A   A   A

610 Bws Sherpa Bus

LEIN ARFORDIR Y CAMBRIAN...Y PRIF ATYNIAD

Mae taflen newydd ‘Lein Arfordir Y Cambrian – Y Prif Atyniad’, wedi cael ei lawnsio i hyrwyddo Tocyn Crwydro Arfordir Y Cambrian. Bwriad y daflen yw i hyrwyddo’r daith ar Linell Arfordir Y Cambrian rhwng Aberystwyth, Machynlleth a Phwllheli fel atyniad yn ei hunan yn ogystal â chodi ymwybyddiaeth o’r nifer o weithgareddau a atyniadau y gellir eu cyrraedd yn hawdd ar y rheilffordd yma.

Lawnsiwyd y daflen gan Elin Jones, Aelod y Cynulliad dros Geredigion a’r Gweinidog am Faterion Gwledig yng Nghynhadledd Farchnata Twristiaeth Canolbarth Cymru a gyhaliwyd yng Nghanolfan Celfyddydau Aberystwyth ar y 5ed o Chwefror 2010. Yn siarad yn y gynhadledd medd Ms. Jones, “Mae’r trên yn llawer mwy na ffordd o deithio; mae’r daith trên yn aml yn brofiad dymunol yn ei hun. Mae hyn yn wir iawn ar Linell Arfordir Y Cambrian gyda’i golygfeydd atyniadol, a rwy’n falch y bydd y daflen yma yn amlygu’r atyniadau ar y daith”.

Roedd yn briodol iawn fod y daflen yn cael ei lawnsio yn y gynhadledd flynyddol eleni gan mai ei thema oedd ‘Marchnata Ein Adnoddau Naturiol’ - gyda’r trên yn fynedfa ddelfrydol i fwynhau harddwch naturiol godidog Arfordir Y Cambrian.

Mae siwrne ar linell Arfordir Y Cambrian, sy’n cael ei ystyried yn un o’r rhai mwyaf golygfaol a chyferbyniol unrhywle yn y DU, yn brofiad gwobrwyol beth bynnag fo’r tywydd gydag ymwelwyr i’r ardal a phobl lleol.

Dywedodd Gerwyn Jones ar ran Partneriaeth Rheilffyrdd Y Cambrian a gynhyrchodd y daflen: “Mae’r daflen newydd yma yn dystiolaeth pellach fod diwydiannau Twristiaeth a Thrafnidiaeth yng nghanolbarth Cymru yn gweithio gyda’i gilydd er mwyn lles y ddau. Rydym wedi bod yn ffodus derbyn cefnogaeth ariannol wrth Partneriaeth Twristiaeth Canobarth Cymru i ddatblygu a cynhyrchu’r daflen ac rydym hefyd yn gweithio gyda Twristiaeth Canolbarth Cymru er mwyn datblygu ffyrdd o gyfranogi â gweithredwyr twristiaeth i godi ymwybyddiaeth o’r fath gynigion”.

Mae’r taflenni hefyd yn cynnwys arlunwaith deuniadol gan Michael Huber sydd hefyd  i’w gweld ar gardiau post a phosteri a gynhyrchywd gan Bartneriaeth Rheilffyrdd y Cambrian.

Mae Tocynnau Crwydro Arfordir Y Cambrian yn costio £8.50 i oedolion (£5.70 gyda gostyngiad carden rheilffordd), £4.25 i blant neu £16.90 i deulu (2 oedolyn a 2 blentyn). Maent yn cynnig teithio diddiwedd ar y diwrnod wedi 0900 ar Linell Arfordir Y Cambrian. Mae Tocyn Crwydro Arfordir Y Cambrian teulu (1 oedolyn a 1 plentyn) gyda’r nos ar gael hefyd sy’n ddilys wedi 1830 am £5.10.

Cambrian Coast Line - Lein Arfordir Cambrian (PDF, 795KB)

Gallai mynediad ddim a bod yn haws

Mae Mynyddoedd a Môr Eryri dim ond ychydig oriau i ffwrdd o'r rhan fwyaf o ganolfannau poblog y DU, gyda chysylltiadau ffordd, rheilffordd a bws ardderchog. Mae oedi yn y meysydd awyr, amserau hedfan cyn cŵn caer a'r agwedd gwasgu pawb i mewn wedi pylu teithio rhyngwladol. Nid oes pryderon tebyg yma - mae Eryri mor agos byddwch yn cyrraedd cyn i chi wybod.

