Porth Neigwl
Daw’r enw dramatig Saesneg ar yr ardal hon oherwydd ei siâp hanner cylch, sydd yn tebygu i geg llydan agored. Daw ei dimensiwn uffernol oddi wth nodweddion gorllewinol, ffyrnig, sydd yn cynnig ychydig iawn o gysgod i forwyr. Mae brigdonwyr, ar y llaw arall, yn ei drin fel nefoedd, gan fod tonnau gwych ar gael yn gyson yma, yn enwedig ar ben ogleddol y traeth. Dylai nofwyr gymryd pwyll yma oherwydd cerrynt cryfion. Yn ogystal, rhaid bod yn ofalus ar frig y clogwyni meddal y clogfaen clai, sef gweddillion o’r Oes yr Iâ diwethaf (caiff cerddwyr eu cynghori i gadw’n glir oddi wrth y clogwyni ac oddi wrth fôn y clogwyn rhag ofn iddynt ddisgyn). Mae’r traeth tywodlyd euraidd hwn gydag ambell i garreg man yn ymestyn am oddeutu pedair milltir.
| Cyfleusterau a Gwasanaethau Syrffio Parcio Ffôn argyfwng Cludiant cyhoeddus Gwersyllfa Gwobr Arfordir Las | | %20Cricet%20Porth%20Neigwl%20-%20Hells%20Mouth%20Cricket.JPG) |