A   A   A
610 233 Porthdinllaen (Turtle Photography)

Llŷn neu ‘Braich yr Wyddfa’, yw’r 24 milltir o dir prydferth sydd yn gwynebu tuag at Môr yr Iwerydd.  Caiff ei brydferthwch ei hadnabod diolch i’r statws swyddogol ‘Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol’ - sydd yn deillio yn ôl dros 50 o flynyddoedd. Golygai hyn fod ei forlin, y milltiroedd o draethau tywodlyd, pentiroedd uchel, cildraethau cysgodol a’r bae agored sy’n llawn bywyd gwyllt, yn cael eu gwerthfawrogi yn genedlaethol, ac mae'r rhain oll yn cael eu cydgysylltu gan Lwybr Arfordirol Llŷn.  Mae’n gadarnle o ddiwylliant ac iaith Gymreig gydag etifeddiaeth grefyddol ddiddorol.  Gall ymwelwyr olrhain Taith y Pererinion ar hyd y penrhyn cyn teithio ar gwch i Ynys Enlli, a gafodd ei ddynodi fel Gwarchodfa Naturiol Cenedlaethol gan Cyngor Cefn Gwlad Cymru.

700 536 (196x150) Llun Ffrindiau - Friend Taking Photo

Aberdaron

Pentref bychan, darluniadol, llawn bythynnod a thai gwyn pysgotwyr, sydd wedi ei godi ar frig y Llyn. Caiff Aberdaron ei adnabod fel Pen Tir Cernyw (Land’s End) Gogledd Cymru.


Pwllheli 196

Abersoch 

Yn wreiddiol porth pysgota oedd Abersoch ond erbyn hyn mae’n gyrchfan glan y môr gyda thraethau euraidd teg.

 


Nefyn 196

Nefyn

Pentref poblogaidd ger y môr gyda harbwr yw Nefyn. Mae ei  bae ysgubol yn arwain at ddwy filltir o draeth a golygfeydd darluniadol Porthdinllaen, sydd nawr yn eiddo i’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol. 

Pwllheli

Caiff ei adnabod fel prif ardal Pen Llŷn, a cheir cymysgedd hyfryd a gwahanol - o dref farchnad ac ardal glan y môr. Mae hefyd yn gyrchfan o safon ar gyfer hwylio gyda cyfleusterau rhagorol ar gyfer chwaraeon dŵr.


Pwllheli 196

 


610 233 Syrffio Porth Neigwl - Surfing Hell's Mouth (Turtle Photography)
Share
Ebostiwch ffrind
A A A

Nid yw Cyngor Gwynedd yn gyfrifol am unrhyw gynnwys allanol

Website Sitemap

cyfeiriad a manylion cyswllt
Adran Economi a Chymuned, Cyngor Gwynedd, Caernarfon LL55 1SH | twristiaeth@gwynedd.gov.uk | 01286 679217
Hawlfraint © Cyngor Gwynedd 2009
GwyneddConwyWales/Cymru
Tysca CMS