A   A   A
610 233 Llwybrau Llechi - Slate Trails

Y Dyffrynnoedd Llechi

O ddiwedd y 18ed Ganrif hyd at gychwyn yr 20ed Ganrif roedd cymunedau dyffrynnoedd llechi Gwynedd – Ogwen, Peris, Nantlle, Blaenau Ffestiniog a Chorris – yn ardaloedd diwydiannol prysur a deinamig. Rhyngddynt roedd dros 60 o chwareli a mwynfeydd yn cyflogi dros 18,000 o bobl. Creodd y chwarelwyr a’u teuluoedd gymunedau unigryw oedd yn bennaf yn Gymraeg eu hiaith ac Anghydffurfiol eu crefydd. Newidiodd y diwydiant llechi’r tirwedd, a gwelir hyd heddiw y tomenni o wastraff llechi, adeiladau’r chwareli ac olion y rheilffyrdd. Roedd y rhwydwaith o lwybrau a grëwyd er mwyn cysylltu’r mân bentrefi i’r chwareli, ysgolion, capeli a’r wlad o’u cwmpas yr un mor bwysig. Mae llawer o’r llwybrau yma ar agor o hyd. Maent yn cynnig cyfle i gerddwyr ddarganfod y dyffrynnoedd, ble gwelir fod llawer mwy iddynt na llechi yn unig. Wrth gerdded cewch olygfeydd ysblennydd o’r mynyddoedd, ynghyd â chip olwg ar waith a ffordd o fyw y chwarelwyr.

Bro Ogwen

Bu cloddio am lechi yn Nyffryn Ogwen ers yr Oesoedd Canol. Daeth y chwyldro mawr yn ystod y 18ed Ganrif wrth i’r Arglwydd Penrhyn uno’r mân chwareli ac adeiladu’r dramffordd i Borth Penrhyn ger Bangor. Erbyn heddiw, mae Chwarel Penrhyn dal ar agor, ac yn gyflogwr pwysig, ond mae gweddill y chwareli lleol wedi cau. Daw tro ar fyd wrth i hen weithdai trin llechi Felin Fawr gael eu troi yn adnodd ar gyfer diwydiannau newydd, ac wedi cau’r lein fach yn 1962, fe’i hail agorwyd mewn mannau fel llwybr i gerddwyr a beicwyr, fe’i gelwir yn Lôn Las Ogwen.

610 825 Map Llwybr Bro Ogwen Trail Map

Bro Peris

Chwarel Dinorwig ar lethrau mynydd Elidir oedd canolbwynt y diwydiant llechi yn Nyffryn Peris. Byddai nifer o’r chwarelwyr y dod o du allan i ardal Llanberis a’r arferiad oedd iddynt aros yn y baracs yn ystod yr wythnos, gan gyrraedd fore Llun a gadael brynhawn dydd Sadwrn. Er iddynt fod yn lefydd oer a llaith, daeth y baracs a’r caban ymochel yn adnabyddus am y trafodaethau am wleidyddiaeth, crefydd a llenyddiaeth a gynhaliwyd ynddynt. Heddiw mae llawer o Chwarel Dinorwig yn rhan o Barc Gwledig Padarn ac Amgueddfa Lechi Cymru.

610 825 Map Llwybr Bro Peris Trail Map

Bro Nantlle

‘Roedd trafferthion cludiant yn rwystr i ddatblygiad y diwydiant llechi yn Nyffryn Nantlle. Gyda dyfodiad tramffordd i’r cei yng Nghaernarfon yn 1828 ar gyfer cerbydau a dynnwyd gan geffylau, gwelwyd twf sylweddol yn chwareli Dorothea, Cilgwyn a Phen-ybryn. Yn 1848 addaswyd y dramffordd ar gyfer trên stêm. Yn y 1860au defnyddiwyd llawer o’r dramffordd wreiddiol fel rhan o’r rheilffordd newydd rhwng Caernarfon ac Afonwen, sef llwybr beicio Lôn Eifion erbyn hyn.

610 825 Map Llwybr Bro Nantlle Trail Map

Bro Ffestiniog

Tua dau gan mlynedd yn ôl, ardal o bentrefi bach a ffermydd gwasgaredig oedd Blaenau Ffestiniog. Gyda thyfiant y diwydiant llechi, cynyddodd poblogaeth plwyf Ffestiniog yn ystod y 19eg Ganrif o lai na 800 i dros 10,000. Yn wahanol i chwareli dyffrynnoedd Arfon, roedd bron yr holl weithfeydd yr ardal o dan ddaear. Y reswm am hyn oedd trwch y graig a orchuddiai’r lechen. Arferai’r chwarelwyr a’u teuluoedd ychwanegu at eu cyflogau drwy ofalu am dyddyn, ond gwaith caled oedd ceisio amaethu’r tir gwael anffrwythlon ar lethrau’r mynyddoedd. Mae’r tyddynnod gyda’u caeau bychan taclus wedi eu hamgylchynu gan waliau o gerrig sych a godwyd mor gelfydd, yn nodwedd gyffredin o’r ardaloedd llechi.

Bro Corris

Eistedda Corris yn nyffryn yr afon Dulas, heb fod yn bell o lethrau Cader Idris yn ne Eryri. Mae’r dyffryn yn goediog gyda chymysgedd o goed pˆin a choed llydanddail. Mae nifer o awgrymiadau am darddiad yr enw Corris; y cyntaf yw ei fod wedi ei enwi ar ôl mynach o’r enw Corus a oedd yn yr ardal yn y 7fed ganrif, neu ei fod wedi enwi ar ôl ‘Korus’, un o feibion Cunedda, a chynnig arall yw mai cor-ris yw’r tarddiad, sy’n golygu grisiau defaid. Credir rhan amlaf mai tarddiad yr enw Corris, ydy enw y mynach Corus. Dechreuodd y cloddio yn yr ardal tua 1810, ond ceir sôn am chwarel Aberllefenni tua 1500! Yn y blynyddoedd rhwng 1850 a 1900 roedd y diwydiant yn ffynnu. Cyflogwyd tua 800 yn y chwareli, ond yn erbyn heddiw ychydig iawn sydd yn gweithio ynddynt. Yn y cychwyn, roedd y llechi yn cael eu cludo gan geffylau ar hyd y ffordd i ymyl Derwenlas, ac yna mewn cychod i Aberdyfi. Yn yr 1850au adeiladwyd y rheilffordd, ar ôl hynny roedd y llechi yn cael eu cludo i Fachynlleth. Cafodd y rheilffordd ei gau yn 1948. Erbyn heddiw mae darn o’r rheilffordd wedi ail-agor i gludo ymwelwyr. Ceir amryw o atyniadau gwych argyfer twristiaid, yn ogystal â system o lwybrau a mannau picnic.

610 825 Map Llwybr Bro Corris Trail Map

Adran Economi a Chymuned, Cyngor Gwynedd, Caernarfon LL55 1SH | Hawlfraint © Cyngor Gwynedd 2018 | Telerau ac Amodau | Preifatrwydd  | [email protected] | 01286 679686
GwyneddConwy