Siopau
Lleoliad: Porthmadog (Amser teithio o’r Ffôr – 25 munud, 11 milltir)
Ar ôl cerdded am dro o amgylch tref arfordirol hyfryd Porthmadog, gallwch fwynhau cinio blasus yng Ngwesty’r Heliwr, gwesty AA Rosette, ar y Stryd Fawr. Yr hyn sy'n greiddiol i'w llwyddiant yw'r cyfuniad a geir yno o ddefnyddio’r cynhwysion lleol Cymreig gorau a sgiliau AA Rosette a phrofiad rhyngwladol cogyddion y bwyty. Mae cyfuniadau syml a chynhwysion Cymreig o’r radd flaenaf yn cyfuno i greu prydau bwyd Cymreig gwych gyda mymryn o ddylanwad rhyngwladol arnynt. Mae’n bleser cael bwyta yn yr ystafell fwyta a ailwampiwyd yn ddiweddar. Newidir y prydau bwyd ar y fwydlen i adlewyrchu’r tymhorau ac maent yn cynnwys danteithion megis Stecen o Gig Carw Morgannwg a Golwythen o Gig Oen Morfa Heli Llanelli, ac i bwdin ceir Pwdin Triog a Sinsir wedi’i Stemio neu Darten Lemon Gynnes – digon i dynnu dŵr o’ch dannedd! Bydd y perchnogion, Louis a Viorica Naudi yn sicrhau y cewch groeso cynnes iawn yno.
Cysylltwch â: Gwesty’r Heliwr, 131 Stryd Fawr, Porthmadog,
LL49 9HB Ffôn: 01766 512 015
Royal Sportsman Hotel / e: enquiries@royalsportsman.co.uk
Pan fyddwch ym Mhorthmadog, peidiwch da chi â methu'r cyfle i ymweld â delicatessen safonol Y Bwtri. Mae wedi’i ymrwymo i gynnig y dewis gorau o fwydydd da i’w gwsmeriaid a rhoi sylw blaenllaw i fwyd Cymreig. Y nod yw cynnig gwasanaeth bwyd llawn, gan roi'r cyfle i gwsmeriaid archebu bwyd ar gyfer achlysuron arbennig, yn ogystal â gwasanaethau eraill sydd ar gael gydol y flwyddyn megis hamperau, bwffes a siop ar-lein.
Cysylltwch â: Y Bwtri
Lleoliad: Harlech (Amser teithio o Borthmadog – 25 munud, 10 milltir)
Beth am stopio am de bach – a ble gewch chi well na Siop De Cemlyn yn Harlech. Oddi yno, gallwch fwynhau golygfeydd godidog o Gastell Harlech, Cwrs Golff Brenhinol Dewi Sant, y Mynyddoedd a’r Môr.
Mae Cemlyn yn enwog am gadw dewis helaeth o De, ac mae’n cynnig dail te (nid bagiau) sy’n amrywio o’r Te Brecwast a'r Te Prynhawn enwog, i de o India megis Assam, Darjeeling a Nilgiri, neu beth am flasu cwpanaid o de o’r Dwyrain Pell megis Formosa, Oolong, Lapsang Souchong neu Keemun. Holwch am eu te Cemlyn arbennig.
Cysylltwch â: Cemlyn Tea