Traeth Abermaw
Yn Abermaw y dewch ar draws gyrchfan glan y môr fwyaf poblogaidd Eryri. Yn yr haf, mae ei thraeth eang, tywodlyd yn fagnet i ymwelwyr, er hyn ceir digonedd o le personol gan ei fod mor helaeth. Ceir hefyd, harbwr darluniadol, yn eistedd wrth aber Mawddach - lle cewch bysgota, tripiau môr ac aber. Mae Abermaw wedi ei leoli yn berffaith ar gyfer chwaraeon dŵr - ceir mynedfa hawdd i’r môr diolch i’r llithrfa ar y traeth, rhaid cofio fod parth gwaharddiad cychod pŵer yma er mwyn ceisio gwarchod nofwyr. Fel cyrchfan glan y môr llawn mae gan Abermaw yr holl gyfleusterau - megis siopau, tai bwyta, parcio da, difyrrwch ac adloniant. Ceir mynediad anabl da ar y traeth hefyd, a chaiff yr ardal ei gwasanaethu yn dda gan gludiant cyhoeddus.
| Cyfleusterau a Gwasanaethau Llithrfa Parcio Toiledau Dŵr yfed Ffôn argyfwng Cyraeddadwy â chadair olwyn Siop Cludiant cyhoeddus Gwersyllfa Gwaharddiadau ar gwn Cymorth Cyntaf (*tymhorol) Ardal gwahardd cwch Gwobr Glan Môr | |  |