Ar y trên

Mae gwasanaethau trên uniongyrchol yn rhedeg i'r cyrchfannau arfordirol poblogaidd yng Ngogledd Cymru o'r rhan fwyaf o Brydain, gyda chysylltiadau tir mawr i Rheilffordd Dyffryn Conwy sy'n rhedeg drwy Barc Cenedlaethol Eryri i  Betws y Coed a Blaenau Ffestiniog. Mae gwasanaethau o Ganolbarth Lloegr drwy’r Amwythig a Machynlleth yn cysylltu gyda Rheilffordd Arfordir Cambria Ffôn: 08457 484950. Tocynnau trên ar gael o Ganolfan Croeso Abermaw.

Mewn car

Ceir mynediad cyflym uniongyrchol o Ogledd Orllewin Lloegr ar hyd yr M56 a'r A55. Mae cysylltiadau traffordd gyda Chanolbarth Lloegr hefyd yn dda ac mae’r un ffyrdd - yr M6, M5 a'r M1 - hefyd yn rhoi Gogledd Cymru o fewn cyrraedd hawdd i Dde Lloegr. Os ydych am ddewis siwrna llawn golygfeydd o Ganolbarth Lloegr ewch ar yr A5 drwy ganol Eryri.

Ar fws

Mae gwasanaethau National Express yn rhedeg i Landudno, Bangor, Caernarfon, Porthmadog a Phwllheli o Lundain a Manceinion. Mae Arriva yn gweithredu'r gwasanaeth o Dde Cymru i Ddolgellau, Porthmadog, Caernarfon a Bangor.

Ar feic

Os ydych yn mwynhau beicio pam na ddefnyddiwch chi bŵer y pedalau i ddod i Fynyddoedd a Môr hardd Eryri sy'n croesawu beiciau drwy ddilyn y Rhwydwaith Beicio Cenedlaethol. Mae llwybrau tawel, llwybrau gyda traffig wedi'i dawelu, a rhai di draffig yn creu mynediad hawdd o'r ardal gyfagos a thu hwnt.

Yn yr awyr

Mae trosglwyddiadau o byrth rhyngwladol Manceinion, Lerpwl a Birmingham yn cymryd llai na dwy awr. Mae taith awyr newydd rhwng Maes Awyr Rhyngwladol Caerdydd a Maes Awyr Ynys Môn yn cymryd ychydig dros awr.

Ar y môr

Mae Irish Ferries a Stena Line yn gweithredu gwasanaethau cyson a chyflym i Gaergybi o Ddulyn a Dun Laoghaire. Ar gyfer de Eryri mae gwasanaethau fferi sy’n mynd i Abergwaun a Doc Penfro yn ddewis defnyddiol arall.

Irish Ferries Ffôn:08705 171717
Stena Line Ffôn: 08705 707070

Gwasanaethau lleol a theithio o gwmpas

Mae Sherpa'r Wyddfa yn eich cludo ar gludiant cyhoeddus o amgylch Eryri a'i hatyniadau, gyda rhai teithiau ar fws agored. Os ydych yn cerdded neu allan yn mwynhau'r golygfeydd, dewiswch y dewis gwyrdd a gadewch eich car ar ôl. Eisteddwch yn esmwyth, ymlaciwch a mwynhewch y golygfeydd o'n bysiau. Mae rhai parciau hyd yn oed yn cynnwys tocyn bws Sherpa am ddim yn eich tâl parcio (gweler y wefan Allwedd Werddam ragor o wybodaeth).

Mae'r Pas Fflesci Crwydro Cymru yn union yr hyn y mae'r enw yn awgrymu - un tocyn sy'n rhoi’r rhyddid i chi grwydro Cymru’n  ddigyfyngiad ar bob un o wasanaethau trên y prif reilffyrdd a bron pob gwasanaeth bws.
Ffôn: 0845 6061 660.

Ffoniwch y rhifau canlynol am fwy o wybodaeth am drafnidiaeth cyhoeddud:
Gwynedd: 01286 679535
Dyffryn Conwy: 01492 575412

 

Nid yw Cyngor Gwynedd yn gyfrifol am unrhyw gynnwys allanol

Share
Ebostiwch ffrind
A A A

Website Sitemap

cyfeiriad a manylion cyswllt
Adran Economi a Chymuned, Cyngor Gwynedd, Caernarfon LL55 1SH | twristiaeth@gwynedd.gov.uk | 01286 679217
Hawlfraint © Cyngor Gwynedd 2009 | Telerau ac Amodau | Preifatrwydd 
GwyneddConwyWales/Cymru
Tysca CMS