Bore: Mwynhewch ddiwrnod gwych i’r teulu a rhowch gynnig ar y gweithgareddau lu sydd ar gael ym Mharc Antur a Chanolfan Bowlio Deg Glasfryn sydd wedi’i leoli ger Pwllheli yng nghalon Penrhyn Llŷn yng ngogledd Cymru. P’un a ydych yn dewis ymgymryd â her y Trac Go-Karts (dim angen archebu lle ymlaen llaw), y Saffari Beiciau Cwad (angen archebu lle ymlaen llaw) neu roi cynnig ar y Bowlio Deg, Pysgota, Saethyddiaeth neu Ardal y Plant gyda’r ardal chwarae feddal a ffrâm ddringo (ynghyd ag ystafell ar gyfer partïon), mae Glasfryn yn lleoliad delfrydol am ddiwrnod gwerth chweil i holl aelodau’r teulu sy’n dair mlwydd oed a throsodd...cofiwch ddod â’ch camera, da chi!
I weld gweddill y diwrnod gallwch lawrlwytho: Teithlen Diwrnod - Bwyd a Diod
Bore: Beth am dreulio rhywfaint o amser yn yr Hwylfan (sydd wedi ennill amryw o wobrau), yng nghanol Tref Gaerog Frenhinol Caernarfon. Wrth i’r plant ddefnyddio pob owns o’u hegni ar y llithrennau uchel, yn y pyllau peli, yn y tiwbiau, ar y pontydd, yn y ddrysfa, ar y waliau dringo, ac ar y rhwydi a’r rhaffau, gall yr oedolion ymlacio yn y bwyty trwyddedig sydd ag ardal patio awyr agored neu ymuno â’r plant yn yr ardal chwarae. Beth am fynd draw i weld ysgol yrru Gog y Ddraig Gymreig ar y llawr uchaf yn ystod eich ymweliad â’r Ganolfan? Gallwch roi cynnig ar yrru amrywiaeth o gerbydau – o Ferrari i lori fawr Americanaidd ac yna gallwch brofi eich dawn yrru ar drac hirgrwn yr Hwylfan.
I weld gweddill y diwrnod gallwch lawrlwytho: Teithlen Diwrnod - Hwyl Teuluol
Bore: Dechreuwch eich diwrnod ym mhellafoedd Llŷn gyda thaith i Rhiw ger Aberdaron. Mae Plas yn Rhiw yn faenordy bendigedig sydd bellach yng ngofal yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol. Mae yno ardd addurnol sy’n cynnwys nifer o goed a llwyni blodeuog diddorol, gyda gwelyau blodau wedi’u fframio â llwyni blwch a llwybrau glaswellt, a cheir yno olygfeydd godidog dros Fae Ceredigion.
I weld gweddill y diwrnod gallwch lawrlwytho: Teithlen Diwrnod - Trysorau Cudd
Bore: Ewch draw i un o brif leoliadau celf Cymru: Oriel Plas Glyn-y-Weddw. Mae’r oriel wedi’i lleoli mewn Maenordy Fictoraidd Gothig gradd 2 seren ym Mhenrhyn Llŷn. Yn ddiweddar, dathlodd yr oriel ei phen-blwydd yn 150 oed. Dyma’r lleoliad celf cyntaf yng Nghymru ac un o’r rhai prydferthaf yn y wlad. Saif yr oriel ym mhentref Llanbedrog ym Mhenrhyn Llŷn mewn lleoliad golygfaol iawn.
I weld gweddill y diwrnod gallwch lawrlwytho: Teithlen Diwrnod - Diwylliant Eryri
Ym mhentref Pennal, Sir Feirionnydd yn ystod y Grawys ym 1406, llywyddodd y Tywysog Owain Glyndwr dros Gynulliad olaf y Gymru annibynnol. Owain oedd etifedd mantell y Brenin Arthur, ac ef oedd y Pendragon Cymreig olaf a goronwyd yn “Dywysog Cymru drwy Ras Duw” ym 1404. Gellir gweld peintiadau ac arddangosfeydd perthnasol yn eglwys Sant Pedr Ad Vincula (Pedr mewn Cadwyni).
