A   A   A
Y tirwedd a'r Rhinogydd and landscape

Rhinogydd

East of Harlech, LL45 2LP (map)
Rhinogydd

Rhinogydd

Mae'r Rhinogydd yn ystod unigryw o fynyddoedd creigiog serth wedi eu lleoli i'r dwyrain o Harlech yn hanner deheuol Parc Cenedlaethol Eryri. Fel un o’r cadwyni o fynyddoedd gwylltaf sy’n croesawu’r nifer lleiaf o ymwelwyr, maent yn ffurfio môr o greigiau mawr a chrug dwfn. Yn ddynodedig fel Gwarchodfa Natur Genedlaethol, mae hefyd yn Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig ac Ardal Cadwraeth Arbennig. Mae'r warchodfa yn cynnwys ardal eang o rostiroedd ucheldirol ac fe’i ystyrir mor werthfawr ei fod wedi ei ddynodi yn Warchodfa Biogenetig: rhan o rwydwaith o gynefinoedd ar draws Ewrop a sefydlwyd i warchod amrywiaeth genetig bywyd gwyllt Ewrop.

Oherwydd natur y tirlun anghysbell a garw, mae'r ardal hon yn meddu ar gymeriad ei hun, gan feithrin ymdeimlad o dirwedd sydd wedi mynd yn angof. Mae hwn yn un o sgil-effeithiau daeareg y rhanbarth a gyfeirir ato weithiau fel Cromen Harlech, dyma rai o'r ffurfiannau creigiau hynaf yn y DU, ac maent yn arwain at dirffurfiau sylweddol gwahanol. Mae'r gadwyn yn ymestyn tua 20 km o'r gogledd i'r de gyda'r copaon uchaf yn ei hanner deheuol. Nid y copaon lle mae'r gadwyn yn cymryd ei enw, Rhinog Fawr (720m) a Rhinog Fach (712m), yw'r uchaf, ond maent y mwyaf ysblennydd o bell ffordd. Gyda llethrau serth, creigiog a chymhleth, mae’r llwybrau i'r copaon bob amser yn ddiddorol.

Mae gweundiroedd ucheldir Cymru yn cynnig cyfleoedd gwych i wylio adar ac nid yw’r Rhinogydd yn eithriad. Mae ymwelwyr yr haf yn cynnwys Mwyalchen y Mynydd, Corhedydd y Waun a Thinwen y Garn. Y Cudyll Bach yw aelodau mwyaf prin o deulu’r Hebogiaid i feddiannu’r lle rhyfeddol. Maent yn rhannu tiriogaeth gyda’r Hebogiaid Tramor, Bodaod Tinwyn a Chudyllod Coch, sy'n ysglyfaethu ar yr adar llai. Yn nodedig, mae’r gweundir yn gartref i boblogaethau bach o’r Rugiar Ddu  a’r Rugiar Goch prin. Mae gyr o eifr gwyllt hefyd yn byw yn yr ardal ac fe’u gwelir yn aml yn ymdroelli ar draws y rhannau llai hygyrch o'r gadwyn.

Wrth iddynt drwytho’r dirwedd gyda lliwiau byw o binc a phorffor, mae blodau lliwgar y Grug yn dynodi fod yr haf yn dechrau dod i ben. Mwynhewch yr arddangosfa lachar o Degeirian Brych y Rhos yn gynharach yn y tymor. Yn hynod, mae'r safle hefyd yn cynnal yr Ceneirian Bach anghyffredin. Mae tegeirian bach a swil yma yn tueddu i dyfu o dan y Grug, Llwyni Llus, a Chorsydd, gan ei gwneud yn anodd eu gweld. Mae'r ucheldir garw a’r coetir derw a lleolir ar y llethrau is yn cynnal poblogaethau eithriadol o Gen, Rhedyn, Mwsogl a Llysiau'r Afu.

Mae’n haws cael mynediad i gopaon y gadwyn o'r gorllewin. Mae dau gwm, Cwm Nantcol a Chwm Bychan, yn darparu dwy fynedfa a gellir ei gyrraedd o bentref Llanbedr. Mae'r llwybr cerdded mwyaf poblogaidd yn dechrau ar y Grisiau Rhufeinig, o faes parcio Cwm Bychan. Mae digon o gyfleusterau parcio da ar gael yn yr ardal.

Mae Mynyddoedd Rhinogydd yn boblogaidd gyda cherddwyr mynydd sydd yn chwilio am brofiad mwy anghysbell. Mae ardal yn cael ei ystyried fel rhai o'r tiroedd mwyaf anodd yng Nghymru, felly dylech ddisgwyl lwybrau sy'n greigiog a serth.

Adran Economi a Chymuned, Cyngor Gwynedd, Caernarfon LL55 1SH | Hawlfraint © Cyngor Gwynedd 2017 | Telerau ac Amodau | Preifatrwydd  | twristiaeth@gwynedd.llyw.cymru | 01286 679686
GwyneddConwy