Mae Mynyddoedd a Môr Eryri dim ond ychydig oriau i ffwrdd o'r rhan fwyaf o ganolfannau poblog y DU, gyda chysylltiadau ffordd, rheilffordd a bws ardderchog. Mae oedi yn y meysydd awyr, amserau hedfan cyn cŵn caer a'r agwedd gwasgu pawb i mewn wedi pylu teithio rhyngwladol. Nid oes pryderon tebyg yma - mae Eryri mor agos byddwch yn cyrraedd cyn i chi wybod.
Mae gwasanaethau trên uniongyrchol yn rhedeg i'r cyrchfannau arfordirol poblogaidd yng Ngogledd Cymru o'r rhan fwyaf o Brydain, gyda chysylltiadau tir mawr i Rheilffordd Dyffryn Conwy sy'n rhedeg drwy Barc Cenedlaethol Eryri i Betws y Coed a Blaenau Ffestiniog. Mae gwasanaethau o Ganolbarth Lloegr drwy’r Amwythig a Machynlleth yn cysylltu gyda Rheilffordd Arfordir Cambria Ffôn: 08457 484950. Tocynnau trên ar gael o Ganolfan Croeso Abermaw.
Ceir mynediad cyflym uniongyrchol o Ogledd Orllewin Lloegr ar hyd yr M56 a'r A55. Mae cysylltiadau traffordd gyda Chanolbarth Lloegr hefyd yn dda ac mae’r un ffyrdd - yr M6, M5 a'r M1 - hefyd yn rhoi Gogledd Cymru o fewn cyrraedd hawdd i Dde Lloegr. Os ydych am ddewis siwrna llawn golygfeydd o Ganolbarth Lloegr ewch ar yr A5 drwy ganol Eryri.
Mae gwasanaethau National Express yn rhedeg i Landudno, Bangor, Caernarfon, Porthmadog a Phwllheli o Lundain a Manceinion. Mae Arriva yn gweithredu'r gwasanaeth o Dde Cymru i Ddolgellau, Porthmadog, Caernarfon a Bangor.
Os ydych yn mwynhau beicio pam na ddefnyddiwch chi bŵer y pedalau i ddod i Fynyddoedd a Môr hardd Eryri sy'n croesawu beiciau drwy ddilyn y Rhwydwaith Beicio Cenedlaethol. Mae llwybrau tawel, llwybrau gyda traffig wedi'i dawelu, a rhai di draffig yn creu mynediad hawdd o'r ardal gyfagos a thu hwnt.
Mae trosglwyddiadau o byrth rhyngwladol Manceinion, Lerpwl a Birmingham yn cymryd llai na dwy awr. Mae taith awyr newydd rhwng Maes Awyr Rhyngwladol Caerdydd a Maes Awyr Ynys Môn yn cymryd ychydig dros awr.
Mae Irish Ferries a Stena Line yn gweithredu gwasanaethau cyson a chyflym i Gaergybi o Ddulyn a Dun Laoghaire. Ar gyfer de Eryri mae gwasanaethau fferi sy’n mynd i Abergwaun a Doc Penfro yn ddewis defnyddiol arall.Irish Ferries Ffôn:08705 171717Stena Line Ffôn: 08705 707070
Mae Sherpa'r Wyddfa yn eich cludo ar gludiant cyhoeddus o amgylch Eryri a'i hatyniadau, gyda rhai teithiau ar fws agored. Os ydych yn cerdded neu allan yn mwynhau'r golygfeydd, dewiswch y dewis gwyrdd a gadewch eich car ar ôl. Eisteddwch yn esmwyth, ymlaciwch a mwynhewch y golygfeydd o'n bysiau. Mae rhai parciau hyd yn oed yn cynnwys tocyn bws Sherpa am ddim yn eich tâl parcio (gweler y wefan Allwedd Werddam ragor o wybodaeth).
Mae'r Pas Fflesci Crwydro Cymru yn union yr hyn y mae'r enw yn awgrymu - un tocyn sy'n rhoi’r rhyddid i chi grwydro Cymru’n ddigyfyngiad ar bob un o wasanaethau trên y prif reilffyrdd a bron pob gwasanaeth bws.Ffôn: 0845 6061 660.
Ffoniwch y rhifau canlynol am fwy o wybodaeth am drafnidiaeth cyhoeddud:Gwynedd: 01286 679535Dyffryn Conwy: 01492 575412
Tudalen Teithio'r BBCGwyliadwriaeth Ffyrdd AATrafnidiaeth a Theithio RAC
Sherpa - Amserlen Bws (PDF, 326kb)
Y Linell DrenArriva Trains WalesRheilffordd GenedlaetholY Linell CambrianTraveline Cymru
Nid yw Cyngor Gwynedd yn gyfrifol am unrhyw gynnwys allanol
Bangor, Caernarfon a Llanberis Bae Ceredigion Dyffryn Conwy...
Bangor Bethesda Caernarfon...
Aberdyfi Abermaw Harlech...
Blaenau Ffestiniog Criccieth Porthmadog...
Aberdaron Abersoch Nefyn...
Bala Corris Dolgellau...
Gweithgareddau Siopa Teithlen...
Iaith Gymraeg Hanes Teulu Hanes...
Sherpa - Amserlen Bws i Lwybrau Yr Wyddfa...
Canolfan Groeso Caernarfon Canolfan Groeso Porthmadog Canolfan Groeso Abermaw...