Os mai tywod euraidd ar draethau mawrion sy’n mynd a’ch bryd ynteu dringo creigiau ar fynyddoedd cawraidd, mae’r dewis yn ddi-ddiwedd yn Eryri. Mae’r mynyddoedd gwych yn ysgubo i lawr at y môr a’i 200 milltir o forlin, ble mae’r rhan fwyaf o’r tir yn cael ei warchod gan y Parc Cenedlaethol neu wedi’i ddynodi yn ‘Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol.’ Darganfyddwch draethau mawrion a thlysau tywodlyd, cildraethau cysgodol a brigdonnau gwyllt ar ei hyd. Maent wedi eu cymeradwyo’n fawr. Yn Tywyn, yn ôl y Daily Telegraph, y ceir y traethau mwyaf hyfryd yng Nghymru, ‘traethau tywodlyd, godidog sy’n ehangu am bum milltir’. Mae’r Guardian yn argymell: ‘Y Pentref pysgota perffaith o Borthdinllaen’ gyda’i chilgant tywodlyd a chysgodol.
Aberdaron
Ceir awyrgylch ysbrydol yn ardal ddarluniadwy Aberdaron. Er bod syrffio hefyd yn boblogaidd yma, ei phrif apêl yw gyda theuluoedd. Ceir mynedfa hawdd i’r traeth, ble ceir olygfeydd ardderchog o Ynys Enlli sef ‘Ynys o 20,000 o Seintiau’. Ger y pentir ceir ymdeimlad o hynodrwydd. Ym Mhorth Oer mae’r tywod yn arbennig, wrth gerdded drosto mae’r gronynnau tywod yn creu sŵn chwibannu, ac felly yn egluro’r enw ‘Whistling Sands’. Ewch yno i fwynhau’r traeth gwyn a’r clogwyni gwyrddion. |
|
Aberdyfi
Man syml, deniadol a bychan yw Aberdyfi. Mae’r holl ddewis yma - y traeth euraidd, pysgota a chasglu crancod oddi ar y cei, cychod hwylio yn y bae a golygfeydd anfarwol ar draws y moryd. Ni fyddwch byth yn fyr o le ar draeth toreithiog Tywyn. Ceir promenâd hir hefyd - a chae chwarae poblogaidd. |
|
Abermaw
‘the perfect seaside resort, backed by jagged crags, fronted by ash-blonde sands and bordered by the dramatic Mawddach Estuary’ yw disgrifiad The Sunday Times o Abermaw. Yma hefyd ceir harbwr deniadol a maes ffair! |
Mae Fairbourne yn sefyll ger agoriad y Mawddach, moryd godidog arall. Ceir milltiroedd ar filltiroedd o dwyni tywod yma, a ffyrdd go wahanol o deithio. Cymerwch drip ar hyd Rheilffordd Bach Fairbourne, dal y fferi i Abermaw, neu gerdded ar hyd bont y rheilffordd ysblennydd sydd yn ehangu dros y moryd.
Bydd tywod yn ymestyn am filltiroedd, oddi wrth Bennar i Landanwg - dau draeth distaw wedi eu cefnu gan dwyni tywod - tafliad carreg i ffwrdd ceir Harlech. Os am ddistawrwydd, golygfeydd a llond ysgyfaint o awyr iach y môr ewch am dro ar hyd ei thraeth dirfawr, sydd wedi ei ymestyn fel carped anferth o dan Castell Harlech, a gadewch i’r plant chwarae cuddio ger y twyni.
Nodir dechreuad Pen Llŷn gan Draeth y Graig Ddu. Pam Craig Ddu? Ceir pentir caregog gydag ogofau a phyllau glan y môr ar yr ochor ddwyreiniol i’r traeth hyfryd sydd ddwy filltir o hyd ac yn boblogaidd iawn gyda hwylwyr barcud a ‘buggies’. Mae’r traeth hefyd yn gyfleus ar gyfer picnic, gan fod modd gyrru yn syth at y traeth. Yna fe ddoir tuag at Criccieth, ardal godidog a Fictorianaidd ei steil. Saif gastell brenhinol ar y pentir sydd yn gwahaniaethu dau draeth un yn dywodlyd a llall â cherrig mân. Mae’r ddau draeth yn gwynebu’r arfordir deheuol ac yn cael eu cynhesu gan lif y Gwlff - dywedir bod rhai o’r bobl lleol yn nofio yno’n ddyddiol.
