Atyniadau Lleol
Mae Porthmadog yn cynnig dewis eang o siopau ac atyniadau gwych. Ceir tair rheilffordd gul: Y Gymraes (i Gaernarfon - ychwanegiad newydd), taith Ucheldir Treftadaeth Gymreig sydd ychydig yn fyrrach (enillydd ‘Wales in Bloom’ yn 2008 am ei gorsaf reilffordd), a'r daith i Ffestiniog. Ar wahân i’r rheilffyrdd ceir atyniadau eraill, megis Melin yr Wyddfa a’r Grisiau Mawr sydd yn fan rhestredig Gradd II, uwchben yr harbwr.
Amgueddfa Forwrol
Caiff hanes Porthmadog fel tref harbwr prysur ac allforwyr llechi ei hadrodd yn yr Amgueddfa Forwrol.
Tirnod fwyaf enwog Porthmadog yw’r cob, milltir o arglawdd a gafodd ei adeiladu yn y 19eg ganrif gan y mentrwr William Madocks, roedd yn beirianneg enfawr a wnaeth hefyd adennill llawer o dir amaethyddol angenrheidiol.
Traeth y Garreg Ddu
Wrth deithio dwy filltir i’r gorllewin fe ddewch o hyd i Forfa Bychan a Thraeth y Garreg Ddu, traeth gyda phentir caregog aml-liw a cheudyllau pan fo’r llanw allan. Ychydig i’r dwyrain mae Portmeirion, pentref Eidaleg swynol, sydd wedi ei osod ar benrhyn ei hun.
Blaenau FfestiniogCricciethPorthmadogTrawsfynydd
Mynedfa i Eryri - Porthmadog - Gateway to SnowodniaWikipedia - PorthmadogGwybodaeth Twrisitiaeth Porthmadog Tourist InformationBBC - Porthmadog
Nid yw Cyngor Gwynedd yn gyfrifol am unrhyw gynnwys allanol
Bangor, Caernarfon a Llanberis Bae Ceredigion Dyffryn Conwy...
Bangor Bethesda Caernarfon...
Aberdyfi Abermaw Harlech...
Blaenau Ffestiniog Criccieth Porthmadog...
Aberdaron Abersoch Nefyn...
Bala Corris Dolgellau...
Asiantau Hunan Ddarpar...
Gweithgareddau Siopa Teithlen...
Iaith Gymraeg Hanes Teulu Hanes...
Sherpa - Amserlen Bws a Llwybrau Cerdded Yr Wyddfa...