Traeth Llanbedrog
Cytiau traeth Llanbedrog, sydd yn tebygu i bentref teganau, yw’r nodwedd gyntaf a wnaiff taro eich llygaid (mae modd eu llogi am ddiwrnod neu am wythnos). Er eu hatyniad - nid ydynt yn tynnu oddi wrth y safle na’r golygfeydd (sydd yn gwella wrth i chi ddilyn y llwybr i Fynydd Tir y Cwmwd, y pentir uwchben sydd yn meistroli golygfeydd ar draws y bae). Mae safle cysgodol y traeth, a’r ffaith ei fod yn gwynebu tuag at y de, yn golygu fod y dŵr nofio yn (weddol!) gynnes. Mae hefyd yn fan delfrydol ar gyfer hwylio a chwaraeon dŵr eraill. Ceir gweithgareddau eraill yn lleol megis pysgota môr a Llŷn a merlota. Mae’r traeth tywodlyd ar maes parcio gerllaw o dan adain yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol.
| Cyfleusterau a Gwasanaethau Parcio Toiledau Dŵr yfed Siop Cludiant cyhoeddus Gwersyllfa | |  |