Prynhawn:
Lleoliad: Nant Gwrtheyrn (Amser teithio o Lanbedrog – 35 munud, 14 milltir)
Yn ddi-os, Nant Gwrtheyrn yw un o brif leoliadau diwylliant Cymru. Mae’n ganolfan dreftadaeth a chanolfan iaith Gymraeg ac fe’i crëwyd mewn cyn bentref chwarel Fictoraidd sydd wedi’i ailwampio. Mae’r lleoliad arfordirol yn un hynod gofiadwy ac mae yno deithiau cerdded hyfryd y gallwch eu mwynhau ar hyd y traeth ac yn y goedlan gyfagos. Mae buddsoddiad diweddar wedi golygu ei bod wedi bod yn bosib creu Canolfan Dreftadaeth, a agorodd yn 2003, sy’n dehongli stori’r Nant o Oes yr Haearn hyd heddiw. Mae’r ffordd newydd sy’n arwain i’r pentref yn golygu ei bod yn llawer haws cyrraedd y pentref ac mae maes parcio ar gael yno erbyn hyn hefyd. Mae nifer o resymau pam y dylech ymweld â’r pentref ac mae’r ffaith bod mynediad i’r ganolfan yn rhad ac am ddim yn un ohonynt!
Adeiladwyd pentref Nant Gwrtheyrn ym 1878 ac yn wreiddiol, roedd yno 26 o dai, siop, becws a maenordy – cartref Rheolwr y Chwarel. Yn ogystal, roedd capel yn y pentref a dysgwyd y plant gan y gweinidog. Yn ei anterth, roedd oddeutu 200 o bobl yn byw yno. Erbyn y 1940au, roedd y chwarel wedi cau gan bod tarmac wedi disodli’r angen am setiau i wynebu ffyrdd. Gadawyd y tŷ olaf yn wag ym 1959. Yna, prynodd ymddiriedolaeth elusennol y pentref yn y 1970au ac ym 1982, cynhaliwyd y cwrs preswyl Cymraeg i Oedolion cyntaf yn Nant Gwrtheyrn.
Mwynhewch baned o de, neu rywbeth cryfach, yng Nghaffi Meinir, bwyty trwyddedig y Nant. Beth am eistedd y tu allan – dyma fan godidog i fwynhau’r olygfa. Enwyd y caffi yn Caffi Meinir oherwydd stori drasig Rhys a Meinir, cefnder a chyfnither a oedd yn byw yn y Nant. Syrthiodd y ddau mewn cariad a....Pan fyddwch yn ymweld â’r Nant, cofiwch holi am ddiwedd trist y stori neu ewch draw i: Nant Gwrtheyrn
Byddwch yn siŵr o syrthio mewn cariad â Nant Gwrtheyrn ac, os byddwch yn penderfynu aros yno, mae llety 4 seren ar gael ar y safle.
Cysylltwch â: Nant Gwrtheyrn, Llithfaen, Pwllheli, LL53 6PA
Ffôn: 01758 750334
Nant Gwrtheyrn / e: post@nantgwrtheyrn.org