I weld gweddill y diwrnod gallwch lawrlwytho: Teithlen Diwrnod - Chwedlau
Bore: Dechreuwch eich diwrnod o ymweliadau hudol, heb wario gormod, yn yr Amgueddfa Lechi Genedlaethol ble y gallwch daro golwg ar hanes llechi – y Cymreiciaf o ddiwydiannau Cymru. Mae’r daith yn cychwyn gyda ffilm wefreiddiol sy’n eich cyflwyno i’r amodau caled iawn a wynebai’r gweithwyr yn y chwareli llechi, ond sydd hefyd yn amlinellu’r gwir ysbryd o gymuned a grëwyd yn y pentrefi a’r trefi cyfagos yn sgil y diwydiant.
I weld gweddill y diwrnod gallwch lawrlwytho: Teithlen Diwrnod - Heb Wario Gormod
Bore: Mae Rheilffordd Talyllyn yn rheilffordd lein gul hanesyddol, wedi’i lleoli yng nghanol cefn gwlad godidog canolbarth Cymru. Rhed y rheilffordd o Dywyn i Abergynolwyn ac mae’r lein yn pasio Rhaeadrau Dolgoch, sy’n olygfa gwerth ei gweld, ac mae teithiau cerdded gwych i’w cael yn Nant Gwernol.
I weld gweddill y diwrnod gallwch lawrlwytho: Teithlen Diwrnod - Hanes Cenedl
Ar ôl i chi dreulio’r noson ym Mhlas Bodegroes, lle sydd wedi ennill gwobrau lu, wedi’i leoli filltir i’r gorllewin o Bwllheli ar ffordd Nefyn, gallwch fwynhau brecwast yn eu bwyty sydd hefyd wedi ennill gwobrau dirifedi. Dyma ddechrau gwych i’r daith! Yn y 23 mlynedd ers i’r bwyty agor am y tro cyntaf, mae wedi ennill prif wobrau yn y maes, yn cynnwys Seren Egon Ronay ac mae'r Good Food Guide wedi rhoi 6/10 iddo.
Teithlen Diwrnod - Gweithgaredd ac AnturTeithlen Diwrnod - Hwyl TeuluolTeithlen Diwrnod - Trysorau CuddTeithlen Diwrnod - Diwylliant EryriTeithlen Diwrnod - Chwedlau Teithlen Diwrnod - Heb Wario GormodTeithlen Diwrnod - Hanes CenedlTeithlen Diwrnod - Bwyd a Diod
Teithlen Diwrnod - Bwyd a DiodTeithlen Diwrnod - ChwedlauTeithlen Diwrnod - Diwylliant EryriTeithlen Diwrnod - Gweithgaredd ac AnturTeithlen Diwrnod - Hanes CenedlTeithlen Diwrnod - Heb Wario GormodTeithlen Diwrnod - Hwyl TeuluolTeithlen Diwrnod - Trysorau Cudd
Croeso Cymru - Visit WalesTwristiaeth Gogledd CymruTwristiaeth Canolbarth Cymru
GreenWood Forest ParkThe Fun Factory Inigo Jones SlateworksGlasfryn Parc, Activity and Adventure CentreRopes and LaddersTalyllyn RailwayLlechwedd Slate CavernsKing Arthur's LabyrinthSnowdon Mountain RailwayAmgueddfa ac Oriel Bangor Museum and GalleryNant Gwrtheyrn - Welsh Language and Heritage CentrePlas BodegroesRoyal Sportsman HotelY BwtriWelsh Slate MuseumPlas Glyn y Weddw Arts Centre Doc Fictoria / Victoria DockPlas BrondanwThe George III HotelBlack BoyPlas yn RhiwPete's Eats
Nid yw Cyngor Gwynedd yn gyfrifol am unrhyw gynnwys allanol
Bangor, Caernarfon a Llanberis Bae Ceredigion Dyffryn Conwy...
Bangor Bethesda Caernarfon...
Aberdyfi Abermaw Harlech...
Blaenau Ffestiniog Criccieth Porthmadog...
Aberdaron Abersoch Nefyn...
Bala Corris Dolgellau...
Gweithgareddau Siopa Teithlen...
Iaith Gymraeg Hanes Teulu Hanes...
Sherpa - Amserlen Bws i Lwybrau Yr Wyddfa...
Canolfan Groeso Caernarfon Canolfan Groeso Porthmadog Canolfan Groeso Abermaw...