechi i ddatblygiad dynoliaeth. Am fwy o wybodaeth ewch i Llechi Cymru

Llechi Cymru

Ein Treftadaeth

Mae arddangosfa newydd yn agor yn Oriel Pendeitsh, dafliad carreg i ffwrdd o Gastell Caernarfon. Braslun ydyw o hanes Caernarfon, tref sydd wedi’i siapio gan ddylanwadau Rhufeinig, canoloesol a morwrol. Mae hefyd yn nodi cychwyn Ein Treftadaeth, menter a fydd yn cynnwys lansio arddangosfeydd a digwyddiadau eraill drwy’r ardal yn ystod y blynyddoedd nesaf, gan gwmpasu popeth o gynhanes i ddyfodiad y Rhufeiniaid, llwybrau’r pererinion i Dywysogion Gwynedd, tirweddau ysbrydoledig i’r diwydiant llechi.

Tywysogion Gwynedd

Dim ond un rhan o’r hanes yw’r cestyll cadarn a adeiladwyd gan Frenin Lloegr, Edward I. Dewch i ddarganfod mwy am Dywysogion cynhenid Gwynedd mewn arddangosfa fawr nodedig yng Nghanolfan Groeso Conwy, sy’n dangos mapiau wedi’u hanimeiddio a mapiau chwilio, arddangosfeydd rhyngweithiol, barddoniaeth Gymraeg a cherddoriaeth. Mae arddangosfeydd yng Nghanolfan Groeso Betws y Coed a Chastell Cricieth hefyd, a bydd un yng Nghanolfan Groeso Beddgelert yn fuan.

 

Beth ddywed Bryn am Enlli?

Cymaint yw grym tirweddau Eryri fel y gall pawb, pobl leol ac ymwelwyr fel ei gilydd, gael blas ohonynt. Dyma beth sydd gan yr arwr lleol Bryn Terfel i’w ddweud am Ynys Enlli, yr ynys ym mhen draw Pen Llŷn: ‘Mae’n ynys hynod ... bychan, ond hudol, lle i fyfyrio. Maen nhw’n dweud bod 20,000 o seintiau wedi’u claddu yma, a dwi’n siŵr bod hyn yn wir, achos, wir i chi, ’dwi erioed wedi gweld lle mor ysbrydol ... wrth i ni gyrraedd, fe ganodd côr o forloi i ni wrth i ni ddod i mewn i’r bae.’

Carreg a llechen

Mae diwydiant llechi Gogledd Cymru yn llawn hanes – cymaint felly nes iddo gael ei enwebu am statws Treftadaeth y Byd UNESCO. Caiff yr hanes ei adrodd mewn safleoedd llechi diwydiannol megis Chwarel Hen Llanfair (Llanfair), Mwynglawdd Corris, Gwaith Llechi Inigo Jones (Penygroes), Ceudyllau Llechi Llechwedd (Blaenau Ffestiniog), Amgueddfa Lechi Cymru (Llanberis) a Mwynglawdd Copr Sygun (Beddgelert).  Mae carreg i’w gael ym mhob man hefyd, mewn cestyll ac aneddleoedd Celtaidd hynafol megis Tre’r Ceiri ar gopa creigiog mynyddoedd Yr Eifl yn Llŷn. Mae cestyll, wrth gwrs, yn rhywbeth yr ydym yn arbenigo ynddynt yma.  Mae cestyll grymus Caernarfon, Harlech a Chonwy – y tri ohonynt yn Safleoedd Treftadaeth y Byd – yn ddolenni yn y ‘gadwyn haearn’ a adeiladwyd gan y Brenin Edward I yn y canol oesoedd.   610 233 Amgueddfa Lechi / Slate Museum

Amgueddfeydd Cenedlaethol Cymru

Daw Amgueddfa Lechi Genedlaethol Llanberis â diwydiant a fu unwaith yn gyfrifol am ‘roi to ar y byd’, yn ôl yn fyw.  Nid amgueddfa gyffredin mohoni.  Dyma’r gweithdai go iawn o’r 19eg ganrif, yn edrych fel petai’r gweithwyr newydd adael am y diwrnod.  Mae yma hefyd res o fythynnod y chwarelwyr ac olwyn ddŵr anferth. Does ryfedd bod yma’n ganolbwynt i gais y diwydiant llechi am statws Treftadaeth y Byd.

Yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol

Mae’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn gofalu am blastai a thai hanesyddol, mawr a bach – er enghraifft, Castell Penrhyn ym Mangor a Thŷ Mawr Wybrnant, Penmachno, cartref cyffredin yr Esgob William Morgan, wnaeth gyfieithu’r Beibl i’r Gymraeg am y tro cyntaf.

Geiriau a cherddoriaeth

Mae ein hiaith delynegol yn fiwsig i’r clustiau.  Am fwy o felodïau Celtaidd a’r cyfle i gymryd rhan mewn arddangosfeydd rhyngweithiol, ewch i Dŷ Siamas, Dolgellau, y Ganolfan Genedlaethol i Gerddoriaeth Werin. Ac ar gyfer llenyddiaeth a barddoniaeth, ewch draw i Dŷ Newydd, Canolfan Ysgrifennu Creadigol Genedlaethol Cymru, Llanystumdwy.  

Pobl a llefydd

Cafodd y gwleidydd tanllyd, Lloyd George, a ddaeth yn Brif Weinidog, fagwraeth heddychlon ym mhentref Llanystumdwy – ewch i ymweld â’r amgueddfa yn y pentref sy’n deyrnged i’r ‘Dewin Cymreig’ carismataidd.  Gweledigaeth un gŵr – y pensaer Syr Clough Williams-Ellis – oedd pentref ffantasi Portmeirion, ble daw’r Eidal i ogledd Cymru.  Ewch yno i gael eich rhyfeddu.  Mae Kate Roberts (1891-1985) yn un o awduron mwyaf blaengar Cymru.  Dewch i ddarganfod mwy am ei bywyd a’i gwaith yn y ganolfan dreftadaeth sydd wedi’i lleoli yn ei chartref pan oedd yn blentyn, sef Cae’r Gors, Rhosgadfan.  

Taith dywys drwy hanes

Fe wnaiff y tywyswr profiadol lleol, Emrys Llewelyn, eich helpu i ddarganfod hanes Caernarfon a’i phobl o’r canol oesoedd hyd heddiw, gan ymweld â rhai o drysorau cudd y dref (www.caernarfonwalks.com). Am deithiau tywys i gestyll a chilfachau hanesyddol dros yr ardal gyfan, ewch i www.turnstone-tours.co.uk

Cadw

Cadw yw gwasanaeth amgylchedd hanesyddol Llywodraeth Cymru sy’n gyfrifol am ofalu am sawl safle hanesyddol megis Plas Mawr, Conwy a chestyll pwysig.  Lawr lwythwch y fersiwn diweddaraf o’r app o siop Apple neu Google ar-lein.
Adran Economi a Chymuned, Cyngor Gwynedd, Caernarfon LL55 1SH | Hawlfraint © Cyngor Gwynedd 2017 | Telerau ac Amodau | Preifatrwydd  | [email protected] | 01286 679686
GwyneddConwy