A   A   A
Sgwâr Batri Portmeirion Battery Square

Portmeirion

Pentref Portmeirion, Penrhyndeudraeth, LL48 6ET (map)
01766 770000
[email protected]
Portmeirion Gardens

Pentref Portmeirion Village
Mae Portmeirion yn bentref ymwelwyr poblogaidd a hardd. Ers ei sefydlu yn 1925, treuliodd Syr Clough Williams-Ellis 50 mlynedd yn dylunio ac adeiladu'r pentref arddull Eidalaidd unigryw hyn, gan dalu teyrnged i bensaernïaeth Môr y Canoldir. Mae'r pentref yn ffurfio tirwedd unigryw ar wahân ei hun ac yn ogystal â bod yn enwog fel atyniad pensaernïol rhyngwladol, mae'n cael ei gysylltu fel lleoliad ffilmio'r gyfres deledu cwlt y 1960au The Prisoner.

Roedd prif adeilad y gwesty a bythynnod "Cesig Gwynion", "Y Gyfarchfa" a "Môr Forwyn" yn stad breifat o'r enw Aber Iâ, a datblygwyd yn y 1850au ar safle  ffowndri ac iard gychod o ddiwedd y 18fed ganrif. Newidiodd Williams-Ellis yr enw i Portmeirion. 'Port', oherwydd ei leoliad arfordirol, a 'Meirion' o Sir Feirionnydd. Mae nifer o lwybrau yn lledu o gyffiniau Bwa'r Fuddugoliaeth, i mewn i Goed y Gyfarchfa lle daw cynllun Syr Clough ar gyfer ei erddi i'r amlwg: mae sawl golygfa gul o addurniadau prydferth fel 'Digonedd' torlun metel gan Hans Feibusch.

Wedi'i leoli mewn 70 erw o goetir cymysg, mae Portmeirion yn ymfalchïo mewn amrywiaeth cyfoethog o blanhigion prin ac anarferol. Mae'r amrywiaeth enwog hon yn cael ei ymgorffori yn yr anialwch hudol sydd yn y gerddi Gwyllt a gafodd eu datblygu i raddau helaeth gan y perchennog blaenorol, George Henry Caton Haigh, awdurdod byd-eang ar goed blodeuog a phlanhigion egsotig yr Himalaia. Mae'r goedwig yn llawn o goed Gwallt y Forwyn, coed Conwydd tal, Gingko biloba a rhododendron anferth, yn enwedig y Rhododendron  falconeri gyda'i dail cefn-frown golygus. Mae hinsawdd y penrhyn yn dyner iawn oherwydd ei leoliad isel cysgodol rhwng aberoedd afonydd Glaslyn a Dwyryd a dylanwad cynhesol Llif y Gwlff. Mae rhew yn brin gan felly ganiatáu i nifer o wahanol blanhigion ffynnu, megis dail anferth y Gunnera Manicata o fforestydd glaw Brasil.  Mae'n debyg y byddid wedi plannu neu aildyfu'r coed derw a welir yma heddiw fel egin-goed hunan-hadu ers plannu coed egsotig tua'r 1840au.

Wrth gerdded ar draws tywod Bae Traeth Gwyn i gyfeiriad y Trwyn ar lanw isel, fe welir pa mor eang yw'r Gwyllt. Trwy chwilota o dan y creigiau, fe ddowch o hyd i ogofâu a cheunentydd cudd. Lle mae'r gwynt wedi chwythu'r tywod yn bocedi pridd mwy alcalin, gwelir amrywiaeth difyr o rywogaethau planhigion brodorol; llwyn o goed piswydd Euonymus Europaeus fan yma, blodau pinc y crwynllys fan draw.

Ymhellach draw i gyfeiriad trwyn y penrhyn, mae'r planhigion yn newid yn ddramatig. Mae yma glytiau o weundir gyda chymysgedd o rug brodorol ar y creigiau, heb eu cyffwrdd bron gan ddyfodiad y coed egsotig. Ar yr aber, mae'n bosibl arsylwi Gweilch yn pysgota, a Chrehyrod Bach ac adar hirgoes ar waith.

Yn ystod y dydd, mae ymwelwyr yn talu tâl mynediad i'r pentref. Fodd bynnag, nid yw plant o dan 4 yn talu ac mae mynediad am hanner pris ar ôl 3.30pm. Mae cyfleusterau parcio digonol ar gael wrth ymyl y fynedfa, gan gynnwys nifer o fannau parcio i'r anabl.
Adran Economi a Chymuned, Cyngor Gwynedd, Caernarfon LL55 1SH | Hawlfraint © Cyngor Gwynedd 2017 | Telerau ac Amodau | Preifatrwydd  | [email protected] | 01286 679686
GwyneddConwy