A   A   A
Canolfan Dŵr Gwyn Cenedlaethol Tryweryn - The National Whitewater Centre
Mae’r ucheldiroedd hyn yn wyrddach a fwy crwn o’i gymharu â chreigiau Eryri - er hyn maent yn parhau i fod yn fynyddig.  Mae Cadair Idris, Aran a’r Arennig yn drigfannau gwych i edrych i lawr ar draws tirlun o dirwedd amaethyddol traddodiadol, coedwigoedd a llynnoedd o harddwch ysblennydd.  Mi fydd darganfod yr ardal yn bleser pur.  Bydd llwybrau mynyddig tawel yn dringo a throelli i’r tiroedd uchel, ceir rheilffyrdd cul yn rhedeg wrth ochr y llynnoedd a drwy’r dyffrynnoedd, ac yng nghoedwig Coed-y-Brenin ceir man byd-enwog i feicio mynydd a cherdded.
196 150 Tref Bala Town

Bala

Pentref bach sydd yn cynnig croeso cynnes gyda’u hawyrgylch croesawgar a thafarndai traddodiadol. 


196 150 Corris

Corris

Hen bentref llechi gyda phrydferthwch gwahanol ac anghonfensiynol yw Corris, sydd wedi ei osod oddi fewn i Goedwig Dyfi, ar gyrion deheuol Eryri.


Dolgellau

Tref farchnad sydd wedi ei hadeiladu o garreg dywyll, golygus yw Dolgellau, a lleolir o dan Cadair Idris.  Mae ei strydoedd cul a’i sgwâr agored yn gartref i nifer o dafarndai a siopau da. 

Taith Mary Jones

Wrth ddilyn y daith linol hon, byddwch yn cerdded am 28 milltir ac yn mwynhau tirwedd godidog yr hen sir Feirionnydd; byddwch yn cychwyn y daith mewn dyffryn hardd wrth droed Cadair Idris ac yn terfynu wrth lannau Llyn Tegid. Byddwch yn cerdded ar lwybrau fydd â chaniatâd y tirfeddiannwr wedi ei sicrhau cyn mynd arnynt ac ar hyd rhai ffyrdd cyhoeddus; aiff y daith â chi dros fynydd-dir hardd a thrwy goetiroedd; ar hyd ffyrdd rhamantaidd cefn gwlad a ffyrdd mwy, prysurach. Byddwch yn rhyfeddu at lynnoedd a mynyddoedd hyfryd o’ch cwmpas.

Llwybr Mary Jones (PDF, 1.69MB)
Cymdeithas y Beibl - Bible Society

196 280 Mary Jones



Tal-y-Llyn - Otters/Dyfrgwn

download

Nid yw Cyngor Gwynedd yn gyfrifol am unrhyw gynnwys allanol

Website Sitemap

open site map
cyfeiriad a manylion cyswllt
Adran Economi a Chymuned, Cyngor Gwynedd, Caernarfon LL55 1SH | twristiaeth@gwynedd.gov.uk | 01286 679217
Hawlfraint © Cyngor Gwynedd 2010 | Telerau ac Amodau | Preifatrwydd  | Canolfannau Croeso
GwyneddConwyWales/Cymru
Tysca CMS