A   A   A
610 233 Traeth Beach

Traeth Abererch

Mae traeth hyfryd Abererch, sydd yn le gwych ar gyfer teuluoedd, yn ymestyn yr holl ffordd i Bwllheli. Nid yw’r traeth wedi ei ddifetha mewn unrhyw ffordd a rhaid dweud ei fod yn gyntefig iawn, ceir graddiant bas a golygfeydd gwych o Eryri a Bae Ceredigion.  Poblogaidd iawn gyda gorddibynwyr adrenalin - ceir gweithgareddau megis hwylfyrddio, sgïo dŵr, plymio a hwylio. Yn ogystal â’r gweithgareddau yma, dywedir fod Abererch yn le perffaith i hedfan barcud - gan gall yr amodau fod yn wych yno, a physgota – yn enwedig yn y gwanwyn. Ar y cyfan, fe welir traeth Abererch fel man weddol dawel, felly hawdd iawn i’w eistedd yn ôl ac ymlacio yma. Fel cyfleusterau tir ceir maes parcio gerllaw, siop, maes gwersylla, toiledau a mynediad i gludiant cyhoeddus. Felly gwelwch fod rhywbeth at ddant pawb yma.

Cyfleusterau a Gwasanaethau

Parcio
Toiledau
Cludiant Cyhoeddus
Gwesyllfa
Cyfyngiadau ar gŵn
Ardal gwahardd cwch
Gwobr Arfordir Glas


 

196 150 Machlud Sunset

Nid yw Cyngor Gwynedd yn gyfrifol am unrhyw gynnwys allanol

Website Sitemap

open site map
cyfeiriad a manylion cyswllt
Adran Economi a Chymuned, Cyngor Gwynedd, Caernarfon LL55 1SH | twristiaeth@gwynedd.gov.uk | 01286 679217
Hawlfraint © Cyngor Gwynedd 2012 | Telerau ac Amodau | Preifatrwydd  | Canolfannau Croeso
GwyneddConwyWales/Cymru
Tysca CMS