A   A   A
610 233 Hwylfan / Fun Centre

Hwyl ar gyfer y Teulu

Lleoliad: Caernarfon

Bore:  Beth am dreulio rhywfaint o amser yn yr Hwylfan (sydd wedi ennill amryw o wobrau), yng nghanol Tref Gaerog Frenhinol Caernarfon. Wrth i’r plant ddefnyddio pob owns o’u hegni ar y llithrennau uchel, yn y pyllau peli, yn y tiwbiau, ar y pontydd, yn y ddrysfa, ar y waliau dringo, ac ar y rhwydi a’r rhaffau, gall yr oedolion ymlacio yn y bwyty trwyddedig sydd ag ardal patio awyr agored neu ymuno â’r plant yn yr ardal chwarae. Beth am fynd draw i weld ysgol yrru Gog y Ddraig Gymreig ar y llawr uchaf yn ystod eich ymweliad â’r Ganolfan?  Gallwch roi cynnig ar yrru amrywiaeth o gerbydau – o Ferrari i lori fawr Americanaidd ac yna gallwch brofi eich dawn yrru ar drac hirgrwn yr Hwylfan.

Cysylltwch â:   Yr Hwylfan, Christchurch, Stryd Bangor, Caernarfon, 
LL55 1AR Ffôn:  01286 671911
Yr Hwylfan/The Fun Centre / e: gog@thefuncentre.co.uk

Cinio:

Lleoliad:   Y Groeslon (Amser teithio o Gaernarfon – 5.3 milltir, 10 munud) 

Mwynhewch ginio yng Nghaffi Welsh Rock, ble gellir gweld hanes cerddoriaeth Gymraeg hyd heddiw, yng Ngwaith Llechi Inigo Jones. Ewch ar daith hunan-dywys addysgiadol a hwyliog.  Mae cyflwyniad fideo ar y dechrau ac ar ôl gwylio hwnnw, gallwch fynd am dro drwy’r gweithdai wrth eich pwysau a gweld y peiriannau a’r crefftwyr wrth eu gwaith – bydd gennych declyn sylwebaeth personol ar dâp i’ch tywys o gwmpas. Mae Arddangosfeydd Daearegol, Hanesyddol, Caligraffi a Thorri Llythrennau i’w gweld yma.  Rhowch gynnig ar galigraffi ac ysgythru ar ddarn o lechen – cewch fynd ag ef adref hefo chi wedyn. Yn ogystal, gall plant gystadlu mewn cwis i geisio ennill gwobr wedi’i chreu o lechi. 

Cysylltwch â:   Inigo Jones a’i Gwmni Cyf, Gwaith Llechi Tudor, Y Groeslon, Caernarfon, LL54 7UE  Ffôn: 01286 830242 / Ffacs: 01286 831247
Inigo Jones Slateworks / e: info@inigojones.co.uk

610 233 Gelli Gyffwrdd / GreenWood Forest Park

Prynhawn:  

Lleoliad:   Y Felinheli (Amser teithio o’r Groeslon– 17 munud, 8 milltir)

Profwch yr Antur Eithaf i Deuluoedd yn y Gelli Gyffwrdd, canolfan arweiniol mewn Twristiaeth Gynaliadwy, sydd wedi ennill chwe gwobr fawr.   Mae yna Jungle Boats a Den Building; the Green Dragon – Rollercoaster gwyrdd; TreeTop Towers; Giant Jumper a Little Forest Playbarn; Great Green Run – y llithren hiraf yng Nghymru; Moon Karts – digon o hwyl i’w gael yn pedlo; a’r Barefoot Trail cyntaf yng Nghymru.  Caffi, Bariau Byrbrydau, Siopau Anrhegion. 

Cysylltwch â:   Gelli Gyffwrdd, Y Felinheli, LL56 4QN
Ffôn: 01286 671493 Ffacs: 01248 670069
Gelli Gyffwrdd /  e: info@greenwoodforestpark.co.uk

Nid yw Cyngor Gwynedd yn gyfrifol am unrhyw gynnwys allanol

Website Sitemap

open site map
cyfeiriad a manylion cyswllt
Adran Economi a Chymuned, Cyngor Gwynedd, Caernarfon LL55 1SH | twristiaeth@gwynedd.gov.uk | 01286 679217
Hawlfraint © Cyngor Gwynedd 2012 | Telerau ac Amodau | Preifatrwydd  | Canolfannau Croeso
GwyneddConwyWales/Cymru
Tysca CMS