A   A   A
610 x 233 Parc Ddŵr Glasfryn Waterpark

Gweithgaredd ac Antur

Lleoliad:   Pwllheli

Bore:    Mwynhewch ddiwrnod gwych i’r teulu a rhowch gynnig ar y gweithgareddau lu sydd ar gael ym Mharc Antur a Chanolfan Bowlio Deg Glasfryn sydd wedi’i leoli ger Pwllheli yng nghalon Penrhyn Llŷn yng ngogledd Cymru.  

P’un a ydych yn dewis ymgymryd â her y Trac Go-Karts (dim angen archebu lle ymlaen llaw), y Saffari Beiciau Cwad (angen archebu lle ymlaen llaw) neu roi cynnig ar y Bowlio Deg, Pysgota, Saethyddiaeth neu Ardal y Plant gyda’r ardal chwarae feddal a ffrâm ddringo (ynghyd ag ystafell ar gyfer partïon), mae Glasfryn yn lleoliad delfrydol am ddiwrnod gwerth chweil i holl aelodau’r teulu sy’n dair mlwydd oed a throsodd...cofiwch ddod â’ch camera, da chi! Ceir Siop Fferm sydd wedi ennill gwobrau a dau fwyty yno hefyd.

Cysylltwch â:   Glasfryn Parc, Y Ffôr, Pwllheli, LL53 6PG
Ffôn: 01766 810202
Glasfryn Parc, Activity and Adventure Centre / e: info@glasfryn.co.uk

Cinio:   

Lleoliad: Llanberis (Amser teithio o Bwllheli – 54 munud, 27.1 milltir)

Beth am fynd draw i Pete’s Eats wrth i chi gyrraedd Llanberis, y pentref ar lan llyn sydd wrth droed yr Wyddfa.   Ers 1978, mae Pete’s wedi bod yn gweini prydau bwyd hael iawn i anturwyr llwglyd ac wedi bod yn gweini peint o de mewn un cwpan i’r rhai sychedig yn eu plith! Mae’r caffi wedi bod yn gyrchfan i ddringwyr a phobl sy’n ymddiddori yn yr awyr agored fel lle iddynt ddod at ei gilydd i rannu syniadau a gwybodaeth ynghylch eu camp. Bellach, mae gan y caffi enw da ledled y byd. Yno, gallwch fwynhau bwydlen rad, sy’n rhoi gwerth am arian, gyda dewis helaeth o fwydydd a dewisiadau da ar gyfer llysieuwyr. Yn ogystal, ceir yno gyfnewidfa lyfrau ac mae dros 400 o fapiau ar gael er mwyn astudio’r ardal yn fanwl a chynllunio teithiau cerdded bendigedig.

Cysylltwch â: Pete’s Eats, Stryd Fawr, Llanberis LL55 4EU 
Ffôn:  01286 870117
Pete's Eats / e:  eat@petes-eats.co.uk

Prynhawn:

Rhaffau ac Ysgolion (Ropes and Ladders) yw’r cwrs antur rhaffau uchel yn Llanberis, yng nghalon Eryri. Wedi’i leoli yng nghanol coedlan brydferth ym Mharc Gwledig Padarn, Llanberis, mae’r prif weithgareddau yn cynnig gweithgareddau antur cyffrous awyr agored i deuluoedd, grwpiau ac unigolion rhwng 8 ac 80 mlwydd oed. 

Gall oedolion a phlant fel ei gilydd fwynhau cyffro’r cwrs rhaffau gyda’i heriau awyrol, dringo, llamu, siglen enfawr a’r lein sip sydd â golygfeydd trawiadol o’r llyn cyfagos a mynyddoedd Eryri.  Bydd eich hyfforddwr wrth law gydol y gweithgareddau i annog a chynghori dechreuwyr neu ddefnyddwyr profiadol. 

Agorwyd cwrs newydd i blant yn 2009, sy’n addas ar gyfer plant rhwng 4 ac 8 mlwydd oed.  Nawr, ’does dim angen i aelodau iau’r teulu deimlo’u bod ar eu colled!

Cysylltwch â: Rhaffau Ac Ysgolion (Ropes And Ladders), Gilfach Ddu, Llanberis, Caernarfon, Gwynedd, LL55 4TY.
Ffôn: 01286 872310. 
Ropes and Ladders / e: info@ropesandladders.co.uk

610 233 Y Caban, Brynrefail

Gwybodaeth Ychwanegol / Gyda’r Nos:  

Caffi Caban ym mhentref cyfagos Brynrefail. Nosweithiau Bwffe Bwyd y Byd. Bron bob nos Sadwrn, bydd Caban yn cynnig noson bwffe am £12.00 y pen yn unig.  Mae thema wahanol i bob noson bwffe. Dyma gyfle da i flasu gwahanol fwydydd ac arddulliau o hyd a lled y byd.  Drysau ar agor am 7pm a gweinir y bwyd am oddeutu 7.30pm.

Cysylltwch â:  Caban, Brynrefail, Caernarfon, LL55 3NR
Ffôn:  01286 685 500
Caban / e:  caban@caban-cyf.org

Nid yw Cyngor Gwynedd yn gyfrifol am unrhyw gynnwys allanol

Website Sitemap

open site map
cyfeiriad a manylion cyswllt
Adran Economi a Chymuned, Cyngor Gwynedd, Caernarfon LL55 1SH | twristiaeth@gwynedd.gov.uk | 01286 679217
Hawlfraint © Cyngor Gwynedd 2012 | Telerau ac Amodau | Preifatrwydd  | Canolfannau Croeso
GwyneddConwyWales/Cymru
Tysca CMS