Traeth Criccieth
Caiff y ddau draeth yng Nghriccieth eu gwahanu gan y castell canoloesol blaenllaw a phwerus, sydd wedi ei leoli ar bentir bychan. Mae’r traeth ddwyreiniol yn llawn cerrig man ac yn well i blant, gan fod y dŵr yn fas ac felly yn ei wneud yn fan fwy diogel iddynt chwarae. Fe ddewch o hyd i Orsaf Bad Achub a maes parcio cyfleus. Mae’r traeth dwyreiniol, sydd yn gymysgfa o dywod a cherrig man, yn ymestyn ar hyd ‘Marine Crescent’ i ‘Terrace Marine’, mae’r ddau draeth yn cael eu gwarchod oddi wrth dywydd gorllewinol ac yn cael eu cynhesu gan lif y Gwlff. Pan fo’r llanw allan, daw’r ardal yn le poblogaidd i gerddwyr, oherwydd y golygfeydd godidog o Fae Ceredigion, mynyddoedd Eryri a golygfeydd tuag at ganoldir Cymru.
| Cyfleusterau a Gwasanaethau Syrffio Llithrfa Parcio Toiledau Dŵr yfed Ffôn argyfwng Cyraeddadwy â chadair olwyn Siop Cludiant cyhoeddus Gwersyllfa Gwaharddaidau ar gŵn Cymorth Cyntaf (*tymhorol) Ardal gwahardd cwch Gwobr Glan Môr | |  |