Traeth Aberdaron
Yn Aberdaron, ar Arfordir Treftadaeth Llŷn, ceir traeth tywodlyd godidog sydd â mynediad rhwydd (yn cynnwys mynediad anabl). Mae’r pentref darluniadol hwn, ar flaen rhan orllewinol y Llŷn ger y moroedd ysblennydd, sydd yn gartref i nifer o chwaraeon dŵr - yn cynnwys syrffio a hwylio ‘wake’ - ac yn gartref blynyddol i ŵyl regata. Er mai tywodlyd yw’r rhan fwyaf o’r traeth mi geir ambell i garreg fawr bob hyn a hyn, ond caiff eich sylw ei ddwyn oddi wrth rhain a’i gyrru tuag at y pentiroedd hyfryd sydd i’w gael ar ddwy ochor o’r traeth. Nid yn unig y bydd y pentiroedd hyn yn creu golygfeydd gwych ond maent hefyd yn cynnig cysgod i’r traeth. Caiff cŵn eu croesawu os ydynt yn cadw i ochor chwith o’r llithrfa. Ceir dewis da o dripiau cychod hefyd, o dripiau pysgota i deithiau dros y lli i Ynys Enlli, ‘Ynys i 20,000 o seintiau’ sydd yn llawn etifeddiaeth a bywyd gwyllt. Ceir digonedd o lefydd parcio, siopau a chaffi.
Cyfleusterau a Gwasanaethau
Syrffio
Llithrfa
Parcio
Toiledau
Cyraeddadwy i'r Anabl
Siop
Cludiant Cyhoeddus
Maes Gwersylla
Cyfyngiadau ar gŵn
Cymorth Cyntaf (*Tymhorol)
Ardal gwahardd cwch
|
|  |