Mae pawb yn mwynhau siopa - y rhan fwyaf ohonom ni beth bynnag. Caiff siopau eu hystyried fel un o’n prif ddifyrrwch ynghyd â cherdded a gweld golygfeydd. Efallai eich bod yn poeni na fydd llawer o siopau ar gael ynghanol y bryniau a mynyddoedd Eryri. Ond nid oes rhaid!
Canolfan Grefft Corris
Digonedd o gynnyrch lleol ar gael yn y ganolfan arloesol. |
|
Inigo Jones
Digonedd o gynnyrch llechi ar gael. |
|
Portmeirion
Am yr anrheg priodas delfrydol ewch i wefan Portmeirion. |
Gallwch siopa yn y mannau mwyaf annhebygol yma. Yng nghanol y goedwig yng Nghorris er enghraifft, ceir pentref crefftau ble, yn ôl un cefnogwr ‘mae modd treulio’r diwrnod cyfan yno’. Wrth deithio ar hyd Eryri mae modd dod ar draws gweithdai crefft unigol ym mhob man, megis Bryncir, Trefriw a Dinas Mawddwy.
Nid yw’r siopau yn anhysbys, gallai’r strydoedd mawr hyn fod yn unrhyw le. Fel arfer mae’r siopau yn eithaf bach - ac yn well o’i achos. Ceir siopau llawn cymeriad a phersonoliaeth, sydd yn gwerthu cynnyrch sydd wedi eu hysbrydoli gan ddiwylliant, etifeddiaeth cyfoethog a harddwch naturiol Eryri. Gwerthir cynnyrch cyfoes ynghyd â ffefrynnau traddodiadol. Yn Inigo Jones, Penygroes, mae’r lechen Gymreig yn cael ei ddefnyddio i greu pob math o wahanol anrhegion ac eitemau gardd. Crefftau llechi, gwaith coed a chelf gwreiddiol yw’r tri o’r sgiliau sydd yn cael eu harddangos ym Mharc Glynllifon, ger Caernarfon, ble mae cyn-weithdai wedi cael eu trawsnewid i fod yn ganolfannau grefftau a’r crefftau hynny yn llawn dychymyg.
Mae’r pentref sydd â naws ffantasîol, Portmeirion yn cynnig cyfle siopau unigryw. Yng nghanol y bythynnod bach sydd wedi’u hadeiladu yn arddull yr oes Tuduraidd, pagodau Tsieineaidd a phitsas Eidaleg gallwch siopa am grefftau o ansawdd uchel, nwyddau i’r cartref, anrhegion gwahanol ac wrth gwrs- crochenwaith Portmeirion.
Caiff rhywbeth tebyg ei gynnig ym Metws y Coed - ond gyda llawer mwy o ddewis. Mae gan y gyrchfan fynyddig hon enw da fel man siopa ynghyd â cherdded, diolch i’r dewis eithriadol o grefftau, dillad a siopau offer awyr agored sydd ar gael ar hyd y brif stryd.
Cofiwch, nid yw’n ddim o’i gymharu gyda stryd fawr Bangor, yr hiraf yng Nghymru, ble mae modd siopau am oriau. Mae Caernarfon yn dal i fyny, diolch i ganolfan siopa newydd yn Noc Fictoria a elwir yn Celtica, a leolir ar lan dŵr sydd â chefndir hanesyddol sef yr Afon Menai. Fan hyn yn yr adeiladau coeth yma, yw'r lle i fod am greadigrwydd mewn tecstiliau, celf a chrefftau Celtaidd.
Mae Celtica yn gynnig modern ar farchnadfa draddodiadol ble roedd modd prynu rhywbeth a phopeth i gyd o dan yr un to. Man arall sydd yn ceisio gwneud yr un peth yw Kerfoots, Porthmadog. Mae’r adeilad Fictorianaidd cain hwn, gyda’i grisiau troellog a’i nenfwd cromennog yn chwedlonol yng Ngogledd Cymru am ei hedrychiad a’i chynnyrch o ansawdd uchel. Ceir llawer o gefnogwyr i’r siop. ‘Does dim i’w churo ym Mirmingham’ meddai un o’i chwsmeriaid rheolaidd.
Am brofiad siopa go wahanol, cynhelir marchnadoedd a marchnadoedd ffermwyr ble mae modd prynu cynnyrch lleol, ffres sydd heb deithio milltiroedd lu. Maent yn achosion cymdeithasol hefyd - fel mae’n disgwyl pan ddaw y bobl o’r wlad i’r pentrefi.