Wrth deithio’n orllewinol gallwch gerdded ar hyd y traeth neu ar hyd y llwybr arfordirol. Y pentref nesaf yw Abererch. Yn debyg i draethau eraill ar hyd arfordir Llŷn, ceir golygfeydd ardderchog o fae Harlech ac o Eryri yno. Tafliad carreg ydyw o’r fan hyn i Bwllheli, prif ardal Llŷn. Ychydig i’r dde o’r dref mae traeth tywod a graen bras rhagorol i’w gael, a gefnir gan bromenâd hir.
.jpg)
Credir fod pentref Llanbedrog yn fan gwych ar gyfer gwyliau teuluol tawel. Mae ei thraeth a warchodir gan yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol, yn gysgod oddi wrth gwyntoedd gorllewinol diolch i’w bentiroedd coediog ac y mae wedi ei lenwi gyda chytiau traeth lliwgar, yn fan perffaith ar gyfer torheulo. Mae Abersoch sydd gerllaw yn bentref llawer prysurach. Mae’n ardal ffyniannus a ceir canolfan chwaraeon dŵr yma, sydd yn brysur ym misoedd yr haf, diolch i’r ddau draeth hyfryd sydd wedi eu gwahanu gan yr harbwr a’r pentir. Yn ychwanegol ceir nifer lu o weithgareddau dyfrol yn ei dŵr cysgodol (er enghraifft, mae’n un o’r mannau sy’n flaenllaw gyda thonfyrddio).
Ni allai amodau fod yn fwy gwahanol ym Mhorth Neigwl sef ‘Pen Tir Cernyw’ (Land’s End) ym Mhen Llŷn. Mae’r llys enw i’r ardal, ‘Ceg Uffern’, yn egluro pam. Y dyddiau hyn brigdonwyr dewr y gwelwch yma, ac nid llongddrylliadau ar y traeth gwyllt, gorllewinol hwn sydd yn cael ei adael yn agored i rym cryf o’r Atlantig.
 Traeth Porthdinllaen Beach, Morfa Nefyn.JPG)
Mae Porthdinllaen, fel Porth ‘Whistling Sands’, yn perthyn i
draethau yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol. Mae’n fan anhygoel, gyda’i
phentir clyd, gorsaf bad achub, clwstwr o fythynnod a thŷ tafarn enwog
- Tŷ Coch - yn edrych dros gilgant tywodlyd perffaith. Yn debyg iawn,
mae gan Nefyn ddwy filltir o draeth llydan ble caiff ei gysgodi ar y
gornel orllewinol gan y pentir, mae’n le delfrydol ar gyfer gemau
traeth.
Oddi wrth y fan hon mae’r Eifl yn plymio i’r môr mewn llen o
glogwyni. Yn Nhrefor, cyn- bentref chwarel gyda thraeth tawel llawn
tywod a graenau bras, byddwch fwyaf tebygol o drochi eich traed nesaf.
Yno hefyd ceir gei a phier bychan. Yn hollol wahanol mae Dinas Dinlle,
ar agoriad yr Afon Menai - ble ceir milltiroedd o dywod anhygoel,
digonedd o fannau parcio, promenâd deniadol a maes chwarae.
Heb anghofio’r arfordir gogleddol, mae’r ardal fechan a elwir
Llanfairfechan, wedi ei gefnu gan fynydd ac yn parhau i fod yn driw i’w
wreiddiau Fictorianaidd. Mae’n un o’r traethau tawelaf ar arfordir
Gogledd Cymru, gyda phromenâd hyfryd, machlud haul hardd gyda
golygfeydd ar hyd Bae Colwyn ac Ynys Môn. Ychydig o filltiroedd ymlaen
mae Penmaenmawr, tebyg iawn i Lanfairfechan ydyw - ac mae’n hynod o
boblogaidd gydag unigolion hwylio brwdfrydig.