A   A   A
610 233 Labyrinth y Brenin Arthur / King Arthur's Labyrinth

Mythau a Chwedlau 

Thema:  Chwedl y Brenin Arthur

Lleoliad: Pennal

Ym mhentref Pennal, Sir Feirionnydd yn ystod y Grawys ym 1406, llywyddodd y Tywysog Owain Glyndwr dros Gynulliad olaf y Gymru annibynnol.  Owain oedd etifedd mantell y Brenin Arthur, ac ef oedd y Pendragon Cymreig olaf a goronwyd yn “Dywysog Cymru drwy Ras Duw” ym 1404. Gellir gweld peintiadau ac arddangosfeydd perthnasol yn eglwys Sant Pedr Ad Vincula (Pedr mewn Cadwyni). 

Cysylltwch â:  Eglwys Sant Pedr Ad Vincula,  Y Rheithordy, Pennal, Powys, SY20 9JS.  Ffôn:   01654 791216

Pennal / e: geraintap@btopenworld.com

Bora

Lleoliad: Corris (Amser teithio o Bennal – 7.8 milltir, 12 munud)

Yn Labyrinth y Brenin Arthur, gallwch hwylio o dan y ddaear, drwy’r rhaeadr mawr ac yn ddwfn i mewn i’r ogofau trawiadol ac ymhell yn ôl mewn amser. Unwaith y byddwch y tu mewn i’r Labyrinth, bydd eich cychwr yn eich tywys drwy dwnneli ac ogofau helaeth wrth i chi fwynhau chwedlau’r Brenin Arthur a chwedlau hynafol Cymreig eraill. Adroddir straeon am ddreigiau, cewri, brwydrau a llawer mwy, a cheir golygfeydd, synau ac effeithiau golau dramatig. Cofiwch wisgo dillad cynnes gan y gall fod yn ddigon oer o dan y ddaear. 

Yn ôl yng ngolau dydd, mae Cyrch y Beirdd (Bards’ Quest) wedi’i leoli gyferbyn â Labyrinth y Brenin Arthur. Yno, byddwch yn dysgu am fythau, chwedlau a straeon sydd wedi’u hadrodd ar draws y cenedlaethau gan Feirdd a Chyfarwyddiaid (Adroddwyr Stori). Ewch i’r afael â her Cyrch y Beirdd a chwiliwch am nifer o straeon coll a straeon sydd wedi mynd yn angof. Stopiwch, gwrandewch a mwynhewch hanesion y bachgen a geisiodd ddwyn o’r Arallfyd; March, Arglwydd Llŷn oedd â chlustiau mul; a John Gethin a oedd mor ofnus nes iddo fynd i’w wely ac wrth i’w gannwyll nychu, roedd yntau’n nychu hefyd... 

Cysylltwch â:  Labyrinth y Brenin Arthur, Corris, Machynlleth, SY20 9RF 
Ffôn:  01654 761584 

Labrinth Brenin Arthur / e:  info@kingarthurslabyrinth.co.uk

610 233 Llyn Llydaw Lake

Prynhawn

Lleoliad: Llanberis (Amser teithio o Gorris – 1 awr 26 munud, 53.5 milltir) 

Prynhawn:  Mae mwyafrif y cofnodion am Arthur a ysgrifennwyd ar ôl yr 11eg ganrif yn enwi ‘Camlann’ fel lleoliad brwydr olaf Arthur yn erbyn byddin Medrod, ei fab gwrthryfelgar, ac fel y lleoliad ble y’i lladdwyd. Yn ôl y sôn, dywedir mai Cwm y Llan i’r de o’r Wyddfa yw’r safle hwn. Yn ogystal ar lethrau’r Wyddfa, saif Llyn Llydaw, cartref mytholegol Morwyn y Llyn a’r fan ble y cludwyd corff Arthur ymaith i’w orffwysfa olaf ar Ynys Afallon. 

Ewch am dro i gopa’r Wyddfa i gael gweld golygfeydd panoramig o’r lleoliadau chwedlonol hyn.   Teithiwch ar Reilffordd yr Wyddfa, yr unig reilffordd rac a phiniwn gyhoeddus ym Mhrydain sy’n dringo 3,560 tr i gopa’r mynydd uchaf yng Nghymru a Lloegr. Mwynhewch y sylwebaeth a geir yn y cerbyd sy’n adrodd hanes y dirwedd a’r mynydd. Cyn camu ar y trên, beth am ymlacio yn y theatr a mwynhau’r cyflwyniad 15 munud sy’n egluro hanes Rheilffordd yr Wyddfa ers iddi gael ei chreu.

Ym 1869, teithiai rheilffordd o Gaernarfon i Lanberis, ond yr unig ffordd i gyrraedd copa’r Wyddfa bryd hynny oedd wrth gerdded neu fynd ar gefn mul. Ar ôl amheuon cychwynnol, rhoddodd y tirfeddiannwr lleol, George Williams Duff Assherton Smith, ganiatâd i’w dir gael ei ddefnyddio i adeiladu Rheilffordd yr Wyddfa. Daeth y rheilffordd yn atyniad poblogaidd iawn i dwristiaid yn oes Fictoria ar ôl iddi agor ym 1896.

Cysylltwch â:  Rheilffordd yr Wyddfa, Llanberis, LL55 4TY  
Ffôn:  0844 4938120 

Rheilffordd Yr Wyddfa / e:  info@snowdonrailway.co.uk

Nid yw Cyngor Gwynedd yn gyfrifol am unrhyw gynnwys allanol

Website Sitemap

open site map
cyfeiriad a manylion cyswllt
Adran Economi a Chymuned, Cyngor Gwynedd, Caernarfon LL55 1SH | twristiaeth@gwynedd.gov.uk | 01286 679217
Hawlfraint © Cyngor Gwynedd 2012 | Telerau ac Amodau | Preifatrwydd  | Canolfannau Croeso
GwyneddConwyWales/Cymru
Tysca CMS